13/09/2011

Adweitheg

Roedd eitemau ar ddechrau rhaglen Nia Roberts (ar gael tan hanner dydd, 20 Medi) ar Radio Cymru y bore 'ma lle roedd y gyflwynwraig yn siarad â dwy o westeion, un sy'n gweithio fel adweithegydd ac un sy'n gleient brwd. Mae'r adweithegydd yn swnio'n neis a chwbl ddidwyll, ac mae'n debyg ei bod yn cael boddhad mawr o'i swydd. Yn yr un modd, mae'r ail westai wirioneddol yn hyderus bod y driniaeth wedi bod o fudd mawr iddi ac ei bod wedi lleddfu symptomau ei chlefyd Crohn's; yn wir, mae hi mor fodlon mae hi bellach yn "astudio" er mwyn ymuno â'r gwestai gyntaf yn ei galwedigaeth. Mae hynny yn ei gwneud yn anodd i ddweud y canlynol heb swnio, a theimlo, fel bastard, ond rwy'n credu ei fod yn bwysig: mae adweitheg yn nonsens ac nid oes unrhyw fath o dystiolaeth yn ei chefnogi. Nid oes ffordd garedicach o eirio'r gwirionedd hwnnw, yn anffodus.

Mae adweitheg yn un o'r "meddyginiaethau amgen" hynny byddwch yn clywed sôn amdanynt o bryd i'w gilydd. Fel rheol hawdd i'w chofio, ystyr "meddyginiaeth amgen" yw meddyginiaeth nad oes unrhyw fath o dystiolaeth i'w chefnogi. Mae'r ymadrodd yn un hurt a di-synnwyr. Beth ydych yn galw meddyginiaeth amgen sydd yn gweithio? "Meddyginiaeth". Petai yna dystiolaeth yn dangos ei bod wir yn gweithio, yna byddai'n cael ei chymeradwyo'n eiddgar gan ddoctoriaid go iawn ac ni fyddai angen iddi fod yn "amgen". Mewn ymchwil go iawn, mae adweitheg wedi methu pob un tro.

Mae adweitheg yn dweud bod ein traed (a'n dwylo, ond ar y traed mae'r pwyslais pennaf) wedi'u rhannu i fyny fel rhywbeth tebyg i'r diagram uchod (ond gall fanylion y darlun amrywio o lyfr i lyfr; ffrwyth dychymyg ydyw wedi'r cyfan). Mae'n debyg bod y gwahanol rannau yma'n cyfateb i wahanol rannau neu organnau o'r corff. Yn ôl y sawl sy'n arddel adweitheg, mae'r parthau yma ar wadnau ein traed wedi'u cysylltu â'r organnau cyfatebol trwy gyfrwng qi, sef rhyw fath o "sianeli egni" y mae "grym bywyd" yn teithio ar eu hyd (mae'r cysyniad dychmygol yma'n amlwg iawn ym maes aciwbigiad hefyd). Felly, trwy rwbio a rhoi pwysau ar y gwahanol rannau yma o'n traed, fe haerir, mae modd gwella poenau neu anhwylderau a gysylltir â'r rhannau "cyfatebol" o'r corff.

Yn ei rhaglen, fe holodd Nia lawer o gwestiynau chwilfrydig am sut mae'r driniaeth i fod i weithio, ond ni ofynnodd yr un pwysicaf un, sef lle mae'r dystiolaeth bod yr holl beth yn gweithio o gwbl? Mae hi'n derbyn yn ddi-gwestiwn bod y cysyniad yn ddilys, ac mae hi hyd yn oed yn cydymdeimlo a'n gofyn pam fod gan gymaint o bobl "ofn" o'r driniaeth. Mae'n anodd gorbwysleisio'r ffaith nad oes y fath fecanwaith yn bodoli (ac mae pobl wedi chwilio amdano). Fodd bynnag, mae'r un mor sicr nad yw gwesteion Nia yn dweud celwydd bwriadol a'n mynd ati i dwyllo; mae'n amlwg eu bod yn ddidwyll, yn hyderus eu bod yn (neu ar fin gwneud, yn achos yr ail) darparu gwasanaeth gwerthfawr, a'n falch o'r gwaith. Mae eu calonau yn y lle iawn. Ond maent yn anghywir.

