07/06/2012

Gwyddoniaeth a "ffydd"

Yn ei gofnod diweddaraf ar ei flog, mae'r Hen Rech Flin yn ceisio dweud bod brwdfrydedd llawer o wyddonwyr yn eu gwaith yn ei wneud yn debyg i grefydd, a bod llawer o'r gwaith hwnnw'n gofyn am gryn dipyn o "ffydd". Beth sydd yma yw fersiwn o hen gyhuddiad blinedig a diflas, sef bod gwyddonwyr yn euog o arddel "scientism". Ystyr hyn yn fras yw eu bod yn mynnu mai'r dull gwyddonol yw'r unig ffordd o ddarganfod pethau a'n collfarnu pob dull arall, ond bod hynny'n rhagrithiol gan fod y rhagdybiaeth honno'n un digon crefyddol ynddi'i hun.

Nid wyf yn deall pam mae HRF yn fy nghyhuddo o "honni bod gwyddoniaeth wedi profi bod diwinyddiaeth yn ymarfer academaidd dibwynt" oherwydd, wel, nid wyf wedi dweud y fath beth. Rwy'n credu bod diwinyddiaeth yn ymarfer academaidd dibwynt, mae'n wir, ond nid yw hynny'n rhywbeth y mae modd ei "brofi" gyda gwyddoniaeth. Yn un peth, nid yw "profi" yn air gwyddonol.

Beth bynnag, rhaglen Horizon am ymddangosiad y blaned Gwener yn uniongyrchol rhwng y Ddaear a'r haul (gan olygu ei fod, wrth edrych arno o fan hyn, yn croesi wyneb yr haul) oedd ysbrydoliaeth y cofnod. Roedd yn raglen ddifyr ar y cyfan, ac mae modd ei gwylio (am wythnos, o leiaf) trwy glicio ar y ddolen uchod.

Er i mi fwynhau gwylio, mae HRF yn gywir i feirniadu brawddeg gyntaf un y gyflwynwraig, sef na fydd y digwyddiad yma'n digwydd eto yn ystod "fy mywyd i, bywyd fy mhlant na bywyd fy wyrion/wyresau". Bydd y peth yn digwydd eto mewn 105 blynedd, felly mewn gwirionedd mae'n deg tybio y bydd o leiaf rhai o blant ei phlant ar dir y byw o hyd bryd hynny. Roedd y frawddeg honno'n gamgymeriad digon elfennol a blêr, ond gellir priodoli hynny i'r ffaith mai rhaglen deledu yw Horizon. Mae Horizon, fel cymaint o raglenni gwyddoniaeth eraill, yn euog o gyffrogarwch, neu sensationalism. Mae'r cynhyrchwyr yn byw mewn ofn bod gwylwyr am droi i ffwrdd oni bai bod digon o ddatganiadau mawr a graffeg slic i'w diddanu. Gofynion teledu ac adloniant sy'n gyfrifol am bethau felly. Nid yw'n symptom o unrhyw wendid sylfaenol yn y dull gwyddonol.

Fel mae'n digwydd, mae llawer iawn i'w ddweud am y modd y mae'r cyfryngau - boed darlledwyr neu newyddiadurwyr print - yn ymdrin â gwyddoniaeth. Rwyf wedi bwriadu ysgrifennu am hyn ers talwm, felly efallai bydd hyn yn ysgogiad i mi fynd ati'n fuan.

Dychwelwn at sylwadau'r HRF:
Yr ail beth i nodi yw cymaint o arian, adnoddau diriaethol ac adnoddau ymenyddol sy'n cael eu gwario ar chwilio am fywyd yn y bydysawdau, er gwaetha'r ffaith nad oes, hyd yn hyn, dim fflewj o brawf am ei bodolaeth - gwariant ar ffydd pur yn hytrach nag ar adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn wybyddus!
Mae yna lawer iawn o bethau'n bod ar y frawddeg yma. Yn un peth, cymharol fach yw'r arian ac amser sy'n cael eu gwario ar chwilio am fywyd y tu hwnt i'r Ddaear mewn gwirionedd. Yn sicr nid oes adnoddau mawr yn cael eu dargyfeirio oddi wrth bethau eraill "mwy gwerth chweil" i'r perwyl yma. Mae'n hurt dweud bod y chwilio yma'n digwydd "yn hytrach nag" unrhyw beth.

