13/11/2012

Llosgi pabi

Mae Prydain wedi mynd yn wallgof. Am y weithred ddi-nod o rannu llun ohono'i hun yn rhoi darn bach o bapur ar dân ar y we, cafodd dyn ei arestio. Dylai'r fath beth ddychryn pawb, dim ots beth yw eich barn am ryfeloedd, milwyr, y fyddin a phopeth arall sy'n cael ei symboleiddio gan y pabi.

Dyma fater syml o ryddid mynegiant. Heb sylw pellach, felly, rhannaf y llun. Anogaf bawb i wneud yr un peth.


3 comments:

  1. Mae'r lambastio'n ddi-ddiwedd.

    Ers sawl tymor mae pel-droedwyr yn cael eu gorfodi i wisgo pabi (gan mod i'n cymryd mai crys gyda pabi wedi argraffu arno yw'r default), a phan ddewisiodd chwaraewr Sunderland beidio 'gwisgo' un ar ei grys mewn gem yn erbyn Everton ar y penwythnos, gwnaed pob mah o ensyniadau am ei gefndir a'i ysgogiad - mae'n enedigol o Derry.

    Hefyd, gliciais i ddim ar y ddolen, ond darllenais bennawwd ar newyddion Yahoo ble roedd Jeremy Clarkson yn beirniadu'r ffaith i pwy bynnag sy'n gyfrifol am gyfrif Twitter rhaglen Top Gear feiddio trydar yn ystod y munud o dawelwch!

    Yn amlwg dyw hyn ddim yn yr un lig ag arestio rhywun, ond dim ond mater o amser fydd hi...

    ReplyDelete
  2. Haha. Hoff iawn o ragrith Jeremy Clarkson, y delwddrylliwr o gawr gwrth-sefydliadol hwnnw. Diolch am hynna.

    Wedi meddwl mwy am y busnes pabis yma. Mae'n rhaid bod miliynau wedi'u prynu ym Mhrydain yn ystod yr wythnos diwethaf. Tybed beth yw eu tynged? Y bin sbwriel? Y fath ddiffyg parch! A yw'r heddlu am fod yn tyrchu drwy finiau'r deyrnas, tybed?

    ReplyDelete
  3. Pwynt da, a ble ant o'r bin sbwriel - os ddim i safle tir leni, yna i ffwrnais fawr, sy'n creu pob math o ddelweddau...

    "Astonishingly stupid" oedd union eiriau Clarkson. A mam bach, wrth fynd i ail-chwilio am yr erthygl, neu i bostio dolen yma (nad oedd yn mynd ar wefannau "newyddion" megis y Mirror a'u tebyg), des ar draws eitem ar wefan Channel 4 sy'n rhestru cyfrifon Twitter a fu'n euog o'r drosedd.

    ReplyDelete