Y pwynt pwysig cyntaf yw bod llawer o'r anhwylderau y mae adweitheg yn honni eu trin yn rhai gweddol annelwig a goddrychol: blinder ac insomnia, poenau, tyndra, straen, meigryn, cryd cymalau ac ati. Mae hyn yn thema gyffredin gyda thriniaethau amgen eraill yn ogystal. Yr ail bwynt yw bod cael rhywun yn rhoi maldod i'ch traed yn teimlo'n braf iawn iawn. Nid wyf yn amau am eiliad bod gorwedd ar wely meddal mewn ystafell dywyll â golau cannwyll, cerddoriaeth dawel a lleddfol, a phersawr yn yr aer, tra bod rhywun yn mynd ati'n dyner ac araf i dyluno a rhwbio gwadnau eich traed yn mynd i beri i chi ymlacio. Cwyn gyffredin am ddoctoriaid go iawn ac ymweliadau ag ysbytai yw bod y profiad yn gallu bod braidd yn amhersonol ac nad yw'r claf yn cael cydymdeimlad llwyr. Mae adweithegyddion yn manteisio ar y canfyddiad yma gan roi cymaint o sylw a maldod ag sy'n bosibl i'w cleientiaid. Nid oes rhyfedd, felly, bod pamffledi a gwefannau adweithegwyr yn llawn anecdotau gan gleientiaid yn dweud eu bod bellach yn teimlo'n "well" mewn rhyw ffordd aneglur na ellir ei fesur. Pwy na fyddai'n teimlo'n "well" ar ôl profi'r fath foethusrwydd? Am rhyw reswm, mae llawer o bobl yn cael siom neu'n gwylltio pan rydych yn awgrymu bod eu hanwylderau, a'u gwellhad canlynol, yn deillio'n bennaf o'u meddyliau. Ond mae pwer yr effaith plasebo'n hysbys iawn erbyn hyn, ac nid yw pwyntio hynny allan yn awgrymu eu bod yn ffugio o gwbl. Mae unrhyw beth sy'n gwneud i bobl deimlo'n well yn werthfawr. Os mai plasebo sy'n gyfrifol, gorau i gyd.

Petai adweitheg yn gadael pethau fan yna, sef bodloni â darparu gwasnaeth tyluno sy'n canolbwyntio ar y traed a'r dwylo'n benodol, ni fyddai problem o gwbl. Fodd bynnag, mae'n debyg bod "adweithegydd" yn grandiach deitl swydd na masseuse. Y trueni yw eu bod yn difetha popeth trwy rwdlan am qi a'r siartiau traed hynny a grybwyllwyd uchod. Yn ogystal â'r anhwylderau a sonwyd amdanynt yn y paragraff blaenorol, mae llawer o adweithegyddion yn gwneud datganiadau mawr am allu, er enghraifft, gwella "cylchrediad gwaed", gwaredu gwenwyn o'r corff, trin anafiadau penodol a hyd yn oed gwella ffrwythlondeb (afraid dweud mai'r ateb i bennawd y Mail yw "na", tu hwnt i'r ffaith ei bod yn bosibl bod cyfle ychydig yn well o feichiogi pan rydych mewn cyflwr ymlaciol). Mae adweitheg yn chwalu'n deillion pan gwneir honiadau penodol iawn.

Rwy'n hoff iawn o'r darn canlynol gan y diweddar Richard Feynman, un o ffisegwyr pwysica'r ugeinfed ganrif, o'i lyfr "Surely You're Joking, Mr Feynman!":
One time I sat down in a bath where there was a beautiful girl
sitting with a guy who didn't seem to know her. Right away I began
thinking, "Gee! How am I gonna get started talking to this
beautiful nude babe?"

