25/11/2011

"Pa mor bell yn rhywiol y rhaid i rywun fynd cyn y gellir yn gyfiawn ei alw'n ŵr neu wraig gyfunrywiol?"

Fe ddywedais neithiwr na fyddwn yn blogio eto am wythnos neu ddwy, ond hoffwn ddweud gair am y cwestiwn o eiddo'r Athro Derec Llwyd Morgan a ddyfynir yn yr adroddiad yma, sef yr hyn a geir yn nheitl y cofnod hwn.

Testun yr erthygl yw adolygiad yr Athro Morgan o lyfr newydd Alan Llwyd am Kate Roberts, sy'n cynnwys (yn ôl yr holl heip) honiadau bod Brenhines Ein Llên yn hoyw. Nid wyf wedi darllen y llyfr (ond rwy'n bwriadu gwneud yn hwyr neu'n hwyrach), ac nid trafod cryfder y dystiolaeth o blaid yr honiadau yw pwrpas y cofnod yma. Eisiau craffu ar y cwestiwn uchod wyf i.

Dyma'r ateb, yn ddigon syml: ddim yn bell o gwbl. Yn wir, nid oes rhaid i berson wneud unrhyw beth rhywiol o gwbl er mwyn bod yn gyfunrywiol. Nid hyd yn oed gafael llaw â pherson o'r un rhyw. Mae'r dyheadau a'r teimladau o gariad yn bodoli heb fod angen gweithredu arnynt. Yn union fel mae unrhyw berson heterorywiol yn heterorywiol ymhell cyn iddynt gael y cyfle i gyfathrachu'n rhywiol, mae'r un peth yn amlwg yn wir am hoywon. Yn wir, mae'n berffaith bosibl cael rhyw cyfunrywiol heb fod yn hoyw o gwbl (er enghraifft, rhai actorion mewn ffilmiau pornograffig).

Beth a geir yn y dyfyniad, yn anffodus, yw tystiolaeth o duedd is-ymwybodol i ddiffinio un carfan o bobl yn ôl y gweithredoedd rhywiol y maent yn eu mwynhau (a'u gwahaniaethu rhag yr hyn y mae pobl o'r cyflwr "normal" heterorywiol yn eu gwneud). Ni ddiffinir pobl heterorywiol yn yr un modd. Y rhagdybiaeth a geir fel sail i'r cwestiwn yw bod pawb yn heterorywiol tan eu cusan gyntaf o leiaf.

Nid hollti blew'n bedantig mo hyn, gan fod y gwahaniaethu diffiniadol yma'n dechneg a ddefnyddir gan eithafwyr rhagfarnllyd sy'n gwrthwynebu hawliau i hoywon. Dylwn nodi'n syth nad wyf yn ceisio cysylltu'r Athro Morgan â phobl felly am eiliad. Dim ond gwneud y pwynt ydwyf ei fod wedi gwneud camgymeriad ac wedi syrthio i drap dwl. Efallai fy mod yn gwneud cam ag ef trwy ddefnyddio un frawddeg fyrbwyll fel sbardun ar gyfer trafod agweddau eithafol, ond dyma beth a ruthrodd trwy fy meddwl yn syth wrth ddarllen y geiriau felly dyna ni.

Er mwyn egluro'r modd y mae'r dechneg yma'n cael ei defnyddio, rhaid troi tuag America lle mae gwrthwynebu hawliau cyfartal yn ddiwydiant enfawr ynddo'i hun. Mae yno sefydliadau mawr sy'n bodoli'n unswydd er mwyn atal hawliau i hoywon. Mae'r rhain bron yn ddieithriad yn camddefnyddio'r gair "family": y Family Research Council, yr American Family Association, Focus On The Family a'r Family Research Institue yw'r pedwar amlycaf. Maent i gyd yn atgas.

