17/05/2011

Stephen Hawking yn dweud rhywbeth doeth, Cristion yn dweud rhywbeth dwl

(Rhyfeddol, dw i'n gwybod)

Mae yna erthygl arall wedi'm gwylltio. Neu'n hytrach, peri i mi ochneidio'n uchel.

Dywedodd yr Athro Stephen Hawking y canlynol mewn cyfweliad efo'r Guardian:
I regard the brain as a computer which will stop working when its components fail. There is no heaven or afterlife for broken down computers; that is a fairy story for people afraid of the dark.
Dw i'n ystyried y sylw yna'n un digon amlwg a chywir. Fel dw i wedi'i ddweud eisoes, dw i wir methu deall pam fod pobl yn cael cymaint o anhawster dirnad marwolaeth, neu'n hytrach "bod wedi marw". Mae'n hollol amlwg nad oes gronyn o dystiolaeth i gefnogi unrhyw fath o fywyd tragwyddol, heb sôn am y fersiwn Gristnogol.

Mae rhywun o'r enw Michael Wenham, fodd bynnag, yn anghytuno efo'r ffisegydd enwocaf ar y ddaear. Mae'n gwneud hyn ar sail llond llaw o ddadleuon amheus. Yn y frawddeg gyntaf mae'n datgan bod ganddo'r un afiechyd ag sydd gan Hawking. Ymddengys i mi mai dyma'r unig reswm pam ei fod wedi cael cyfrannu erthygl yn ymateb i'r gwyddonydd; yn sicr dw i'n ei chael yn anodd derbyn mai ei sgiliau rhesymu miniog ydi'r cyfiawnhad. Dyma enghraifft:
One of the features of MND both for him as for me is that it affects your ability to speak and hence pares down what you say to the bare bones. (That's not of course the case when you have time to type a script.) Hence sometimes you are frustrated by your inability to nuance your ideas. And so it may be that his very categorical answers are the nub of his opinion, but not the full expression.
Mae hwn yn gyhuddiad eithaf anghynnes heb unrhyw fath o dystiolaeth. Mae Hawking yn cynnal cyfweliadau a'n siarad yn gyhoeddus yn aml iawn, gan ddweud pethau craff yn amlach na pheidio. Mae'n hen ddigon tebol o fynegi'i hun, er gwaethaf ei anabledd. Yn ogystal, mae ei sylwadau'n cysoni'n berffaith efo pethau mae wedi'u dweud yn y gorffennol, felly nid oes rheswm o fath yn y byd i gredu bod yma nuance ar goll yn rhywle.
I find his ethical deduction and his quasi-religious observation sadly lacking. "So here we are. What should we do?" he is asked. The question sounds similar to ones posed to great religious teachers of the past. His answer is disappointing: "We should seek the greatest value of our action." It's certainly thought-provoking (what exactly does that mean for this or that action?) and it is a principle that is reinforced by the experience of life-threatening illness. One could say: "Don't waste your life." Yet as a rule for life, it lacks both the impact and the practicality of the great Judeo-Christian answer to that question: "Love God above yourself, and love your neighbour as yourself." Even those who are unwilling to subscribe to the first part can understand the second part and usually admit its validity.
Dw i'n methu'n lân â deall pam fod ateb Hawking yn siomedig. Yn bersonol, mae'n well gen i'r hen glasur, y rheol euraidd: "dylech drin pobl eraill fel yr hoffech iddynt eich trin chi". Mae hwnna bron yn gliché, mi wn, ond os mynnir un frawddeg sy'n crynhoi'r ffordd y dylem fyw, dw i'n ei chael yn anodd meddwl am un sy'n rhagori. Ond y pwynt ydi nad oes rhaid bod un ateb pendant, gwrthrychol. Yn sicr, mae ffefryn Wenham yn nonsens llwyr. Mae'r cymal cyntaf yn methu am resymau amlwg, a thra bod yr ail yn ddigon tebyg i'm un i uchod, mae ceisio'i hawlio fel agwedd sy'n unigryw i Gristnogaeth (neu ffydd yn gyffredinol) yn hurt. Na, cewch chi ddim gwneud hynny mae gen i ofn. Mae'r cymal cyntaf yn un crefyddol, dwl, ac mae'r ail yn un cwbl seciwlar. Mae'r "even those" yn gwbl ddi-angen. Dw i'n ochneidio wrth ddychmygu Wenham yn crechwenu wrth deipio'r frawddeg olaf yna uchod, fel petai'n ergyd fuddugoliaethus sy'n mynd i beri problem i anffyddiwr. I'r gwrthwyneb, fel arfer mae'r elfennau o'r ffydd bydd Cristnogion yn pwyntio atynt, er mwyn trio arddangos rhinweddau'u credoau, yn rhai seciwlar a dyneiddiol. Hands off, nid eich rhinweddau chi ydyn nhw.
Finally, Stephen Hawking's headlined observation about death, that an after-life "is a fairy-story for people afraid of the dark" is both sad and misinformed. Openness to the theoretical possibility of there being 11 dimensions and fundamental particles "as yet undiscovered" shows an intellectual humility strangely at odds with writing off the possibility of other dimensions of existence.
Fersiwn byrrach o'r ddadl yma: "mae ffiseg yn rhy anodd i mi". Mae tystiolaeth a llathenni o hafaliadau i gefnogi'r syniadau ffisegol uchod. Does dim byd o gwbl yn cefnogi syniadau hanner-pan am fywyd ar ôl marwolaeth. Tystiolaeth, tystiolaeth, tystiolaeth. Mae'r gwahaniaeth yn syml a phwysig.
For someone "facing the prospect of an early death", with probably an unpleasant prelude, the idea of extinction holds no more fear than sleep. It really is insulting to accuse me of believing there might be life after death because I'm afraid of the dark. On the contrary, sad though I shall be to leave behind those I love, I suspect the end of life, whatever happens, will be a relief. And, like Pascal making his wager, if it is dark, I really won't mind, because, of course, there won't be a me to mind.
Sarhaus neu beidio, does fawr o ots oherwydd mae'n debygol iawn o fod yn wir. Mae'r nefoedd yn syniad sy'n gwneud i lawer o bobl deimlo'n fwy cysurus. Yn anffodus, dydi hynny ddim yn gwneud y syniad yn wir (dw i'n digwydd ystyried y synaid fel lle digon hunllefus beth bynnag, felly dw i'n eithaf balch o hynny). Peidiwch â sôn am gynwystl Pascal. Byddai rhywun yn disgwyl i Gristnogion o bawb werthfawrogi bod credu mewn duw dim ond er mwyn twyllo'r duw hwnnw yn ddilornus iawn, heb sôn am fod yn ofer (byddai'n gwybod bod eich bysedd wedi'u croesi tu ôl i'ch cefn, does bosib).
Strangely enough, my theory that there is a form of life after we die is not some sort of wishful thinking. It's based on evidence. If the brain is a computer, then, when I was studying where Stephen Hawking now teaches, I came on a mass of data of which the most convincing, the neatest, explanation was that death is not the end of life. It wasn't the most comfortable nor most obvious of conclusions, but the forensic case was forceful and beautiful, providing "simple explanations of phenomena or connections between different observations". The best exposition I found was by the then director of the Institute of Advanced Legal Studies in London, Professor Sir Norman Anderson, in The Evidence for the Resurrection (later republished as part of Jesus Christ: The Witness of History). My disturbing conclusion was that, if it happened once, as seemed beyond reasonable doubt, then I needed to revise my whole world view. What you see is not all you get.
"Evidence"? I ddyfynnu Inigo Montoya yn The Princess Bride gan William Goldman, "you keep using that word. I do not think it means what you think it means".