Yn ogystal, mae'n gamarweiniol dweud bod hyn yn digwydd heb "fflewj o brawf am ei bodolaeth". Mae'n wir mewn un ystyr, ond mae hynny'n methu'r pwynt yn llwyr. Fel mae'r rhaglen ei hun yn ei esbonio, rhaid ystyried maint y bydysawd a nifer anhygoel y sêr sydd ynddo. Yn y Llwybr Llaethog, mae oddeutu 200-400 biliwn o sêr. Nid yw'n hawdd iawn amgyffred na gwerthfawrogi rhif mor wirion o enfawr, a chofier mai dim ond un o'r rhain yw ein haul ni. Ar ben hynny, un galaeth yn unig yw'r Llwybr Llaethog allan o rhyw 200 biliwn yn y bydysawd. Mae'n amhosibl amgyffred y ffigurau erbyn hyn. O ystyried y ffeithiau yma, mae rheolau tebygolrwydd yn dweud nad yw'n afresymol awgrymu nad eithriad mo'r Ddaear. Nid oes rheswm arbennig pam na ddylai bywyd ddatblygu mewn llefydd eraill (yn wir, cyfrifoldeb y sawl sy'n gwadu hyn yw dangos pam ddylai ein planed ni fod yn unigryw). Mae hafaliad Drake yn cynnig rhyw fras amcan o'r hyn y gallwn dybio'n deg.

Yn fwy na hynny, mae galw'r peth yn "ffydd pur" yn hynod o sarhaus, oherwydd wedi i wyddonwyr gynnig damcaniaeth maent yn mynd ati i ymchwilio i'r mater. Efallai na ddaw unrhyw beth o hynny, ond sut mae gwybod heb edrych? Dyna union wrthwyneb yr hyn a geir yn achos crefyddau, sy'n mynnu bod ateb pob cwestiwn mawr i'w gael mewn hen lyfrau ac sy'n ceisio rhwystro pobl chwilfrydig rhag chwilio ymhellach.

Un o'r pethau cyffrous ym myd seryddiaeth ar hyn o bryd yw cymaint o blanedau rydym yn prysur ddarganfod sy'n cylchdroi o gwmpas sêr eraill. Dyma rywbeth gymharol newydd. Er bod damcaniaethu wedi bod ynghylch bodolaeth y fath bethau erioed, dim ond ym 1992 y darganfuwyd y gyntaf. Erbyn hyn rydym yn gwybod yn sicr am bron i 800 (gyda rhai miloedd yn aros i gael eu cadarnhau). Mae darganfod a chofnodi'r planedau yma'n waith gwerth chweil ynddo'i hun, hyd yn oed o anghofio'r posibilrwydd cyffrous bod bywyd yn bodoli ar ambell un. Eto i gyd, wrth i ni graffu'n fanylach ar y planedau yma mae'n syndod cymaint ohonynt sydd i weld yn addas ar gyfer bywyd. Addawol neu beidio, nid yw'n afresymol chwilio o leiaf. Mae'r HRF, ar y llaw arall, yn dweud na ddylem chwilio am dystiolaeth o fywyd ar blanedau eraill nes bod gennym dystiolaeth bod bywyd ar blanedau eraill!
Y trydydd pwynt o ddiddordeb yn y rhaglen oedd yr orffwylltra, braidd, o geisio crafu'r posibilrwydd bod yna fywyd yn ein cysawd ni trwy chwilio am fywyd ar gymylau Fenws yn hytrach nac ar ei dir. Roedd hynny'n ymddangos fel desperation braidd o ran y gred gyffredinol mae ei'n blaned ni yw'r unig un yn y cysawd hwn sy'n gallu cynnal bywyd.
O wylio'r rhaglen, fe welwch nad gorffwylltra mo hynny o gwbl. Maent yn egluro'n glir pam maent yn ymchwilio i'r mater. Mae tymheredd a phwysau'r atmosffêr yn annioddefol ar wyneb Gwener. Hyd yn oed o ystyried yr amrywiaeth anferth yn y math o fywyd a gawn ar y Ddaear, ac o gofio bod bywyd unrhyw le arall am fod yn dra gwahanol, mae'n anodd dychmygu unrhyw beth a all oroesi'r fath amodau. Serch hynny, gan fod ymchwil gyda chymylau uwch ben yr Alpau yn Awstria wedi dangos bod microbau'n byw ynddynt, mae'n werth ystyried y posibilrwydd y gall yr un peth fod yn wir ar y blaned Gwener. Nid desperation mo hynny o gwbl; dim ond damcaniaeth sy'n werth ei hymchwilio ymhellach. Dyma'n union sut y mae gwyddoniaeth i fod i weithio. Dylid croesawu syniadau anarferol os ydynt yn cynnig ffurf newydd ar ymchwil posibl. Beth bynnag, hyd yn oed os y daw'n amlwg bod y ddamcaniaeth wreiddiol yn anghywir, natur gwyddoniaeth yw bod pethau eraill yn aml yn cael eu darganfod yn ystod yr ymchwil nad oedd unrhyw un wedi'u rhagweld. Un o nodweddion mwyaf cyffredin rhai o'r darganfyddiadau pwysicaf yn hanes gwyddoniaeth yw eu bod wedi bod yn annisgwyl neu hyd yn oed yn ddamweiniol. Dyma pam mai ffolineb yw beirniadu ymchwil wyddonol ar y sail nad yw'n "ddefnyddiol". Pwy a wyr?

