14/11/2015

Paris. Eto.

Erbyn hyn mae'n anodd canfod yr egni i ddychryn am ddigwyddiadau fel y terfysg ym Mharis neithiwr. Maent yn rhy gyfarwydd o lawer yn ddiweddar. Anobaith blinedig rwy'n ei deimlo'n bennaf.

Beth mae'r Wladwriaeth Islamaidd yn ceisio'i wneud? Mae'u fersiwn o'r ffydd fwslemaidd yn apocalyptaidd, yn llythrennol. Eu nod yw denu byddinoedd 'Rhufain' (sef y gorllewin) i'r Dwyrain Canol, ac i ardal Dabiq yn Syria yn enwedig (rhanbarth sydd bellach yn eu meddiant). Yn ôl hen broffwydoliaeth, bydd brwydr fuddugol yno'n esgor ar ddiwedd y byd (sydd, yn eu tyb hwy, yn beth i'w ddeisyfu). Er mwyn gwireddu'r senario eschatolegol yma, mae gwylltio'r gorllewin a'u pryfocio i ymateb yn fyrbwyll yn strategaeth bwrpasol. Rhyfel 'clash of civilisations' rhwng y 'gorllewin' ac 'islam' yw eu hunion obaith. Wrth reswm, dylem bwyllo ac osgoi llyncu'r abwyd.

Yn yr un modd, maent yn awyddus i gynhyrfu rhagfarn yn erbyn mwslemiaid yng ngwledydd y gorllewin, er mwyn ein polareiddio. Y peth olaf y mae'r Wladwriaeth Islamaidd am ei weld yw mwslemiaid wedi'u cymhathu'n ddedwydd yng ngwledydd democrataidd, rhyddfrydol a seciwlar Ewrop. Ystyrier y targedau: bwytai a theatr, ar nos Wener, yn orlawn o bobl ifainc o bob tras a chefndir yn cymysgu'n gosmopolitanaidd braf. Diau hefyd bod gweld miloedd o ffoaduriaid yn derbyn croeso cynnes ym mhrifddinasoedd canol Ewrop wedi bod yn atgas i'r terfysgwyr. Mae troi 'brodorion' Ewrop yn erbyn y lleiafrifoedd mwslemaidd, a vice versa,  yn ran hanfodol o'u strategaeth. Dagrau pethau yw ei bod yn debygol o fod yn weddol llwyddiannus. Mwy na thebyg, bydd braw neithiwr yn gaffaeliad i bleidiau asgell-dde senoffobig Ewrop.

Yn anffodus, mae'n debyg bod o leiaf un o'r ymosdwyr wedi teithio i Ffrainc o Syria trwy Wlad Groeg fel un o'r miloedd o ffoaduriaid sydd wedi bod yn dilyn trywydd tebyg yn ddiweddar. Ni fyddai'n syndod os oedd y terfysgwyr wedi bwriadu i ni ddarganfod hynny, er mwyn ennyn adwaith cas yn erbyn ffoaduriaid. Wrth gwrs, ffoi rhag y Wladwriaeth Islamaidd y mae bron pob un o'r bobl yma, ond mae'r paranoia bod ceffylau Trojan terfysgol yn eu plith yn sicr o waethygu ymhellach.

Cliché diog yw 'maent yn ein casáu oherwydd ein rhyddid' ar un olwg, ond rhaid derbyn bod llawer o wirionedd yn yr ymadrodd. Mae ffwndamentaliaid crefyddol yn casáu rhyddfrydaeth, sy'n mynd yn hollol groes i'w hideoleg theocrataidd gormesol. Dymuniad arall ganddynt felly yw difa'r ryddfrydaeth honno. Yn anffodus, ymddengys ein bod yn rhy barod i wneud hynny ein hunain, oherwydd ymateb ein llywodraethau ar ôl digwyddiadau fel hyn, bron bob tro, yw i erydu ein hawliau sifil a'n rhyddid. Cri ceidwadwyr 'gorllewinol' ar ôl terfysg yw bod angen grymuso'r gwasanaethau diogelwch ymhellach, trwy eu galluogi i glustfeinio ar bawb; yn eu hôl hwy, mae gwrthwynebu hynny gyfystyr ag ildio i'r ymosodwyr. Y gwrthwyneb sy'n wir yn fy marn i; ildio yw gwireddu dyheadau'r gelyn trwy ddifetha ein rhyddid ein hunain ar eu rhan.

Yn ogystal, rwy'n sicr nad oes fawr o obaith heb dderbyn y gwirionedd syml mai crefydd sy'n ysgogi'r Wladwriaeth Islamaidd. Mae tuedd gyffredin i fynnu nad 'mwslemiaid go iawn' mohonynt, ac mae hyd yn oed hashnod o'r enw #TerrorismHaNoReligion ar Twitter ar hyn o bryd. Lol amlwg yw hynny. Wrth reswm, mae yna ffactorau hanesyddol, gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol yn gyfrifol am greu'r amodau sy'n ffafriol i grwpiau fel y Wladwriaeth Islamaidd. Ond nid yw cydnabod eu natur grefyddol amlwg yn golygu diystyru'r ffactorau eraill. Imperialwyr theocrataidd ydynt, a'u pryd ar goncwest crefyddol. Mae'n amlwg yn wir (ac mae'n ddigalon bod angen egluro wrth rai pobl) nad yw pob mwslem yn cefnogi terfysgaeth. Ond mae'r un mor wir mai mwslemiaid yw'r terfysgwyr hyn. Nid oes gennyf y syniad lleiaf beth yw'r ateb llawn i'r hunllef yma, ond mae cydnabod cymhellion y terfysgwyr, o leiaf, yn fan cychwyn hanfodol.

No comments:

Post a Comment