16/10/2012

Cyd-destun gwleidyddol y ddadl ynghylch erthyliad

Rwy'n credu bod Kenan Malik yn un o'm hoff sylwebwyr erbyn hyn. Rwy'n hoff iawn yn enwedig o'r ysgrif yma ganddo, sy'n ymateb i ymdrech Mehdi Hasan i bortreadu'r safbwynt gwrth-erthylu fel yr un asgell chwith go iawn (a vice versa, wrth gwrs).

Gellir crynhoi safbwynt Hasan trwy ddyfynnu'r ddau baragraff yma:
Abortion is one of those rare political issues on which left and right seem to have swapped ideologies: right-wingers talk of equality, human rights and “defending the innocent”, while left-wingers fetishise “choice”, selfishness and unbridled individualism.
“My body, my life, my choice.” Such rhetoric has always left me perplexed. Isn’t socialism about protecting the weak and vulnerable, giving a voice to the voiceless? Who is weaker or more vulnerable than the unborn child? Which member of our society needs a voice more than the mute baby in the womb?
Mae hynny'n amlwg yn hurt yn fy marn i, ond mae'r modd y mae Malik wedi gallu dangos pam yn arbennig o eglur. Fel y dywed, y pwynt y mae gwrthwynebwyr erthyliad yn methu'n lân â'i ddeall yw mai mater o ymreolaeth y fenyw dros ei chorff ei hun yw'r ddadl mewn gwirionedd. Amcan y gwrthwynewbwyr yw atal hawl hanner y boblogaeth i reoli eu cyfarpar atgenhedlu eu hunain. Mae gwarchod yr hawl hwnnw felly yn sicr yn un rhyddfrydol ac egalitaraidd (ac sydd felly, yn ôl y confensiwn sydd ohoni, yn safbwynt sy'n perthyn yn gyfforddus iawn i'r chwith wleidyddol).

Mae'n braf pan mae rhywun yn ysgrifennu'n huawdl am rywbeth sydd wedi troelli'n ddigyswllt yn eich pen ers peth amser. Teimlad felly a gefais wrth ddarllen yr isod gan Malik:
A fetus is a physical part of woman’s body. That is why we talk of ‘a woman’s right to choose’. Abortion is not about the killing of another human being but about a woman exercising her right to control her own body. The moral status of a fetus that is wanted, and that the woman sees as an unborn child, is different from the moral status of an unwanted fetus that she wishes to abort. Most societies recognize this in the moral and legal distinctions they draw between the abortion of an unwanted fetus and the killing of a wanted one.
Birth transforms that relationship. An entirely physical attachment becomes primarily, and increasingly, social. A fetus is an extension of the physical body of a woman. A newborn is part of the moral community of humans. Its moral status no longer depends upon the desires of the woman but derives from its membership of the moral community. In that change lies the moral difference between a fetus and a newborn, and between abortion and murder.
To put it another way, to be human is not simply a matter of biology, as Hasan and other pro-lifers seem to assert. Certainly there are physical, biological, genetic markers and boundaries that define us as human. But one also becomes human through a process by which we are socialized into the human community. To ignore that is to ignore a fundamental aspect of human existence that, to the left, is vitally important.
Rwyf wedi pwysleisio'r darn mwyaf allweddol un. Os yw'r fenyw eisiau cael y babi, ac yn paratoi'n emosiynol i roi geni i blentyn, mae hynny ynddo'i hun yn gwneud y ffetws yn fwy arwyddocaol o lawer. Os nad ydyw eisiau babi, fodd bynnag, nid yw'n ddim mwy na thyfiant yn ei chroth. Mae'n ran o'i chorff hi ei hun, ac os yw hi'n dymuno cael ei wared, ni ddylai fod gan unrhyw un yr hawl i'w rhwystro.

Darllenwch yr ysgrif gyfan. Beth yw eich barn?

11 comments:

  1. "Fel y dywed, y pwynt y mae gwrthwynebwyr erthyliad yn methu'n lân â'i ddeall yw mai mater o ymreolaeth y fenyw dros ei chorff ei hun yw'r ddadl mewn gwirionedd."

    Ond ti wedi methu'r pwynt. Be mae Hasan yn ei ddweud ydi bod pobl sydd o blaid erthyliad yn dewis hwnna fel man cychwyn y ddadl, a bod pobl sydd yn erbyn y dewis hawliau yr hyn mae nhw'n ei ystyried yn fod dynol fel y man cychwyn, a mai dyna ydi gwraidd y ddadl.