Yn ogystal â'r gair hwnnw, mae tair nodwedd arall y maent yn eu rhannu. Y gyntaf yw eu bod i gyd yn Gristnogion ffwndamentalaidd eithafol. Yr ail yw bod eu hobsesiwn â rhyw cyfunrywiol yn agos at fod yn sinistr: mae'n siwr gen i eu bod yn meddwl mwy amdano na'r person hoyw mwyaf nwydus. Y drydedd yw nad ydynt yn tueddu i ddefnyddio'r geiriau "homosexuals" na "gays". Yn hytrach, yn eu datganiadau ceir cyfeiriadau trwsgl a hurt at "people who engage in homosexual behaviour" neu "those who participate in homosexual acts". Trwy roi'r holl bwyslais ar y gweithredoedd rhywiol eu hunain, mae modd di-ystyru'n llwyr y ffaith mai cyflwr meddyliol - ac o fod - yw cyfunrywioldeb. Mae'n ffordd o wadu felly bod "pobl gyfunrywiol" yn bodoli o gwbl. Canlyniad bwriadol hyn yw bod hoywon yn cael eu dad-ddyneiddio. Yn nhyb y ffyliaid yma, nid ydynt yn arddel anffafriaeth yn erbyn "hoywon": dim ond yn erbyn pobl sy'n gwneud "y pethau yma". Iddyn nhw, y cyfan sydd raid i hoywon ei wneud er mwyn peidio bod yn hoyw rhagor yw rhoi'r gorau i gael rhyw cyfunrywiol. Mae'r agwedd ddwl yna'n arwain at ddatganiadau tebyg i hwn gan un aelod o'r mudiad ex-gay:
I tell people all the time that the seduction of homosexuality is so powerful - especially when supported by charismatic presidents and powerful lobbying groups - that it can seem so much easier just to succumb, rather than fight. But that fight is for your very soul. This goes for everybody reading this, whether you identify as "gay" or "straight," "Christian" or not - this is a battle for your soul.
Yr ex-gays yw hoywon sydd am ba bynnag reswm wedi cael troedigaeth Gristnogol ac wedi penderfynu troi'n erbyn cyfunrywioldeb. Yr hyn sy'n gwneud y dyfyniad mor druenus yw dallineb y dyn i'r gwirionedd amlwg. Y rheswm ei bod yn ymddangos i'r siaradwr ei bod mor hawdd "just to succumb" yw oherwydd ei fod yn hoyw. O hyd. Mae'n ddigon hawdd i bobl heterorywiol fel fi beidio "ildio i'r temptasiwn" oherwydd nid ydym yn hoyw. Mae'r dyn truenus yma yn gwadu ei natur ei hun, a hynny heb reswm call yn y byd. Dyma'r math o ganlyniad trist a geir trwy ddiffinio cyfunrywioldeb yn y fath ffordd.

7 comments:

  1. Wedi sgwennu ymateb hirwyntog a diflas oedd ddim byd i wneud efo'r uchod yn y pen draw http://ifanmj.blogspot.com/2011/11/storm-mewn-cwpan-de-yn-y-grug.html

    ReplyDelete
  2. Yr wyf yn berchen ar yr holl organau sydd yn anghenreidiol ar gyfer profiad gwrywgydiol. Mater o ddewis yw eu defnyddio ar gyfer y fath berthynas!

    Yr un safonau moesol sydd yn fy rhwystro rhag cael rhyw gyda'r dyn drws nesa ac sydd yn fy rhwystro rhag cael rhyw gyda'r ddynes drws nesa.

    Mewn sefydliadau unrhywiol megis carchar, ysgol, catrawd neu fynachdy mae mwy o ddynion yn cael rhyw efo dynion eraill am resymau amlwg! A ydynt yn hoyw neu jest yn hogiau sy'n derbyn cysur rhywiol lle mae cysur ar gael?

    Mae'r cysyniad mae dim ond ambell i ddyn sy'n gallu cae rhyw efo hogan a dim ond ambell i ddyn sy'n gallu cael rhyw efo dyn arall yn hurt o gelwyddog, mae'n mater o ddewis.

    Yr wyf wedi gwneud fy newis i, ac wedi cyfyngu'r dewis yna o fewn ffiniau fy moesau ffydd bersonol. Rhwydd hynt i'r sawl sy' ddim yn rhannu fy ffydd i ddewis yn wahanol yn ôl eu moesau eu hunain.

    Ond mae yna rywbeth hurt yn perthyn i anffyddwyr sydd am barhau i honni bod yna "gwahaniaeth" rhwng y rhai syn dewis rhyw gyfunrywiol a'r rhai sydd yn ei ymwrthod!

    Rwy'n dewis peidio cael rhyw gyda dyn arall gan fy mod yn ei ystyried yn bechod, mae'n ymddangos dy fod di'n ymwrthod a'r fath bleser trwy guddio tu nol i derminoleg gyfleus sydd yn dy wahanu di rhag un "ohonynt hwy" - Homophob!

    ReplyDelete
  3. Alwyn ap Huw - Dw i'n meddwl mai beth sy'n gwahanu rhywun sydd ddim yn hoyw rhag rhywun sydd yn hoyw yw nad oes unrhyw ddymuniad rhywiol gan berson sydd ddim yn hoyw i gael rhyw gyda person o'r un rhyw! Mae hynny'n "wahaniaeth" eitha amlwg, a dim byd i'w wneud efo homoffobia! Os mai'r unig beth sy'n dy atal di rhag cael rhyw gyda'r dyn drws nesaf yw dy foesau, a nid diffyg awydd rhywiol i wneud hynny, yna rwyt ti'n hoyw neu'n ddeurywiol!

