20/10/2011

Heddlu De Cymru'n beio merched am gael eu treisio

Roeddwn i'n gwbl syfrdan wrth ddarllen y stori yma am ymgais Heddlu De Cymru i godi ymwybyddiaeth am drais rhywiol. Maent wedi cyhoeddi posteri sy'n cynnwys y slogan "Treisio – Peidiwch â bod yn ddioddefwraig, yfwch yn synhwyrol". Mewn print llai, mae'n ymhelaethu: "Mae alcohol yn ffactor mewn dwy ran o dair o achosion treisio", fel petai hynny'n berthnasol. Nid oes unrhyw ots o fath yn y byd am hynny. Dyma'r unig ffactor o bwys: mae treisiwyr yn ffactor mewn tair rhan o dair o achosion treisio.

Mae'n fater anffodus oherwydd rwy'n siwr bod bwriad y sawl sy'n gyfrifol yn ddigon didwyll a chlodwiw, ond maent wedi gwneud camsyniad dybryd fan hyn. Mae negeseuon fel yma'n bwydo'r agwedd mai merched sy'n gyfrifol am sicrhau nad yw dynion yn ymosod arnynt, ac mae honno'n agwedd beryglus a gwenwynig. Yr ensyniad yw bod merch feddw (neu sy'n gwisgo sgertiau byr ayyb) yn "gofyn amdani", neu o leiaf wedi bod yn ddwl ac felly wedi colli'r hawl i gwyno os yw dyn yn stwffio'i bidlan ynddi heb ganiatâd. Y neges cywir yw mai bai'r treisiwr ydyw'n llwyr a neb arall; ni ddylid meiddio gorfodi'r ddioddefwraig i ysgwyddo cymaint â 0.01% o'r cyfrifoldeb.


Er mwyn esbonio hyn yn gliriach, gadewch i mi ei roi fel hyn. Dyma'r neges gan Heddlu De Cymru: "merched, peidiwch â chael eich treisio". Nid "dynion, peidiwch â threisio". Nid oes unrhyw drosedd arall lle mae cymaint o gyfrifoldeb, yng ngolwg ein cymdeithas, yn syrthio ar ysgwyddau'r dioddefwyr. Byddai pawb yn ystyried ymgyrch bosteri gyda neges fel "peidiwch â chael eich lladd" yn un od ar y naw, wedi'r cyfan, a byddai hynny'n ymateb priodol. Dylai'r un peth fod yn wir am drais rhywiol.

Mae Bethan Jenkins AC yn lais gwerthfawr yn y Cynulliad o blaid hawliau merched a ffeminyddiaeth yn gyffredinol, ac mae hi'n berffaith gywir bod y posteri yma'n niweidiol tu hwnt. Dylent fod yn destun cryn embaras i Heddlu De Cymru. Gallwn ond gobeithio nad ydynt yn adlewyrchu eu gwir agwedd tuag at achosion o drais rhywiol.

_____________

Diweddariad 23:27

Mae'r heddlu wedi syrthio ar eu bai a chael gwared â'r posteri. Diolch am hynny.

No comments:

Post a Comment