Nid yw Wenham yn trafferthu disgrifio'r dystiolaeth wych yma o gwbl, dim ond dweud pa mor anhygoel a chadarn ydyw. Grêt. Maddeuwch i mi am beidio rhuthro i Amazon.com ac archebu copi o lyfr yr efengylydd Norman Anderson. Maddeuwch i mi hefyd am chwerthin. Mae'r paragraff yna uchod mor druenus a phathetig dw i bellach yn hanner-difaru rhoi cymaint o sylw i'r dyn trwy ymateb. Ond gan fy mod wedi dod mor bell â hyn, waeth i mi bostio hwn ddim.

4 comments:

  1. Diolch am yr erthygl ddifyr a meddylgar Dylan. Ond un peth, pan rwyt ti'n dweud "Hands off, nid eich rhinweddau chi ydyn nhw" rwyt ti'n syrthio i'r un fagl a Wenham. Mae'r rhinwedd dan sylw yn sicr yn perthyn i'r ffydd Gristnogol, os wyt ti'n arddel y rhinwedd hefyd yna grêt. Ond does gen ti ddim hawl i ddweud "hands off" mwy nag oedd gan Wenham.

    Mae'r ffydd Gristnogol yn dysgu fod Duw yn argraffu elfen o foeseg gyffredinol ar bawb yn ddi-wahan - dyma, mewn ffordd, ydy diffiniad Cristnogion o beth yw "cydwybod" - cydwybod rhywbeth gyda pwy? Gyda Duw. Felly er dy fod di, ac yn iawn felly, yn hawlio'r rhinwedd o "dylech drin pobl eraill fel yr hoffech iddynt eich trin chi" gymaint a Christnogion, mae Cristnogion yn credu mae Duw sydd wedi rhoi hwnnw ar dy galon er nad wyt ti'n credu yn Nuw dy hun. Mae Swalec yn dod a trydan i'm fflat boed i mi gredu hynny neu beidio.

    Dwi'n deall nad wyt ti'n cytuno gyda hyn, ond roeddwn i'n meddwl fod gwerth i mi esbonio'r ddealltwriaeth Gristnogol yn llawnach.

    ReplyDelete
  2. Diolch Rhys

    Dw i'n gwerthfawrogi dy berspectif. Y prif bwynt ydi bod tueddiad, hyd yn oed ymysg rhai pobl nad ydynt yn arbennig o grefyddol, i ystyried bod "câr dy gymydog" yn agwedd sy'n unigryw i Gristnogaeth, neu o leiaf yn un sy'n cael ei gysylltu'n bennaf â'r ffydd honno. Dyna'r peth pennaf sy'n fy nghorddi am y peth.

    Y broblem efo dy esboniad, dw i'n teimlo, ydi ei fod yn... wel, rhy hawdd. Mae'n rhy syml bodloni efo "oherwydd bod duw wedi...". Wrth reswm, dw i ddim yn mynd i allu cytuno os ti'n cyflwyno duw i mewn i dy resymeg. Ond dydi dweud mai duw sy'n gyfrifol, ym mha bynnag ffordd, ddim yn adeiladol i'm golwg i. Petaet yn gofyn i dduw pam fod "dylech drin pobl eraill fel yr hoffech iddynt eich trin chi" yn gynllun synhwyrol ar gyfer byw eich bywyd, oni fyddai ei resymeg yn debyg iawn i'm rhesymeg i fy hun? Pam ddim, felly, torri allan y middleman? Onid yw'r rheol yn un digon da'n barod heb orfod bod wedi'ch programio gan dduw i ymddwyn felly?

    Dw i'n meddwl byddaf yn ysgrifennu post ar wahân ar fod yn dda heb dduw yn y dyfodol, oherwydd mae'n fater sy'n codi'n fynych pan mae pobl grefyddol yn dadlau efo anffyddwyr. Yn fras iawn, mae'r rheol yn un doeth oherwydd mae'n hynod anodd dychmygu unrhyw fath o gymdeithas sefydlog lle nad yw'n teyrnasu.

    ReplyDelete
  3. Diolch am esbonio dy safbwynt ymhellach. Amwni mae'r gwahaniaeth rhwng dy ddealltwriaeth di o "dylech drin pobl eraill fel yr hoffech iddynt eich trin chi" a dealltwriaeth y Cristion yw fod y foeseg yn rhywbeth goddrychol i ti, mae'n tarddu o dy galon/meddwl dy hun. I'r Cristion mae'n fwy na hynny gan ei fod yn cael ei ddatguddio i ni fel moeseg gwrthrychol gan Dduw.

    Pam fod hynny yn bwysig i ni felly? Pam fod ni'n mynnu cael Duw yna fel 'middleman' rhyngom ni a moeseg fel rwyt ti'n herio?

    Mae'r ateb yn weddol syml. Heb wrthrych i'n moeseg, constant os hoffe ti, mae ein moeseg yn oddrychol. Wrth i bawb 'edrych o'i mewn' am foeseg mae'n anorfod fod rhai pobl, gwaetha'r modd, a moeseg hyll yn ôl safonau Cristnogion a hiwministiaid goleuedig fel eu gilydd.

    Enghraifft ethiafol yw ffasgiaeth, dydy'r ffasgwyr er enghraifft ddim yn credu mewn "dylech drin pobl eraill fel yr hoffech iddynt eich trin chi". Mae hynny'n realiti oherwydd fod nhw wedi darganfod (neu heb ddarganfod mwy na thebyg!) moeseg o'u mewn sydd ddim yn gyson gyda'r ddeddf foesol dwi'n credu sy'n dod gan Dduw ac rwyt ti'n credu sy'n dod o ............ (llenwer yma)?

    Problem moeseg di-dduw, fel ag yr ydw i'n ei gweld hi, yw ei fod berthynol ac felly yn feddal.

    ReplyDelete
  4. Diolch

    Mae hyn yn gofyn am bost ar wahân dw i'n teimlo. Ond dw i'n paratoi i fynd i Ardal y Llynnoedd am wythnos felly mae'n mynd i orfod aros tan ddiwedd y mis mae gen i ofn!

    ReplyDelete