10/09/2011

Dynion hoyw'n cael rhoi gwaed o'r diwedd

Fel rhywun sy'n rhoi gwaed yn rheolaidd (clap mawr i fi!) rwyf o hyd wedi cael fy nharo gan yr holl gwestiynnau am gael rhyw cyfunrywiol yn yr holiadur hwnnw mae gofyn i chi ei lenwi o flaen llaw. Os ydych yn rhoi ateb cadarnhaol i unrhyw un o'r rhain (hynny yw, os ydych yn ddyn sydd erioed wedi "cymryd rhan mewn gweithred rywiol gyda dyn arall"), ni chewch fyth roi peint o'ch gwaed er mwyn achub bywyd person arall. Mae'r gwaharddiad yn sefyll hyd yn oed os defnyddir condom, a hyd yn oed os profir y gwaed a chanfod ei fod yn saff. O'r diwedd, fodd bynnag, mae hyn yn dechrau newid.

Mae'n hen bryd. Mae'n ddigon gwir bod AIDS, ar y dechrau yn yr 1980au o leiaf, yn glefyd a gysylltir yn bennaf â dynion hoyw. Yn wir, GRID oedd un enw amdano ar y pryd: gay-related immunodeficiency disease. Mae pethau wedi newid ers hynny, fodd bynnag, ac mae'r clefyd wedi lledaenu tu hwnt i'r gymuned hoywaidd. Erbyn 2010 ym Mhrydain, roedd 38.5% o achosion newydd o HIV yn deillio o ryw rhwng dynion. Ond roedd 42% o'r achosion newydd ymhlith pobl heterorywiol. Wrth reswm, mae llai o bobl cyfunrywiol felly per capita mae'r clefyd o hyd yn amlycach yn eu plith. Fodd bynnag, mae'r bwlch yn parhau i leihau ac nid oes, bellach, modd cyfiawnhau gwaharddiad llwyr ar hawliau dynion hoyw i roi gwaed.

Yn anffodus, nid yw'r gwaharddiad wedi'i godi'n gyfan gwbl. Yn hytrach na gwaharddiad oes, yn ôl y rheolau newydd bydd rhaid aros blwyddyn o'r tro diwethaf i ddyn gael rhyw â dyn arall. Yn waeth na hynny, mae'r rheolau newydd yn parhau i wrthod gwahaniethu rhwng y sawl sy'n defnyddio codnom a'r sawl nad ydynt. Mae hynny'n hurt, gan fod y rhan fwyaf o ddynion hoyw'n gwneud hynny a'n llwyddo i fwynhau bywyd rhywiol cyfrifol. Dylai'r pwynt yma fod yn amlwg, ond dim ond lleiafrif o ddynion hoyw sy'n dioddef o HIV neu hepatitis.

Mae'n amhosibl gor-bwysleisio pwysigrwydd cadw'r cyflenwad gwaed yn saff, ond mae'r rheolau yma'n rhy llym o hyd heb fod angen. Mae yna filoedd ar filoedd o beintiau o waed gwerthfawr yn llifo tu mewn i gyrff dynion hoyw, ond ni cheir eu defnyddio er mwyn achub bywydau. Nid oes rhesymau digonol am hyn, ac mae'n wastraffus a gwrth-gynhyrchiol. Mae'r newid yma'n gam yn y cyfeiriad iawn, ond cam bach yn unig.

No comments:

Post a Comment