    ReplyDelete
  2. Ond nid yw'n bosibl defnyddio'r dybiaeth yna fel man cychwyn. Mae galw'r tyfiant yn fod dynol yn rhywbeth yn erfyn am esboniad a chyfiawnhad. Dyfynnaf ddau baragraff perthnasol gan Malik, sy'n digwydd dod yn syth cyn y rhai rwyf wedi'u dyfynnu uchod:

    The issue of abortion raises profound questions about what it means to be human, about when and how do we become human, about the nature of rights, and about who possesses them. Hasan was, of course, writing a magazine column, not a philosophical treatise. Nevertheless, if he wants to accuse supporters of abortion rights, and indeed women who have abortions, of ‘selfishness and unbridled individualism’, of not ‘protecting the weak and vulnerable’, or ‘giving a voice to the voiceless’, then he has to root those accusations in some real argument. If he wants to attack pro-abortionists for not defending ‘vulnerable children’ or ‘mute babies’, he has first to make the case that a fetus is a child or a baby that needs protection in the way that a child or a baby postpartum requires protection. This he signally fails to do. And this failure suggests that Hasan, like many pro-lifers, is simply deploying dog-whistle imagery and emotional rhetoric as a means of avoiding answering those difficult questions.

    So let us (very) briefly tackle some of the questions that the abortion debate raises. A cell created by a fusion of egg and sperm is (if we ignore the possibility of cloning) a necessary condition of being a human being. It is not a sufficient condition. A human being is created in the long journey from being a single almost-invisible cell to becoming a self-conscious moral agent. That change does not happen at any one instant, but slowly and over time, so that, almost imperceptibly, a qualitatively different being is created. But while this is a process, and there is no point at which a ‘non-human’ becomes a ‘human’, or a ‘non-person’ becomes a ‘person’, there are moral boundaries that mark qualitative shifts. Birth is one of those boundaries.

    ReplyDelete
  3. Pam bod baich y profi ar y rheiny sy'n dweud bod foetus yn 'berson'? Onid dylid tybio bod foetus yn berson nes darganfod tystiolaeth i'r gwrthwyneb? Oes gen ti'r dystiolaeth honno?

    Mae Malik yn dweud mai geni yw'r ffin moesol rhwng casgliad o gelloedd a person; mae'r honiad yna yn un llawer mwy arbitrary ac an-wyddonol na'r honiad bod foetus yn cyfri fel person rhywbryd rhwng 12 (neu 18 neu 24 neu beth bynnag)wythnos o genhedliad.

    Yn ol diffiniad Malik mae'n berffaith iawn dinistrio babi 9 mis sydd heb gael ei eni cyn belled ac ei fod ym mol ei fam, ond mae dinistrio babi eiliad ar ol iddo symyd o'r bol i'r byd tu allan yn lofruddiaeth. Ydy hyn yn swnio'n iawn i ti?

    Dwi'n bersonol yn credu bod hwn yn fater cymhleth ddifrifol sydd efo dadleuon cryf ar y ddwy ochr; mae'n synhwyrol felly mabwysiadu polisi sy'n caniatau erthylu hyd at rhyw bwynt neu gilydd, neu o dan rhai amgylchiadau.

    Ond wedi cael y ddadl yma lawer gwaith, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n cytunno efo Hasan pan mae'n dweud mai, yn wahanol i'r arfer, rhyddfrydwyr sy'n tueddu i wneud honiadau di-sail neu pardduo'r rheiny sy'n anghytunno a nhw wrth drafod y pwnc hwn. Be sy'n angenrheidiol i gofio ydi bod mwyafrif o'r rhai sy'n chwyrn yn erbyn erthylu yn teimlo felly am resymau clodwiw, nid oherwydd eu bod nhw eisiau "atal hawl hanner y boblogaeth i reoli eu cyfarpar atgenhedlu eu hunain" ond oherwydd yn eu tyb nhw mae erthylu yn gyfystyr a lladd.

    Tydw i ddim yn credu eu bod nhw'n iawn, ond alla i ddim chwaith brofi eu bod nhw'n anghywir.

    [Mae rhai pobl sy'n erbyn erthylu yn amlwg efo cymhellianau gwahanol, Gweriniaethwyr gwalltgof fel Todd Akin er engraifft, ond dwi'n meddwl y gallwn i eu ddiystyru nhw o'r drafodaeth. Efallai dy fod ti'n credu y bod mwy o'r bobl sy'n erbyn erthylu o'r ysgol o feddwl hon na dwi'n ei gydnabod, a gan nad oes gen i ddata am y niferoedd wna i ddim dadlau; amddiffyn pobl sy'n gwrthwynebu erthylu ar sail taerngarwch ydw i, nid amddiffyn ffyliaid sy'n credu y dylai merch sydd wedi cael ei threisio gadw'r babi a phethau hurt felly.]


    ReplyDelete
  4. Rhaid cyfaddef bod y dadleuon o blaid ac yn erbyn erthylu yn drech na fi. Mae i gyd yn dod i lawr i 'pryd mae person yn berson'? Dw i ddim yn meddwl bod gan unrhyw un ateb call i hynny.

    Pryd mae babi yn ymwybodol ac a ydi diffyg ymwybyddiaeth yn golygu ei fod yn iawn ei ladd? Fyddwn i ddim yn cael get-awe efo lladd person sy'n cysgu er nad yw'n ymwybodol bryd hynny.

    Yn bersonol fyddwn i byth eisiau gweld un o fy mhlant i un cael eu herthylu. Ond y peth saffaf yw i ddynion gadw allan a'r peth a gadael i'r menywod benderfynu dw i'n credu! :P

    Un cwestiwn arall - oes unrhyw un erioed wir wedi difaru cael plentyn iach? Petai 100 o fenywod oedd eisiau erthyliad rywsut yn methu ei gael, a dy fod ti'n gofyn iddyn nhw eto pan mae'r plentyn y 5 oed a ydyn nhw'n difaru peidio cael erthygliad, alla'i ddychmygu y byddai 99 o'r rheini yn falch eu bod nhw wedi cadw'r plentyn.

    ReplyDelete
  5. Diolch am y sylwadau!

    Math: "Onid dylid tybio bod foetus yn berson nes darganfod tystiolaeth i'r gwrthwyneb?"

    Ni welaf reswm i dybio hynny. Tra mae'r ffetws yn y groth, y cyfan ydyw yw rhan o gorff y fam. Yn ystof y naw mis hwnnw, nid oes unrhyw bwynt y mae modd pwyntio tuag ato a dweud mai dyma lle mae ffetws yn troi'n berson. Mae datblygiad y ffetws yn raddol. Am y rheswm yma, rwy'n credu bod y drafodaeth ynghylch terfyn cyfreithiol erthylu (sef 24 wythnos) yn un eithaf diflas, sy'n tynnu sylw oddi wrth y ddadl greiddiol.

    Nid wyf chwaith yn siwr pa mor berthnasol yw ymwybyddiaeth fel ffactor (mae'r darn yma'n ateb rhan o sylw Ifan hefyd). Hyd yn oed petai'r ffetws yn fôd cwbl ymwybodol sy'n gallu cyfansoddi cywyddau bendigedig yn y groth, cynigiaf o hyd y dylai fod gan y fam yr hawl i'w erthylu pe bai hynny'n ddymuniad ganddi. Mae hyn yn ddweud mawr, mi wn. Mae yna arbrawf meddyliol enwog (a dadleuol iawn) sy'n trafod hyn. Yn wir, mae hyd yn oed llawer o bobl sydd o blaid hawl y fenyw i ddewis yn anesmwytho o glywed yr awgrym yma. Mae'n gymhleth, rwy'n cytuno'n llwyr.

    Ta waeth. Fel mae Malik yn egluro, mae genedigaeth yn golygu bod newid sylfaenol a phendant wedi digwydd ym mherthynas y ffetws â'r byd. Nid yw'r babi'n ran o gorff y fam bellach, ac mae'r ddibyniaeth gorfforol ar ben (gan droi i fath arall o ddibyniaeth, wrth gwrs). Dyma bwynt penodol lle mae modd dweud bod gennym bellach ddau endid ar wahan.

    "rhyddfrydwyr sy'n tueddu i wneud honiadau di-sail neu pardduo'r rheiny sy'n anghytunno a nhw wrth drafod y pwnc hwn. Be sy'n angenrheidiol i gofio ydi bod mwyafrif o'r rhai sy'n chwyrn yn erbyn erthylu yn teimlo felly am resymau clodwiw, nid oherwydd eu bod nhw eisiau "atal hawl hanner y boblogaeth i reoli eu cyfarpar atgenhedlu eu hunain" ond oherwydd yn eu tyb nhw mae erthylu yn gyfystyr a lladd."

    Rhaid i mi anghytuno'n chwyrn gyda'r darn cyntaf. Ar y cyfan, mae'r mudiad gwrth-ddewis yn ddibynnol ar bardduo, ac ar sloganau a delweddau emosiynol a chamarweiniol, a'n aml fe ddiystyrir y ffaith bod cael erthyliad yn benderfyniad aruthrol o anodd ac ingol.

    Ar y llaw arall, rwy'n hapus i gytuno bod rhai sy'n gwrthwynebu erthyliad yn gwneud hynny’n ddidwyll a'n llawn bwriadau da. Eto i gyd, rwy'n credu bod y dyhead (is-ymwybodol efallai) i reoli cyrff menywod yn ffactor sylweddol, ac rwy'n sicr mai dyma'r rheswm y mae crefydd, fwy neu lai yn ddi-eithriad, yn gwrthwynebu’r hawl i ddewis. I gefnogi'r honiad yma, y cyfan sydd angen i mi ei wneud yw nodi bod cymaint o'r garfan gwrth-ddewis hefyd yn gwrthwynebu dulliau atal-genhedlu a'n ystyried rhyw hamddenol ('casual') yn anfoesol. Rwy'n cydnabod bod modd canfod ambell berson sy'n gwrthwynebu erthyliad ond sy'n frwd o blaid condoms a'r bilsen ac ati, ond awgrymaf mai lleiafrif pitw ydynt.

    Ifan: 'Petai 100 o fenywod oedd eisiau erthyliad rywsut yn methu ei gael, a dy fod ti'n gofyn iddyn nhw eto pan mae'r plentyn y 5 oed a ydyn nhw'n difaru peidio cael erthygliad, alla'i ddychmygu y byddai 99 o'r rheini yn falch eu bod nhw wedi cadw'r plentyn.'

    Mae'n siwr bod hynny'n wir, ond nid yw'n bwynt ystyrlon na defnyddiol iawn yng nghyd-destun y ddadl yma. Mae fel dweud na fyddai 99 allan o 100 ohonom eisiau cyfnewid ein rieni am rieni eraill. Petaem wedi cael ein geni'n blant i bobl gwahanol, byddem yn caru'r bobl hynny yn yr un modd ag yr ydym yn caru ein rhieni go iawn. Ond nid yw hynny'n dweud unrhyw beth diddorol am ein perthynas gyda'r bobl sydd wedi ein magu. Ein rhieni yw ein rhieni, rydym yn blant iddynt, a dyna'r unig realiti sy'n gwneud synnwyr i ni. Mae'r un peth yn wir yn union wrth ystyried ein plant ein hunain.

    ReplyDelete
  6. Mae yna lawer iawn mwy i'w ddweud am hyn. Roedd Blogger yn anfodlon fy mod wedi ysgrifennu cymaint yn y sylw uchod fel ag yr oedd, a gorfu i mi docio cryn dipyn cyn iddo gael ei dderbyn. Rwy'n siwr bod mwy na digon o ddeunydd yma ar gyfer cofnod pellach.

    Diolch eto.

    ReplyDelete
  7. Ie, dw i'n cydnabod nad oedd y bit ola' na yn ddadl yn erbyn erthylu, dim ond myfyrio'n uchel o'n i.

    Ond dw i'n credu bod y cwestiwn ynglyn a pryd mae person yn berson yn un dilys ac amhosib ei ateb.

    Ydi person yn berson pan mae'n sberm - na neu fe fydden ni'n euog o lofruddio miliynau.

    Ydi person yn berson pan mae'n cael ei eni - ydi yn amlwg.

    Rywle rhwng y ddau bwynt yna mae yna bwynt lle mae person yn troi'n berson. Ond lle? Bron yn amhosib ateb y cwestiwn yna dybiwn i neu ryw fath o MRI scan i ddarganfod prys mae'r nerfau yn y meddwl yn dechrau cynnau.

    ReplyDelete
  8. Fel y dywedais uchod, rwy'n credu ei fod yn dibynnu'n gyfan gwbl ar deimladau perchennog y groth. Os yw'r fenyw eisiau plentyn, yna mae'r ffetws yn ddarpar-fabi. Adlewyrchir hyn yn y gyfraith eisoes: mae lladd neu ddifa ffetws yn groes i ewyllys y fam yn drosedd. Mae hynny'n amlwg a theg a chyfiawn.

    Os nad yw'r fenyw eisiau cael babi, ar y llaw arall, nid yw'n ddarpar-fabi o gwbl. Nid yw'n unrhyw beth mwy na thyfiant y mae angen cael gwared arno.

    Mae'n benderfyniad i'r fenyw a neb arall. Ac ydyw, mae hynny'n golygu bod ei barn hi'n bwysicach na barn y dyn sydd wedi'i beichiogi.

    ReplyDelete
  9. Felly, fasa ti'n dweud felly bod gan ddynes hawl i erthyliad wythnos 36, 37, 38... mewn i'w beichiogrwydd - os nad ydy hi'n teimlo bod beth sy'n ei chroth yn ffetws yn hytrach na darpar-fabi?

    Ac mae hynny yn arwain i'r cwestiwn os ydy babis yn gallu cael eu geni a byw heibio 24 wythnos onid babis ydy nhw wedyn dim ffetws?

    ReplyDelete
  10. Mewn egwyddor. Yn ymarferol, mae'r mwyafrif anferth o erthyliadau'n digwydd yn fuan. Er mai 24 wythnos yw'r terfyn ym Mhrydain (sy'n hwyr o gymharu â gwledydd eraill), mae'n debyg mai prin iawn yw'r erthyliadau sy'n digwydd yn hwyrach na 18-20 wythnos; rhesymau meddygol sydd i gyfrif am y rheiny fel arfer. Nid oes rheswm i ddisgwyl y byddai hynny'n newid o gael gwared ar y terfyn.

    I grynhoi gyda slogan: mor fuan â phosibl, ond mor hwyr ag sydd raid.

    ReplyDelete
  11. "Os nad yw'r fenyw eisiau cael babi, ar y llaw arall, nid yw'n ddarpar-fabi o gwbl. Nid yw'n unrhyw beth mwy na thyfiant y mae angen cael gwared arno."

    Dydw i ddim yn siwr a ydw i'n cytuno efo hyn, neu o leiaf efo'r terminoleg yr wyt ti'n ei ddefnyddio. Dw i'n credu bod gan fywyd babi sydd heb ei eni werth - mae'n fwy na thyfiant yn unig. Ar ryw bwynt beth sydd gen ti ydi dau greadur dynol yn sownd i'w gilydd, a dw i ddim yn credu y dylid bychanu gwerth bywyd un ohonyn nhw dim ond am ei fod yn ddibynnol ar y llall am gynhaliaeth. Mae fy mhlant i'n dal yn lled-ddibynnol arna'i am gynhaliaeth, ond dyw hynny ddim yn golygu mai ryw fath o polyp i mi wneud fel ydw i'n mynnu ydyn nhw. :P

    Mae'r enedigaeth yn ymddangos yn ffin yr un mympwyol i fi ag unrhyw un arall. Fe ymddangosodd a diflannodd pen Magw sawl gwaith cyn dod allan o'r diwedd - ar ba bwynt oedd gan Llinos yr hawl i derfynu ei bywyd? Oedd hi'n llai na pherson cyn i fi dorri'r llinyn bogail oedd yn ei chysylltu efo'i mham?

    Doedd fy mhlant i yn sicr ddim i weld llawer callach ar ol dod allan o'r groth ag yr oedden nhw pan oedden nhw i mewn yno. Y peth cyntaf wnaeth eu mham oedd eu clymu mewn blanced tynn a'u rhoi i gysgu mewn ystafell dywyll er mwyn awgrymu iddi eu bod nhw'n ol yn y groth ac mewn 'lle saff'. Os rywbeth roedden nhw'n fwy bywiog yn y groth nag allan ohoni! Dim ond dros gyfnod o fisoedd y sylweddolon nhw eu bod nhw'n greaduriaid ar wahan i'w mam ac yn 'annibynol'.

    Na, yn fy nhyb i mae babi yn greadur dynol sydd efo hawliau cyn cael ei eni. Yr unig gwestiwn yw beth yw'r pwynt lle mae'n troi yn greadur dynol. Dw i'n credu bod y terfyn amser bresennol yn ddigon synhwyrol heb fod unrhyw fath o sicrwydd ynglyn a hynny.

    ReplyDelete