21/01/2020

Syrcas y frenhiniaeth

Un o'r pethau rhwystredig am y cyhoeddiad bod y Tywysog Harri a Meghan Markle yn 'camu'n ôl' o'r rhan fwyaf o'u dyletswyddau brenhinol yw cael fy ngorfodi, fel gweriniaethwr rhonc, i gydymdeimlo ychydig. Mae agwedd y tabloids Llundeinig tuag at Markle yn gwbl hiliol, fel mae cymharu'r penawdau hyn ochr yn ochr â'u hymdriniaeth â Kate Middleton yn ei wneud yn glir. Nid oes ryfedd eu bod, i bob pwrpas, yn codi dau fys ar y wasg. Buaswn i'n dadlau y dylai Harri fod wedi gwneud y cyhoeddiad flynyddoedd yn ôl, ar y sail bod y frenhiniaeth yn gysyniad hollol dwp ac anfoesol, ond gwn fy mod yn gofyn gormod.

Eto i gyd, nid yw'n eglur sut mae modd iddynt ddod yn 'annibynnol' oddi wrth y teulu brenhinol. Nid yw hyd yn oed yn glir iawn beth fyddai hynny'n ei olygu yn ymarferol. Yn ôl eu gwefan newydd, maent am barhau i dderbyn 95% o'u hincwm. Mae cario ymlaen i fwynhau'r holl arian yna tra'n osgoi gwneud y gwaith (os galw beth maent yn ei wneud yn 'waith') yn swnio fel trefniant cyfleus iawn i mi. A beth bynnag, royals swyddogol neu beidio, maent am barhau i elwa ar eu statws fel selebs byd enwog, statws sy'n deillio o ddim mwy na'r ffaith bod Harri wedi digwydd cael ei eni'n fab i'w rieni.

Mae'n adrodd cyfrolau bod hyn i gyd wedi sigo'r frenhiniaeth fel sefydliad lawer iawn mwy na'r posibilrwydd cryf bod ail fab y Frenhines wedi treisio merched ifainc gyda chymorth cyfaill oedd yn bedoffeil enwog. Nid wyf yn arbennig o obeithiol y bydd penderfyniad Harri a'i wraig yn arwain at dranc y frenhiniaeth (rwy'n fwy optimistig am farwolaeth y matriarch, sy'n agosau, ac a fydd yn golygu, gyda lwc, coroni Brenin Siarl III eithriadol o amhoblogaidd), ond byddai hynny'n neis. Mae'r holl gyfundrefn yn hurt ac anystyrlon a llwgr. Gresyn na fyddai gweddill y teulu rhyfedd hefyd yn 'camu'n ôl'.

No comments:

Post a Comment