17/10/2011

Angen rheswm arall i gasáu'r Eglwys Babyddol?

Os nad yw'r holl erchyllterau a restrais yma'n ddigon, maent hefyd yn llythrennol wedi dwyn miloedd ar filoedd o fabanod yn Sbaen.

Bydd rhaglen arbennig ar y BBC nos yfory'n dangos sut y bu'r eglwys yn dweud wrth ferched di-briod (neu "anaddas" ym mha bynnag ffordd), a oedd newydd roi genedigaeth, bod eu babanod wedi marw. Mewn gwirionedd, roedd yr eglwys wedi'u herwgipio gyda'r bwriad o'u gwerthu am $8,000 i gyplau priod a ystyrid yn fwy o Babyddion Da (a dylid nodi nad oedd y mabwysiadwyr fel rheol yn ymwybodol o'r gwir sefyllfa; roedd yr eglwys yn dweud wrthynt bod y mamau biolegol wedi gwrthod y babanod).

Cwbl gwbl frawychus, rwy'n siwr y cytunech. Felly roeddwn yn annheg pan ddywedais yn y blogiad blaenorol nad yw'r eglwys bellach fawr mwy na cabal rhyngwladol sy'n gwarchod treisiwyr plant. Na, maent hefyd yn fasnachwyr plant.

Tybed beth fydd ymateb yr eglwys i'r sylw sy'n sicr o gael ei roi i'r rhaglen? Mae'n siwr y bydd sôn am "wersi wedi'u dysgu" ac yn y blaen, a phrotestiadau bod yr arfer yma wedi dod i ben yn y 1990au. Ond nid yw hynny'n ddigon da. Mae'r eglwys yn gwybod yn iawn pwy fu'n gyfrifol, ac mae'n ddyletswydd arni i roi'r holl wybodaeth berthnasol i'r heddlu. Gallaf eich sicrhau na fydd hynny'n digwydd, fodd bynnag, oherwydd mae'r eglwys yn hanesyddol o dan yr argraff nad ydyw'n atebol i gyfraith gwlad (fel mae cipolwg ar yr holl sgandalau am gamdrin rhywiol yn ei ddangos). Mewn gwirionedd, mae gwarchod y dihirod yma'n drosedd yr un mor erchyll â'r gweithredoedd gwreiddiol.

Unwaith eto, pwysleisiaf bod y sefydliad yma'n mynnu mai hwy yw awdurdod duw ar y ddaear. O ystyried pa mor gwbl anfoesol, llygredig a dieflig yw'r holl eglwys o'r top i'r gwaelod, mae'n amhosibl deall sut y gall unrhyw berson deallus fod yn aelod ohoni. Mae peidio bod yn wrth-Babyddol yn safbwynt rhyfeddol erbyn hyn.

3 comments:

  1. Ond wrth gwrs bydd miliynau o bobl yn parhau i honni nad oes dim niwed yn cael ei achosi gan grefydd. :o/

    ReplyDelete
  2. Dw i wedi darllen sylwadau ar flogiau eraill sy'n honni bod Franco ar fai, dim yr Eglwys Babyddol. Ond yr eglwys oedd yn rheoli'r cyfundrefn hwn trwy ei hysbytai, ac yr un eglwys oedd yn fodlon i dderbyn cefnogaeth ac arian y llywodraeth Ffranco dros y blynyddoedd. A pham parheuais yr eglwys i ddwyno babanod dros mwy na degawd ar ôl i Franco marw a democratiaeth dychwelyd?

    ReplyDelete
  3. Roedd yn anochel y byddai amddiffynwyr yr eglwys yn ceisio dweud mai bai Franco ydoedd yn hytrach na'r eglwys. Ond nid yw hynny'n dal dwr o gwbl; roedd yr eglwys yn ran greiddiol ac annatod o'r gyfundrefn ffasgaidd ei hun. Mae strwythur yr eglwys yn ddigon totalitaraidd ynddo'i hun felly nid oes llawer o syndod bod perthynas digon clós wedi bod rhyngddi a ffasgaeth erioed, gymaint nes ei bod yn anodd dweud lle mae un yn gorffen a'r llall yn dechrau.

    Nid oes modd iddynt osgoi'r bai fan hyn a mynnu mai dim ond dilyn gorchmynion Franco oeddynt. A beth bynnag, fel rwyt ti'n ei ddweud roedd hyn yn mynd ymlaen tan y 1990au, ymhell ar ôl i'r Generalíssimo fynd i'w fedd.

    ReplyDelete