04/07/2012

Helo boson Higgs, o'r diwedd!

Daeth y cyhoeddiad hir-ddisgwyliedig y bore 'ma bod gwyddonwyr CERN yn hyderus eu bod wedi canfod boson Higgs, neu o leiaf rhywbeth tebyg iddo. Mae ffisegwyr wedi bod yn hela'r gronyn yma ers blynyddoedd maith: roedd eu hafaliadau'n awgrymu y dylai'r fath beth fodoli, ond dyma'r tro cyntaf i dystiolaeth uniongyrchol ddod i'r amlwg.

Fel mae'n digwydd, darllenais lyfr o'r enw The Trouble With Physics gan Lee Smolin yn ddiweddar, ac roedd hwnnw'n dadlau bod lle i bryderu am gyflwr ffiseg fel maes yn gyffredinol: nid oedd ffisegwyr wedi gwneud darganfyddiad mawr pwysig ers rhai degawdau, felly tybed a oedden nhw ar y trywydd anghywir? Rwy'n siwr bod Smolin yn hapus heddiw nad yw'r 40 blynedd diwethaf wedi bod yn wastraff! Mae'n anodd gor-ddweud pwysigrwydd y darganfyddiad. Dyma gyfiawnhau'r holl sgriblo damcaniaethol ar y bwrdd du. Wrth gwrs, y peth gwych am wyddoniaeth yw bod pob darganfyddiad yn codi cwestiynau manylach. Dim ond y dechrau yw hyn felly: mae llawer iawn mwy o waith i'w wneud.

Un peth arall. Mae'r llun isod ar gyfer awdur pennawd adroddiad Golwg 360 a phawb arall sydd wedi defnyddio'r ymadrodd hurt yma heddiw:


Nid oes gan y gronyn yma unrhyw beth i'w wneud ag unrhyw dduw. Fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, rwy'n credu bod y lol yma'n deillio'n rhannol o duedd anffodus Einstein (a Stephen Hawking yn y gorffennol, er ei fod wedi rhoi'r gorau iddi bellach) i ddefnyddio'r gair 'duw' mewn rhyw ffordd farddonol, drosiadol. Cyfeirio at y bydysawd ei hun a wna'r gair 'duw' yma yn eu hachos hwy, ond yn anochel mae llawer o bobl crefyddol yn hoffi manteisio ar y cyfle i hawlio'r ddau athrylith, ar gam, fel credinwyr pybyr. Mae galw boson Higgs yn 'ronyn Duw' yn ddiog a dwl, heb sôn am fod yn sarhad ar y miloedd a weithiodd mor galed i'w ddarganfod.

10 comments:

  1. "Nid oes gan y gronyn yma unrhyw beth i'w wneud ag unrhyw ddu."

    Sylw anffodus braidd o ystyried y llun o Samuel L. Jackson uwch ei ben! :D

    Nid fi ysgrifennodd y stori yn Golwg ond dw i ddim yn gweld cymaint a hynny o'i le ar ei alw yn 'ronyn Duw'. Modd o ddal diddirdeb y cyhoedd mewn pwnc y byddwn nhw fel arall yn ei ystyried yn hynod o ddiflas fel arall ydyw. Ac mae denu diddordeb yn bwysig i wyddonwyr - o ran cael nawdd, os nad unrhyw beth arall.

    Fy hunch i ydi na fyddai pobol grefyddol yn hapus iawn ei fod yn cael ei alw yn 'ronyn duw' chwaith! Mae'n awgrymu mewn ffordd mai'r gronyn yma sy'n dal y byd at ei gilydd, yn hytrach na'u bod hollalluog nhw.

    ReplyDelete
  2. Haha. Bydd rhaid i'r teipo yna aros, am wn i.

    Ta waeth. Byddai ei alw'n 'ronyn yr iwnicorn anweledig pinc' yn 'dal diddordeb' y cyhoedd hefyd. Nid yw hynny'n golygu ei fod yn beth cyfrifol na defnyddiol i'w wneud. Mae'r stwff yma'n rhyfeddol o gyffrous a difyr ac arwyddocaol ynddo'i hun heb orfod ei osod mewn rhyw gyd-destun mystig neu 'ysbrydol' dwl. Yn wir, mae hynny'n ei ddibrisio yn fy marn i.

    Mae dy bwynt olaf yn un da.

    ReplyDelete
  3. Gyda llaw, dyma erthygl ddifyr ar hanes yr ymadrodd, a pham nad yw ffisegwyr yn ei hoffi, o wefan Christianity Today. Eithaf hoffi'r enw 'Goddamn Particle' a dweud y gwir.

    ReplyDelete
  4. Erthygl ddiddorol. Roeddwn i'n meddwl mai joc oedd o - yn deillio o cynodiad crefyddol y gair 'mass'.

    Mae'n ddiddorol bod Higgs yn erbyn ei alw yn God Particle rhag ofn i'r enw dramgwyddo pobol crefyddol.

    Ond ar ol gweld cwpwl o bobol ar Twitter yn honni bod darganfyddiad y 'God paticle' yn ergyd i anffyddiaeth ( http://i.imgur.com/Y69cF.png ), efallai fy mod i'n dechrau gweld sy safbwynt di!

    ReplyDelete
  5. Haha, wyt ti wedi gweld hwn?

    https://twitter.com/#!/DerpParticle

    ReplyDelete
  6. Mam bach. Diolch am hwnna.

    Dyma'n union pam mae'r ymadrodd yn fy mlino. Mae'n bwydo'r union fath yna o falu cachu.

    "God particle proves atheists wrong!!"?!

    "Will the Recently Found Higgs Boson (God Particle) Bring Atheists and Agnostics to Believe in God?" - Ateb: Na. Nesaf?

    Ie wir, mae fy mhwynt wedi'i brofi yn anffodus

    ReplyDelete
  7. Gwiria teipo yma er mwyn y nefoedd! "Nid oes gan y gronyn yma unrhyw beth i'w wneud ag unrhyw ddu." o dan lun o ddyn tywyll ei groen - mae'n gwead iti ymddangos yn hiliol (a chofia dileu'r sylw yma ar ôl dy wiriad)

    ReplyDelete
  8. Diolch Dylan, onid ydwyt yn Goc Oen bach cas? Dyma'r tro olaf imi geisio rhoi gair i gall iti. Y tro nesaf imi weld camgymeriad tebyg yn dy bostiadau mi wnaf yn fawr o fy nghyfle i dy fychanu yn hytrach na dy rybuddio!

    ReplyDelete
  9. Ddim yn siwr sut rwyf wedi dy bechu, ond diolch am dy gonsyrn.

    ReplyDelete