Rhyw fath o ysgol Sul Mwslemaidd yw madrasa, lle mae plant yn cael eu dysgu i ddarllen a chofio'r Coran. Yn wahanol i'r ddefod wythnosol Gristnogol, fodd bynnag, fel rheol mae gofyn i blant fynychu'r rhain sawl gwaith yr wythnos (os nad pob dydd). Mae hynny'n ddigon i wneud i mi gydymdeimlo â'r plantos druan, heb sôn am y ffaith bod cymaint o'r bobl sydd i fod yn gyfrifol amdanynt yn hoffi "cadw trefn" arnynt trwy eu waldio neu eu chwipio. Dyfynnaf rannau o erthygl y BBC:
Some local authorities said community pressure had led families to withdraw complaints.Wel na; mae'n siwr na fyddai'r imam na llawer o blith eu cymuned yn hapus iawn gyda nhw petaent yn mynd â'u cwynion ymhellach. Mewn cymunedau crefyddol clós mae pwysau mawr ar ddioddefwyr i gadw'n dawel am bethau fel hyn. Ond dyma'r darn gwaethaf:
In one physical abuse case in Lambeth, two members of staff at a mosque allegedly attacked children with pencils and a phone cable – but the victims later refused to take the case further.
Corporal punishment is legal in religious settings, so long as it does not exceed “reasonable chastisement”.Dyma'r union beth rwyf yn sôn amdano pan rwy'n mynd ymlaen ac ymlaen am duedd ein cymdeithas i roi crefydd ar rhyw fath o bedestal. Pam ar wyneb y ddaear y mae'r eithriad yma'n bodoli? Mae cosbi corfforol wedi'i hen wahardd o'r ysgolion, felly mae'n gwbl hurt i'w ganiatáu dim ond am fod y plant yn cael eu taro'n enw rhyw dduw neu'i gilydd. Mae angen gwneud hyn yn anghyfreithlon ar fyrder, oherwydd yn hollol hollol amlwg mae barn gwahanol bobl ar beth yn union yw "reasonable chastisement" yn amrywio cryn dipyn. Mae cael amwysedd felly yn y gyfraith yn gofyn am drwbl, ac mae'r trwbl yna wedi'i wireddu ar achlysuron di-rif. Yr unig beth call i'w wneud yw ei wahardd yn gyfan gwbl*.
Fel sydd wedi digwydd mor aml gydag offeiriaid yr eglwys Babyddol, dyma sy'n gallu digwydd pan mae pobl sy'n hawlio awdurdod duwiol (ac sydd felly'n cael eu hymddiried yn llwyr) yn cael teyrnasu dros grwpiau o blant bach di-niwed. Mae'n ddigon posibl y bydd mwy a mwy o straeon tebyg fel hyn yn codi wrth i'r pwnc gael mwy o sylw. Os yw digwyddiadau fel hyn mor gyffredin ag y mae'n dechrau swnio, mae'n hen bryd i bawb beidio anwybyddu'r peth. Mae'n gwbl farbaraidd.
_____________
*Fel mae'n digwydd, mae'r Cynulliad wedi pleidleisio heddiw o blaid gwahardd cosbi plant yn gorfforol yn gyfan gwbl, gan gynnwys yn achos rhieni, er bod y gwaharddiad yn annhebygol o ddod i rym cyn 2016. Rwy'n croesawu'r bleidlais. Mae'n hen bryd atal hawl pobl mawr cryf i ymosod yn gorfforol ar bobl bach gwan. Mae 23 gwlad wedi gwahardd y peth yn barod. Da iawn Cymru am gymryd cam tuag at fod y nesaf.
Da iawn Cymru am gymryd cam tuag at fod y nesaf.
ReplyDeleteCweit.
"If your kids give you any lip you can beat them with a sack of Valencia oranges. It won't leave a bruise and they'll let 'em know who's boss." -Bing Crosby (yn ol Family Guy)
ReplyDelete