04/02/2019

Cofio

Pob hyn a hyn, mae rhywun yn penderfynu paentio dros y graffiti enwog "Cofiwch Dryweryn" ar ddarn o hen wal ger Llanrhystud, ac mae rhywun arall wedyn yn mynd ati i adfer y geiriau gwreiddiol. Fe ddigwyddodd eto ddoe, ar ôl i ryw jôcar baentio "Elvis" dros y cwbl. O fewn dim o dro, ail-baentiwyd yr hen eiriau a sicrhawyd bod gyrrwyr yr A487 yn cael eu hatgoffa drachefn i gofio am foddi Capel Celyn yn hytrach nag am Mr Presley.

Mae'n wir bod grwgnach wedi bod yn y gorffennol pan mae'r graffiti wedi cael ei anharddu, ond am ba bynnag reswm mae'r ymateb diweddaraf wedi bod yn neilltuol o flin. Nid oes rheswm call am hynny yn fy marn i. Mae ambell un wedi mynd mor bell â galw'r enghraifft newydd yma yn 'hate crime', sy'n eithriadol o wirion.

Yr hyn sydd angen ei ddeall yw mai'r ail-baentio rheolaidd sy'n gwneud y graffiti'n eiconig, nid unrhyw fersiwn benodol ohono. Bydded i ni fod yn onest am hyn: mae'r graffiti ei hun, fel darn o gelfyddyd, yn ddigon di-nod. Y symlrwydd di-urddas yw'r union beth sy'n galluogi unrhyw genedlaetholwyr cyfagos i fynd ati i fod yn arwyr trwy ei adfer fel guerrillas fin nos o fewn oriau. Mae'r ffaith bod yna rywun bob tro mor barod i fynd i'r gâd i roi'r neges yn ôl yn ei le mor sydyn yn symbol rymus a radical ynddi'i hun.

Dyma pam rwy'n amheus o'r galwadau i 'warchod' y safle. Yr adnewyddu cyson, y nôl ac ymlaen chwareus, sy'n gwneud yr holl beth yn ddiddorol. Byddai ei rewi mewn amser a'i wneud yn 'swyddogol' yn ei ddifetha, yn fy marn i. Mae yna le i gofebau ffurfiol, yn sicr, a dylid cael un i gofio Tryweryn, ond dylem hefyd gadw lle anrhydeddus i ymdrechion answyddogol, byrfyfyr, amrwd, ychydig bach yn rybish, ac (yn bwysicach oll) byw. Mae angen mwy o 'fandaleiddio' o'r math a gyflawnodd Meic Stephens a Rodric Evans yn y lle cyntaf.

Cŵyn arall ar adegau fel hyn yw mai symptom ydyw o ddiffyg ymwybyddiaeth o hanes Cymru. Efallai. Ond yn yr achos hwn, efallai mai'r gwrthwyneb sy'n wir, ac mai jôc wybodus yn cyfeirio at ddarn niche dros ben o hanes cenedlaetholdeb Cymreig oedd yr Elvis. Ar y llaw arall, hwyrach mai cyd-ddigwyddiad llwyr yw'r cysylltiad hwnnw ac mai rhyw dwpsyn di-glem oedd wrthi. Pwy a wyr?

Beth bynnag yw'r gwir, diolch i'r 'fandal' mae stori'r boddi'n cael sylw blaenllaw yn y newyddion eto fyth, gan ein helpu i sicrhau bod pawb yn dilyn yr union orchymyn o dan sylw: Cofiwch Dryweryn.

1 comment: