18/07/2012

Y traddodiad o dorri darnau oddi ar bidlanau babanod

Mae llys yn yr Almaen wedi penderfynu gwahardd y traddodiad iddewaidd ac islamaidd o enwaedu. Am rhyw reswm, un o flaenoriaethau pennaf llawer o gyplau crefyddol ar enedigaeth eu meibion yw mynd ati gyda chyllell i dorri blaengroen y creadur i ffwrdd. Y peth rhyfeddol yw bod y gwaharddiad yn eithriadol o ddadleuol.

Dylid cofio mai llys cymharol isel yw hwn, yn ninas Cwlen. Mae'n ddigon posibl y caiff y penderfyniad ei wyrdroi'n dilyn apêl mewn llys uwch. Ond gyda chamau bychain fel hyn y daw cynnydd.

Mae Giles Fraser yn prysur wneud enw (anhaeddiannol) iddo'i hun fel llais cristnogol cymhedrol a synhwyrol yn y drafodaeth gyhoeddus ynghylch lle crefydd yn ein cymdeithas. Awgrymaf bod hynny'n dweud cyfrolau am safon lladmeryddion 'yr ochr arall'. Yn sicr, nid oes unrhyw rinwedd o gwbl yn perthyn i'r erthygl hynod annifyr yma, lle mae Fraser yn beirniadu'r llys Almaenaidd a'n amddiffyn enwaedu.

Yn ôl yr awdur, dylid gwarchod y ddefod o hacio darnau o gyrff babanod i ffwrdd oherwydd ei fod yn draddodiad pwysig a'n elfen greiddiol o hunaniaeth llawer o iddewon. Rwyf am wneud pwynt sy'n ymddangos yn gwbl amlwg i mi, ond mae'n debyg bod llawer yn cael anhawster ag ef: dylai traddodiad fod yn gwbl amherthnasol pan ddaw'n fater o gyllyll a chociau plant. Yn wir, mae'r ffaith bod arferiad yn un hynafol yn fwy fyth o reswm i'w gwestiynu. Ystyriaethau meddygol yw'r unig rai y mae modd eu cyfiawnhau.

Mae'r ddadl yn ddigon syml yn y bôn: oni bai bod problem feddygol (sydd, mae'n wir, yn gallu codi o bryd i'w gilydd), nid oes modd cyfiawnhau gwneud y fath beth i rywun sy'n rhy ifanc o lawer i gydsynio. Er gwaethaf honiadau i'r gwrthwyneb, nid oes tystiolaeth bod enwaedu'n arwain at fanteision meddygol (dim byd nad yw ymolchi'n rheolaidd yn ei gynnig yr un mor llwyddiannus, o leiaf!). Y gwir yw bod y ddefod yn gallu peri problemau a chymlethdodau, megis yn yr achos a arweiniodd at y gwrandawiad llys yma'n y lle cyntaf. Gan nad oes cyfiawnhad meddygol yn y mwyafrif helaeth o achosion, mae'r risg felly'n annerbyniol.

Mae rhai o gefnogwyr y ddefod yn dadlau mai darn di-angen o groen yn unig ydyw ac nad oes gwahaniaeth rhwng enwaedu a'r arfer o dorri'r llinyn bogail. Nid yw'r ddau beth yn debyg o gwbl, fodd bynnag. Ar ôl y geni, bydd y llinyn bogail yn dechrau pydru'n fuan. Mae ei dorri i ffwrdd yn fodd o osgoi haint. Nid yw hynny'n wir yn achos y blaengroen.

Daw Fraser o dras iddewig, ac mae'n debyg bod hynny'n pwyso'n drwm ar ei feddwl:
I was circumcised by the mohel when I was eight days old on my grandmother's kitchen table in St John's Wood. It wasn't done for health reasons. It was a statement of identity. Whatever is meant by the slippery identification "being Jewish" – my father is, my mother is not – it had something to do with this. Circumcision marked me out as belonging. Years later, when my wife objected to the circumcision of our new son on the grounds that it was cruel and unnecessary, I reluctantly gave way. Intellectually, I knew that there was little left of "being Jewish" to protect. After all, my wife was not Jewish and I had become a Christian priest. Halachically, it made no sense.
For all of this, I still find it difficult that my son is not circumcised. The philosopher Emil Fackenheim, himself a survivor of Sachsenhausen concentration camp, famously added to the 613th commandments of the Hebrew scriptures with a new 614th commandment: thou must not grant Hitler posthumous victories. This new mitzvah insisted that to abandon one's Jewish identity was to do Hitler's work for him. Jews are commanded to survive as Jews by the martyrs of the Holocaust. My own family history – from Miriam Beckerman and Louis Friedeburg becoming Frasers (a name change to escape antisemitism) to their grandson becoming Rev Fraser (long story) to the uncircumcised Felix Fraser – can be read as a betrayal of that 614th commandment.
 And I have always found this extremely difficult to deal with. On some level, I feel like a betrayer.
Dyma fy hoff ymateb yn y sylwadau sy'n dilyn yr erthygl: 'Your wife defended your son from a man who wanted to mutilate him, so good for her.' Perffaith. Bravo.

Yn ogystal, os oes ganddo le i bryderu am fod yn fradwr i'w hunaniaeth iddewig, awgrymaf yn garedig bod y ffaith iddo ddod yn weinidog cristnogol yn fwy arwyddocaol o lawer. Y cwbl sydd yma mewn gwirionedd yw mynegiant o greisis hunaniaethol yr awdur. Nid yw Fraser hyd yn oed yn rhoi cynnig ar egluro pam yn union ddylai ei angst personol olygu bod rhaid i fabanod bychain fynd o dan gyllell.

