Bu tipyn o drafod dros y dyddiau diwethaf ynghylch astudiaeth sy'n awgrymu bod plant i rieni di-grefydd yn arddangos mwy o allgaredd na phlant o deuluoedd crefyddol. Gan fod gan gymaint o bobl grefyddol yr argraff mai ganddynt hwy y mae'r monopoli tros foesoldeb ac allgaredd, mae'n debyg bod y newyddion wedi taro nerf.
Awgrymwyd rhai rhesymau posibl am y canlyniadau. Er enghraifft, oherwydd y gred gyffredinol (a di-sail) bod galw'ch hun yn Gristion gyfystyr, yn awtomatig, â bod yn berson moesol a chydwybodol, efallai, yn baradocsaidd, bod hynny'n gallu arwain rhai Cristnogion i anghofio rhoi llawer o bwys ar ymddygiad. Wedi'r cyfan, os ydych eisoes yn 'berson da' yn eich hanfod, nid oes angen ymdrechu i ddangos hynny. Ar y llaw arall, yn achos anffyddwyr, eu hymddygiad yn unig sy'n penderfynu ai person da ydynt ai peidio.
Nid wyf yn siwr a yw hynny'n dal dŵr. Yn wir, dylai anffyddwyr wrthod y demtasiwn i glochdar am yr astudiaeth, sydd, hyd y gwelaf i, yn ddiffygiol. Yn un peth, nid wyf wedi f'argyhoeddi bod 'gêm yr unben' yn ffordd arbennig o effeithiol o fesur allgaredd (yn enwedig mewn plant). A dweud y gwir, rwy'n ansicr ei bod yn bosibl 'mesur' allgaredd mewn modd ystyrlon o gwbl (heb sôn am y ffaith bod modd cwestiynu bodolaeth allgaredd yn y lle cyntaf). Mae gormod o ffactorau amrywiol eraill i'w hystyried, ac mae'n anodd, onid amhosibl, eu rheoli i gyd. Gydag astudiaethau cymdeithasegol, yr her yw sicrhau bod pob ffactor wedi'i reoli heblaw am yr un sy'n cael ei fesur; nid yw'n glir bod hynny wedi digwydd, fan hyn. Yn ogystal, tybwyd ym mhob achos bod safbwynt diwinyddol y plant (os oes modd i blant bach feddu ar y fath beth) yr un fath â rhai eu rheini. Ar ben hyn i gyd, gweddol fach oedd y gwahaniaeth beth bynnag.
Pwyll piau hi, felly. Mae llawer o anffyddwyr wedi bod yn brysur yn rhannu'r newyddion, ond rwy'n ofni eu bod efallai'n euog o rywbeth tebyg i'r Cristnogion hypothetig a ddisgrifiais uchod. Gan fod anffyddwyr i fod yn bobl mwy sgeptigol a rhesymegol, dylem fod yn wyliadwrus nad ydym yn cymryd hynny'n ganiataol. Os ydym yn hawlio rhyw allu arbennig i osgoi llyncu pethau'n ddi-gwestiwn, gall y dybiaeth hunanfodlon honno ein harwain i esgeuluso ein hymddygiad ac i wneud yr union beth hwnnw.
Cyn i unrhyw Gristnogion gynhyrfu gormod o weld anffyddiwr rhonc yn beirniadu'r astudiaeth yma, dyma gloi trwy'u hatgoffa bod hyn i gyd yn amherthnasol yng nghyd-destun yr hen ddadl rhwng crefydd ac anffyddiaeth. Hyd yn oed petai'r gwrthwyneb i ganlyniadau'r astudiaeth yn wir, sef bod ffydd mewn duw yn peri i bobl ymddwyn yn well, ni fyddai hynny'n ddadl o fath yn y byd o blaid crefydd. Y rheswm syml am hynny yw'r ffaith nad oes tystiolaeth o gwbl bod duw yn bod yn y lle cyntaf. Heb y dystiolaeth honno, nid oes pwynt ceisio mynnu bod crefydd a moesoldeb yn mynd law yn llaw. Dadlau o blaid celwydd defnyddiol fyddai hynny.
O ran diddordeb, be yn union ydi'r ddadl yn erbyn celwydd defnyddiol?
ReplyDeleteCwestiwn teg.
ReplyDeleteYn un peth, byddai dadlau o blaid crefydd, er nad yw'n wir, ar y sail bod ei angen er mwyn gwneud i bobl ymddwyn yn well, yn eithriadol o nawddoglyd. "Na, nid oes angen crefydd arna' i wrth gwrs, ond fyddai'r plebs methu ymdopi heb ffydd".
Yn ogystal, hyd yn oed petai'n wir bod crefydd o fudd mewn un ffordd (safbwynt rwy'n ei wrthod beth bynnag), erys y ffaith ei bod yn parhau i achosi problemau mewn meysydd eraill. Felly petai crefydd yn angenrheidiol fel sail ar gyfer moesoldeb, mae perygl y byddai hynny'n gwaethygu'r modd y mae crefydd yn amharu ar, e.e. ymchwil wyddonol. Mae'n anorfod bod adeiladu celwydd ar ben celwydd, hyd yn oed os oes rhai manteision, yn mynd i esgor ar lawer o sgil-effeithiau trafferthus.