I'm trying to figure out what to say, when the guy says to her,
"I'm, uh, studying massage. Could I practice on you?"

"Sure," she says. They get out of the bath and she lies down on a
massage table nearby.

I think to myself, "What a nifty line! I can never think of
anything like that!" He starts to rub her big toe. "I think I feel
it, "he says. "I feel a kind of dent--is that the pituitary?"

I blurt out, "You're a helluva long way from the pituitary, man!"

They looked at me, horrified--I had blown my cover--and said, "It's
reflexology!"

I quickly closed my eyes and appeared to be meditating.
Doeth iawn.

Mae'n braf cael rhywun i rwbio'ch traed. Dyna'r cyfan. Petai gwella clefydau ac anhwylderau di-rif mor hawdd â darllen map a gwasgu'r darn cywir ar wadn troed, ni fyddai angen i feddygaeth fod yn gwrs mor anodd yn y coleg. Efallai bod y mater yn swnio'n bitw - eitem radio ysgafn yn unig ydoedd, sydd wedi esgor ar lith digon crintachlyd - ond mae gwirionedd yn bwysig yn fy marn i. Wedi dweud hynny, mae pob croeso i unrhyw adweithegydd sy'n darllen ddod draw i chwarae gyda fy nhraed. Ar yr amod nad ydych yn sôn gair am qi.

2 comments:

  1. Mae'n braf cael rhywun i rwbio'ch traed. Dyna'r cyfan.

    Ydy, ac ie.

    Mae'n bosib mod i wedi dweud y stori yma o'r blaen, felly ymddiheuriadau os ti wedi ei chlywed o'r blaen...

    Ces i gwpl o sesiynau adweitheg, flynyddoedd yn ôl pan o'n i'n wneud lot o waith gyda LETS. Hei, beth arall o'n i'n mynd i wario fy TEIFIs arno?

    Cyn dechrau y sesiwn cyntaf, wnaeth y adweithegydd eistedd gyda fi a gofyn a oedd unrhyw broblemau iechyd gyda fi. Yr unig peth oedd yn bod oedd poen ro'n i'n arfer cael yn f'ysgwyddau, yn enwedig ar ôl sesiwn hir ar y cyfrifiadur. (Ar y pryd, fi oedd yn wneud yr holl waith gweinyddu i'r grwp LETS lleol, felly o'n i'n treulio tipyn o amser ar y cyfrifiadur, yn wneud cyfrifau ac ati.) Wnaeth hi nodyn o hyn. Wedyn, yn ystod y sesiwn, a phopeth yn ymlachiol braf, wnaeth hi wasgu yn eitha caled mewn rhyw sbot ar fy nhroed dde.

    "Aw!" wedais i.

    "Oh, sorry, did that hurt? That's your shoulder."

    "No it's bloody not," wedais i ddim, "that's your thumbnail digging into my foot."

    Er gwaetha pa mor amlwg oedd hi bod yr holl beth yn nonsens, oedd y sesiwn yn wneud i fi deimlo'n well yn gyfrifinol (er bod fy ysgwydd dal yn fy mhoeni), ac es i yn ôl am sesiwn arall. Fel ti'n dweud, mae cael rhywun i rwbio dy draed am tri chwarter awr yn bownd i wneud i unrhyw un deimlo'n dda am weddill y prynhawn. Ond aeth yr elfen ffug-wyddonol yn drech na fi ar ôl dau sesiwn, ac es i ddim yn ôl.

    Gwellodd fy ysgwydd ar ôl i fi roi'r gorau i wneud gwaith gweinyddu'r cynllun LETS, a phrynu cadair fwy cyfforddus i'r swyddfa.

    ReplyDelete
  2. gyfrifinol = gyffredinol

    Amser gwely.

    ReplyDelete