09/01/2012

Myth yr Iesu

Mae Barry wedi ysgrifennu cyfres ardderchog yn egluro pam na ddylid derbyn stori atgyfodiad Iesu Grist y beibl fel gwirionedd. Y fersiwn syml, wrth gwrs, yw nad oes tystiolaeth o gwbl i gefnogi'r grêd bod hwnnw wedi cael ei eni'n wyrthiol fel mab i dduw, wedi cyflawni gwyrthiau ei hunan, ac yna wedi ymddangos yn fyw eto ar ôl cael ei lofruddio. Tystiolaeth, tystiolaeth, tystiolaeth! Mantra digon syrffedus ar y blog yma efallai, ond dyna sydd ei angen er mwyn i mi ac anffyddwyr eraill ddechrau cymryd y myth yma o ddifrif. Fel mae Barry yn ei ddweud mor huawdl, nid oes unrhyw beth o'r fath wedi'i gynnig hyd yma.

Dyma'i erthyglau: rhan 1; rhan 2; rhan 3; rhan 4; rhan 5; rhan 6.

Mae'n rhyfeddol i mi bod cymaint o gristnogion, sy'n ymddangos yn ddigon deallus fel arall, yn syrthio mewn i drap mor blentynaidd pan ddaw'n fater o werthuso dibynadwyedd y beibl. Mae eu rhesymeg fel arfer yn hollol gylchog: fel "tystiolaeth" i gefnogi'r hyn a geir yn y llyfr, eu tuedd yw i gyfeirio at...yr un llyfr. Felly eu "tystiolaeth" i gefnogi haeriad y beibl bod Iesu Grist yn fab i dduw, dyweder, yw bod yr un llyfr yn honni ei fod wedi cyflawni gwyrthiau. Neu mewn geiriau eraill, mae'r beibl yn wir oherwydd mae'r beibl yn dweud bod y beibl yn wir. Nid yw hynny'n dal dŵr am un eiliad, wrth gwrs. Mae Barry'n mynd i gryn dipyn o fanylder, felly cliciwch ar y dolenni uchod.

2 comments:

  1. Diolch :o)

    Un peth: mae'r ddolen i "rhan 4" uchod yn mynd i ran 2.

    ReplyDelete
  2. Wps. Diolch. Wedi'i gywiro.

    ReplyDelete