    Ar nodyn hollol wahanol, mae'r 'Rhyfel yn erbyn y Nadolig: yn ol!

    http://blogs.telegraph.co.uk/news/timstanley/100121165/the-annual-war-on-christmas-shows-how-a-faith-that-once-united-america-now-divides-it/

    ReplyDelete
  4. Yn union Ifan.

    "Yr wyf yn berchen ar yr holl organau sydd yn anghenreidiol ar gyfer profiad gwrywgydiol. Mater o ddewis yw eu defnyddio ar gyfer y fath berthynas!"

    Mae cynnwys dy drôns yn amherthnasol. Wyt ti wir o'r farn ei fod yn fater o ddewis, syml, oeraidd? Bod pobl gyfunrywiol wedi codi un bore ac wedi penderfynu rhoi tro ar y busnes hoyw 'ma? Sut wyt ti felly'n esbonio bodolaeth hoywon yn, dyweder, Iran neu Uganda? Pwy ddiawl fyddai'n dewis bod yn gyfunrywiol mewn llefydd felly, o ystyried yr erledigaeth uffernol y mae hoywon yn ei dioddef yno?

    Fel mae Ifan yn ei ddweud, os mai'r unig beth sy'n dy rwystro rhag cael rhyw â dyn arall yw'r ffaith dy fod yn ei ystyried yn bechod, yna rwyt ti'n hoyw. Yn union fel y dyn di-enw hwnnw rwy'n ei ddyfynnu ar ddiwedd y cofnod uchod. Efallai dylech gwrdd!

    Mewn gwirionedd, rwyt ti a finnau (ac Ifan) yn heterorywiol am union yr un rheswm, sef bod y syniad o gyfathrachu'n rhywiol â dyn yn un nad yw'n apelio i ni. Nid ydym wedi dewis bod yn heterorywiol, fwy nag y mae hoywon wedi dewis bod felly.

    Cyd-ganwn! "I am what I am..."

    ReplyDelete
  5. Mae angen ateb hyn hefyd:

    "Mae'r cysyniad mae dim ond ambell i ddyn sy'n gallu cae rhyw efo hogan a dim ond ambell i ddyn sy'n gallu cael rhyw efo dyn arall yn hurt o gelwyddog, mae'n mater o ddewis."

    Nid oes unrhyw un yn dweud bod rhywioldeb yn fater binary. Mae rhai pobl yn 100% heterorywiol neu gyfunrywiol. Mae eraill yn ddeurywiol, gan fwynhau'r gorau o'r ddau fyd. Mae eraill sy'n heterorywiol yn bennaf ond sy'n cael ambell i brofiad hoyw, ac fel arall hefyd.

    Mae'n raddfa symudol. Nid yw'n fater "unai/neu". Nid bod hyn yn berthnasol o gwbl i'r hyn rwyf yn ei ddweud uchod. Y pwynt pennaf yw nad ydym o reidrwydd yn gallu dewis ein dyheadau.

    ReplyDelete
  6. Hwyrach nad ydym yn dewis ein dyheadau, ond yr ydym yn ddewis sut i ymateb i'r dyheadau yna.

    Roedd y Mrs acw yn eithaf pishyn pan briodasom beth amser yn ôl, ond celwydd byddai honni ar ôl chwarter canrif a llond tŷ o blant mae hi yw'r rhosyn gorau yn yr ardd bellach!

    Moesoldeb, tiriwder, ffyddlondeb a sancteiddrwydd addawid a wnaed o flaen Duw sydd yn ein cadw yn ffyddlon, er gwaetha'r ffaith bod y ddynes drws nesaf yn edrych deng waith mwy horni nag yw Mrs bellach.

    Afraid dweud fy mod i yn edrych mor ddymunol ag a edrychais erioed a gan hynny dydy'r ystyriaeth na fyddai'r ddynes drws nesaf byth yn ystyried pechu efo fi ddim yn rhan o fy hafaliad!

    ReplyDelete
  7. Os mae cyfuynrhywiaeth yw fy ngwyriad, pa beth sydd yn fy rhwystro rhag ffwcio fy Nain, fy Mam, fy modryb, fy chwaer neu fy merch? Dewis moesol, tueddiad rhywiol neu riw craidd arall?

    ReplyDelete