07/08/2012

Chwilfrydedd a'r Blaned Mawrth

Mae'n adeg cyffrous iawn ar hyn o bryd os ydych yn ymddiddori mewn gwyddoniaeth yn gyffredinol, a seryddiaeth yn benodol: y bore 'ma, fe laniodd robot o'r enw Curiosity yn llwyddiannus ar wyneb y blaned Mawrth. Dechreuodd Curiosity ar ei daith o'r Ddaear ar 26 Tachwedd, sy'n rhoi syniad o'r pellter anferth rhyngom a'r blaned goch ar hyn o bryd. Er bod 352 miliwn milltir yn gwahanu'r robot bach unig a'r criw sy'n ei reoli, mae eisoes wedi bod yn brysur yn anfon lluniau atom. Bydd y gwaith go iawn yn dechrau'n fuan, sef astudio hinsawdd a daeareg Mawrth, yn ogystal â pharhau â'r chwilio am dystiolaeth o fywyd yno. Y gobaith yw y bydd yr wybodaeth yma'n ddefnyddiol yn y dyfodol er mwyn cynllunio taith gan bobl i blaned arall am y tro cyntaf erioed.

Rwy'n credu bod ymchwil o'r math yma'n eithriadol o bwysig. Mewn ffordd, rwy'n credu bod adegau fel hyn yn ein huno i gyd fel dynoliaeth, gan amlygu pa mor bitw yw ein gwahaniaethau a'n cecru yma ar y Ddaear (mae hefyd yn pwysleisio pa mor ddi-bwys ydym i gyd yng nghyd-destun y bydysawd, gan ddangos yn arbennig pa mor chwerthinllyd yw'r syniad bod creawdwr y bydysawd yn hoelio'i holl sylw arnom). Pan droediodd Neil Armstrong y lleuad ym 1969, roedd yna elfen gref o genedlaetholdeb a chystadlu Rhyfel Oeraidd, ond erbyn hyn mae gorchwylion o'r math yma'n rai rhyngwladol iawn. Wrth ymchwilio'r bydysawd y tu hwnt i'r carreg bach glas a gwyrdd rydym yn ei alw'n gartref, rydym yn gwneud hynny fel rhywogaeth. Mae Curiosity yn ein cynrychioli i gyd, beth bynnag ein cenedligrwydd.

Bydd rhai pobl yn aml yn dweud mai gwastraff arian yw hyn i gyd. Rhaid cydnabod bod y symiau'n anferthol, ond yn fy marn i mae'n werth pob ceiniog. Bydd llawer yn honni nad oes modd cyfiawnhau'r fath wariant pan mae cymaint o ddioddefaint yn parhau ar y Ddaear. Dyma ateb bendigedig i'r ddadl honno.

Byddaf yn dilyn hynt a helynt y robot yn awchus wrth iddo grwydro ar hyd wyneb Mawrth (mae ganddo gyfrif Twitter ei hun!). Pob llwyddiant iddo. Rwy'n mawr obeithio y caf weld y dydd pan fydd person o gig a gwaed yn gwneud yr un daith.

2 comments:

  1. Un o'r llyfrau gorau dw i erioed wedi i ddarllen yw A Man on the Moon gan Andrew Chaikin. Cyn gwneud hynny doeddwn i heb lawn werthfawrogi pa mor anhygoel oedd y gamp o anfon pobol i'r Lleuad. Ar ol gorffen es i allan o'r ty a sefyll yno'n syllu ar y Lleuad am ryw hanner awr, a gofyn i fi hun a oedd yn rhy hwyr i fi droi cefn ar newyddiaduraeth a mynd yn astronot.

    (Oedd, yn anffodus!)

    ReplyDelete
  2. Mae ganddo gyfrif Twitter "amgen" hefyd: https://twitter.com/SarcasticRover

    ReplyDelete