02/11/2016

Y broblem â deddf Godwin

Mae unrhyw un sydd wedi ffraeo am wleidyddiaeth ar y rhyngrwyd wedi dod ar draws 'deddf Godwin'. Fe'i bathwyd gan ddyn o'r enw Mike Godwin yn y 1990au, ac roedd ei fersiwn wreiddiol ef yn osodiad digon syml: wrth i drafodaeth ar y we fynd yn ei blaen, bydd rhywun, yn hwyr neu'n hwyrach, yn gwneud cymhariaeth â'r Natsïaid.

Ers hynny, mae ystyr y 'ddeddf' wedi esblygu. I lawer, mae'n golygu bod y person cyntaf i grybwyll y Natsïaid wedi colli'r ddadl yn awtomatig. Mae hefyd wedi ehangu i gyfeirio at gyfeiriadau at ffasgaeth yn gyffredinol, nid Natsïaeth yn unig. Defnyddir y ddelwedd isod yn aml:


Mae'n wir, wrth gwrs, bod llawer o bobl yn or-barod i ddefnyddio enw gwenwynig y Natsïaid fel arf rethregol. Dylid bod yn ofalus, oherwydd mae taflu'r label o gwmpas pan nad yw hynny'n briodol (cofio 'Bushitler'?) yn ei gwneud yn anos i'w defnyddio pan mae'n addas. A dyna'r pwynt: mae yna achosion prin pan mae galw rhywun yn ffasgydd (os nad Natsi) yn gyhuddiad cwbl ddilys.

Un o'r camgymeriadau mwyaf y gallwn ei wneud wrth ystyried dyddiau tywyll ffasgaeth ail chwarter y ganrif ddiwethaf yw tybio nad yw'n bosibl iddynt ddigwydd eto. Mae tuedd i feddwl am yr holl beth fel cartŵn, bron, fel rhywbeth a ddigwyddodd ar blaned arall heb unrhyw berthnasedd i'n hoes fodern ni. Ond pobl yn trin pobl oedd ffasgaeth; nid oedd unrhyw beth lledrithiol yn perthyn i'r ffenomen. A'r gwir yw bod llawer o'r hyn a welwn heddiw yn debyg iawn i'r hyn a arweiniodd at ffasgaeth yn Ewrop yn y gorffennol cymharol agos.

Ie: ffordd hirwyntog arall o alw Donald Trump yn ffasgydd eto fyth yw'r blogiad hwn. Rwy'n grediniol ei fod yn ticio'r blychau, ond hyd yn oed os oes modd hollti blew yn academaidd, nid yw'r cyhuddiad yn chwerthinllyd o bell ffordd.

Gwers amlwg i'w dysgu o'r hyn a welwyd yn Ewrop yn y 1920au a'r 1930au yw pwysigrwydd osgoi gwneud yr un camgymeriad eto. Y gwir yw bod llawer iawn o'r hyn y mae Trump yn ei wneud (a'r dde eithafol ymhob man) yn frawychus o gyfarwydd. Mae ymateb i bobl sy'n gwneud y pwynt pwysig hwnnw trwy weiddi 'deddf Godwin!' yn ddi-feddwl yn beryglus. Modd o gau'r drafodaeth lawr yw hynny, ac mae angen ei herio. Rwy'n besimistaidd iawn am y blynyddoedd nesaf, ac mae atgoffa'n hunain o hanes datblygiad ffasgaeth yn bwysicach heddiw nag erioed.

No comments:

Post a Comment