Roedd y terfysgwyr yn gwybod yn iawn y byddai America'n ymateb yn filwrol. Ennyn yr ymateb hwnnw oedd un o'r prif amcanion. Yn wir, mae'n debyg i America fod yn fwy naïf nag oedd yr eithafwyr wedi meiddio gobeithio, gan lusgo'u hunain i mewn i ryfeloedd gorffwyll a drud mewn nid un, ond dwy, wlad Fwslemaidd. Mae llawer o ddadlau wedi bod ynglyn â rhinweddau a ffaeleddau'r rhyfeloedd yma, ac nid eich diflasu trwy eu hail-adrodd yma yw fy mwriad. Digon yw dweud bod al-Qaeda wedi bod wrth eu boddau'n croesawu Americaniaid arfog i'r dwyrain canol, gan iddynt allu defnyddio'u presenoldeb er mwyn radicaleiddio Mwslemiaid ifainc ac i geisio manteisio ar y gwacter gwleidyddol yn sgil yr ymladd.
Ond yn bwysicach na hynny yn fy marn i, tric destlusaf bin Laden oedd peri i America ddinistrio'r union bethau a oedd yn gwneud America mor wych (ac felly'n atgas i eithafwyr Islamaidd). Yn naturiol ddigon, roedd y cwestiwn "pam mae nhw yn ein casáu ni?" yn un cyffredin iawn ar wefusau Americanwyr yn y dyddiau wedi'r ymosodiadau. Cri simplistaidd llawer o geidwadwyr oedd "maent yn ein casáu oherwydd ein rhyddid!" Er mor anghyflawn ac amrwd yw'r ateb hwnnw, mae ychydig o wirionedd yn perthyn iddo; mae democratiaeth ryddfrydol yn gysyniad sy'n hollol wrthun i Islam ffwndmentalaidd. Y peth rhwystredig, felly, yw mai'r union bobl sy'n bodloni ar yr uchod fel ateb cynhwysfawr yw'r union bobl sydd wedi mynd ati, yn y degawd canlynol, i gefnogi datgymalu'r union ryddid hwnnw y maent yn honni bod mor falch ohono.
Mae'r rhestr o'r amryw ffyrdd y mae America wedi difetha ac ymosod ar ryddid ei thrigolion (a thrigolion gwledydd eraill) ers 2001 yn frawychus:
- Deddf PATRIOT, sy'n erchyll o'r dechrau i'r diwedd a'n caniatáu i asiantaethau fel yr NSA glustfeinio heb rwystr a heb warant ar bwy bynnag y dymunent (ac yn yr hysteria'n dilyn y terfysg, dim ond un seneddwr a bleidleisiodd yn ei herbyn);
- Carcharu "terfysgwyr" honedig (rhai ohonynt o America) am flynyddoedd heb hawliau cyfreithiol, heb hawl i habeas corpus nac achos teg;
- Arteithio'r rheiny gyda thechneg cwbl farbaraidd a arloeswyd gan y Chwilys Sbaeneg. Er i Obama gondemnio hyn a rhoi stop arno, peidied neb â meddwl ei fod yn ddi-niwed, gan fod ei weinyddiaeth wedi mynd ati gydag arddeliad i amddiffyn swyddogion Bush a oedd yn gyfrifol am yr arteithio rhag cael eu herlyn. Mae hyn yn arwain at y pwynt nesaf;
- Defnydd helaeth Obama o'r Fraint Cyfrinachau Gwlad, yn bennaf i'r perwyl uchod. Dyma, o bosibl, y datblygiad mwyaf dychrynllyd un, oherwydd mae'n galluogi'r arlywydd i wrthod caniatáu unrhyw ddarn o dystiolaeth (er enghraifft, yn dangos bod rhywun wedi gorchymyn arteithio) ar y sail y gall beryglu diogelwch y wlad. Hynny yw, mae bellach modd i gangen weithredol llywodraeth America (sef yr arlywydd a'i weinyddiaeth) wrthod caniatáu, yn ddi-gwestiwn, i'r farnwriaeth (gan gynnwys y Goruwchlys) weld tystiolaeth sy'n niweidiol i'r gangen weithredol. Ni ddylai fod angen egluro bod hynny'n rhoi pwer anhygoel a gwallgof i'r arlywydd. Roedd Bush yn drychinebus, ond ar y pwynt yma'n enwedig mae Obama lawer iawn yn waeth. Nid gormodiaith yw dweud bod Obama yn ei gwneud yn anos ac anos i ni allu dweud y gwahaniaeth rhyngddo ac unben, ac ar y sail yma dylid ei uchelgyhuddo.
- Mae synnwyr cyffredin a'r cysyniad o ryddid yn America wedi dirywio gymaint nes bod hawl Mwslemiaid cymhedrol i adeiladu mosg cwbl gyfreithlon yn bwnc llosg.
Mae America'n prysur fynd ati'n systematig i ddifetha'r union bethau hyfryd roedd bin Laden a'i debyg yn eu casáu. Mae'n gwneud hynny mewn modd gorffwyll a macho, heb sylweddoli ei fod yn gachgïaidd a'n gysytyr ag ildio a rhoi buddugoliaeth ar blât iddo. "Sori syr, fe gawn ni wared ar yr egwyddorion bendigedig yma".
Cellwair yw teitl y post yma, mae'n wir. Byddai'n rhyfedd honni bod Osama wedi ennill yn llwyr; ni welaf unrhyw olwg o'r caliphate enfawr Mwslemaidd y mae al-Qaeda'n dyheu ei weld, ac, wel, mae'r dyn wedi'i saethu yn ei ben. Serch hynny, mae elfen mawr o wirionedd ynddo gan fod bin Laden wedi llwyddo mewn sawl ystyr. Yn anffodus, America ei hun sy'n gyfrifol am yr elfennau llwyddiannus yma o'r hyn y cyflawnodd bin Laden, trwy gyflawni hunanladdiad a dinistrio "America" fel set o syniadau goleuedig clodwiw. Fel y dywedodd un o sylfaenwyr deallusol y wlad, Benjamin Franklin, "they who can give up essential liberty to obtain a little temporary safety, deserve neither liberty nor safety". Dyna un o'm hoff ddyfyniadau. Dagrau pethau yw bod cymaint o'r bobl sy'n clodfori Franklin yn methu â gwrando ar yr hyn a ddywedodd. Mawr obeithiaf bod y dengmlwyddiant yma'n gyfle iddynt fogail-syllu ychydig a sylweddoli bod angen iddynt fynnu bod eu llywodraeth yn rhoi eu hawliau sifil yn ôl iddynt.
No comments:
Post a Comment