Tybed beth sydd wedi ysgogi'r Hen Rech i feirniadu'r sawl sy'n chwilio am E.T. a hynny mor hallt? Rhaid i mi gyfaddef, un peth sy'n fy nghyffroi am y posibilrwydd o fywyd ar blanedau eraill yw'r goblygiadau diwinyddol. Byddai hynny'n ddifyr (a doniol) a dweud y lleiaf.

5 comments:

  1. RedGreenInBlue7/6/12 12:37 pm

    Yn aml y mae dadlau yn digwydd oherwydd camddealltwriaeth ynglyn â natur y broses wyddonol, e.e. ydy'r wyddoniaeth yn "profi" pethau… Fyddai'n well dweud y mae pentyr ein gwybodaeth am y byd naturiol yn ei gwneud hi'n debygol dros ben bod diwinyddiaeth yn ymarfer academaidd dibwynt?

    O ystyried y posibilrwydd o fywyd rhywle arall yn y bydysawd: o leiaf bydd yn dipyn bach yn anoddach i ni oresgyn planed flynyddoedd golau i ffwrdd oherwydd croesineb crefyddol!

    ReplyDelete
  2. Gwir. Ond petaem yn darganfod bywyd deallus ar blaned arall mae'n hawdd dychmygu ambell un yn mynnu bod angen rhannu'r efengyl gristnogol gyda hwy!

    Wrth gwrs, hyd yn oed petai bywyd deallus a gwaraidd yn bodoli rhywle arall, mae maint y bydysawd yn golygu ei bod yn bosibl iawn na fyddwn yn dod o hyd iddynt.

    ReplyDelete
  3. Pobl y Bala! Ti'n un arw am droi bob dim yn ddadl flin yn dwyt!

    Roeddwn yn siomedig o godi'n blygeiniol i weld ffenomena unwaith mewn oes, a methu ei gweld oherwydd tywydd cachu Cymru, ac wedi fy siomi gan rhaglen sy'n honni ei fod yn brif raglen prif darparydd rhaglenni ffeithiol yr ynysoedd hyn am roi ffug gobaith imi o gael gweld y digwyddiad, yn wir am frolio am fis o flaen llaw y byddwn "ar fy ngholled" pe bawn yn ei fethu!

    Rwy'n cofio gwylio Horizon yn ôl yn y 60au pan oedd yn rhaglen a oedd yn poblogeiddio gwyddoniaeth ac yn creu ysu i wybod mwy am y gwyddorau ymysg y gwerin datws .

    Fy nghwyn am Horizon yw mae rhaglen pnawn Dydd Sul ydoedd, byddai Jess Yates wedi gwneud gwell joban o'i gyflwyno na'r gwyddonwyr druan, diobaith a ymddangosodd ar y rhaglen am glip Venws!

    Roedd y rhaglen yn Gac o'r radd blaenaf, pe byddet wedi ei gwylio. mi fyddet yn gytuno a mi bod angen gwell gan y Bîb!

    ReplyDelete
  4. Rwy'n cytuno bod safon Horizon, fel cymaint o raglenni gwyddoniaeth eraill, wedi syrthio'n ddifrifol yn gyffredinol dros y blynyddoedd. Ond a bod yn onest, roeddwn yn meddwl bod y bennod yma'n gymharol ok (rwyf wedi'i gwylio).

    O leiaf nid bai'r rhaglen oedd y tywydd ar y diwrnod! Mae'r digwyddiad yn un arwyddocaol. Mewn un gwynt rwyt yn brolio sut oedd y gyfres, yn y 60au, yn llwyddo i gyffroi ac ennyn diddordeb y werin datws mewn gwyddoniaeth, ac ar y llall ti'n beirniadu'r bennod ddiweddaraf am dy gyffroi'n ormodol!

    Rwyt yn anodd dy blesio weithiau :*)

    ReplyDelete
  5. Wrth gwrs fy mod yn gallu beio'r BBC am y tywydd, onid y bali Derec Brockway 'na o'r Bîb sy'n trefnu'r tywydd? Ac fel pob dim arall gan y gorfforaeth mae pob dim wedi ei ganoli ar Gaerdydd, di'r sinach bach byth yn rhoi tywydd teg i ni yn y gogledd!

    ReplyDelete