Beth bynnag, traddodiad y rhieni sy'n mynnu bod rhaid enwaedu. Yn ôl eu natur, nid yw babanod yn ymwybodol o'r fath bethau, heb sôn am eu hystyried yn bwysig. Wrth reswm, os ydynt yn penderfynu ar ôl dyfod yn oedolion eu bod yn dymuno cael gwared ar eu blaengroen, hei lwc iddynt. Ond mae'r ffaith mai prin iawn yw'r sawl sy'n gwneud hynny ar ôl tyfu fyny yn dweud y cwbl a'n profi fy mhwynt.

Cytunaf ag un paragraff o'r ysgrif, o leiaf:
This week, Germany's chancellor Angela Merkel set herself against the court ruling by telling members of her CDU party that "I do not want Germany to be the only country in the world in which Jews cannot practise their rites." It beggars belief that a German chancellor ought to have to utter such a sentence.
Rheswm cwbl wahanol sydd gen i, fodd bynnag: nid wyf am i'r Almaen fod yr unig wlad sy'n gwahardd y ddefod iddewaidd yma, ond mae hynny oherwydd rwy'n dymuno gweld gweddill y byd yn ymuno â hi.

4 comments:

  1. Mae gan Gymru gysylltiadau agos ag Iddewiaeth. Roeddwn i'n darllen llyfr academaidd yn ddiweddar oedd yn honni bod y Cymry yn ystod y 19eg ganrif bron a bod wedi troi eu cefn ar eu hunaniaeth Cymreig ac wedi mabwysiadu hunaniaeth Iddewig!

    Mae'n amlwg bod atsain o'r gred yma yn bodoli hyd heddiw - roedd yna lythyr yn Golwg yr wythnos diwethaf yn dweud bod y Cymry yn ddisgynyddion i un o lwythau Israel. Hmmm...

    Mae'n anodd gwybod beth i'w ddweud am Iddewiaeth weithiau. Ar yr un llaw mae rhywun yn eu parchu am lynu at eu diwylliant yn wyneb erledigaeth enbyd. Rydyn ni'n brolio ein bod ni 'Yma o Hyd', ond mater bach oedd i ni oroesi o'i gymharu â'r Iddewon.

    Ac eto oherwydd beth y mae nhw wedi bod drwyddo, mae rhywun yn ei chael hi'n anodd beirniadu rhai elfennau o'u diwylliant fel yr wyt ti'n ein grybwyll isod. Ac mae'n siwr eu bod nhw hefyd yn ei chael hi'n anodd rhoi'r gorau i fod yn amddiffynnol ac ystyried eu diwylliant eu hunain mewn modd gwrthrychol, hefyd.

    ReplyDelete
  2. Nid wyf i'n ei chael yn anodd beirniadu rhai elfennau o'u dilwylliant os yw'r elfennau hynny'n wrthun. Ond efallai mai fi sy'n od.

    Yn anochel, mae'r ffaith mai'r Almaen, digwydd bod, yw'r wlad gyntaf i wahardd y ddefod yma wedi arwain at awgrymiadau diog mai parhad o wrth-semitiaeth hanesyddol yr Almaenwyr sy'n gyfrifol. Ond nid bai'r Almaen mo hynny.

    Wrth gwrs mae'r iddewon wedi dioddef erledigaeth enbyd ar hyd y blynyddoedd, ond nid bai babanod bach mo hynny chwaith.

    ReplyDelete
  3. Gyda llaw, mae'n ddiddorol dy weld yn sôn am gysylltiadau agos rhwng y Cymry a'r iddewon. Roeddwn wedi tybio mai'r gwrthwyneb oedd yn wir, sef ei bod yn rhyfedd cyn lleied o iddewon sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru ac ati yn hanesyddol. Roeddwn yn credu mai cyfraniad pennaf iddewon i hanes Cymru oedd dioddef yn ofnadwy oherwydd terfysg Tonypandy ym 1911. Rwy'n hapus i gael fy mhrofi'n anghywir.

    Rwy'n siwr bod pob llwyth yn eu tro wedi honni mai disgynyddwyr hynafiaid Israel ydynt. Yng Nghymru, mae'n debyg mai Gomer yw'r ffefryn. Mae'r traddodiadau yma'n ddifyr, ond rhaid chwerthin os oes rhywun dal i gredu'r fath bethau o ddifrif!

    ReplyDelete
  4. Difir iawn! Mater ymarferol yw enwaediad yng nghryd y crefyddau Abrahamaidd, maent yn wledydd hynod tywodlyd! Wedi cael profiad o ryw ar draeth y Bermo, rwy’n ddeall yn burion pam bod enwaedu yn boblogaidd mewn tiroedd tywodlyd!

    Ond nid crefydd nac ymarferoldeb yw'r brif reswm drios enwaedu bellach, mae'n mater o gyfalaf!

    Prin yw'r hogiau bach sy'n cael eu enwaedu yng Ngwledydd Prydain am y reswm syml y byddai enwaedu yn ychwanegu at gostau'r GIG ym Mhrydain. Yn yr UDA mae cost enwaedu yn cael ei ategu at gost eu system o feddygaeth preifat. Mae enwaedu'n werth ei wneud er mwyn yr arian – naw wfft i'r crefydd!

    Hwyrach bod torri darnau cociau hogs bach yn grefydd gwael, ond, wir yr, y mae'n cyfalafiaeth gwaeth!

    ReplyDelete