22/07/2013

Y ddraig yn fy ngarej

Bûm yn darllen Demon-Haunted World, un o glasuron niferus Carl Sagan, yn ddiweddar. Hoffwn ddyfynnu un darn sy'n berthnasol iawn pan mae rhai cristnogion yn ymateb i bwyntiau syml gydag ystrydebau diwinyddol ffug-ddwys (niwlogi pethau a dod â'r drafodaeth i ben yw'r amcan, am wn i). Egyr un bennod fel hyn:
"A fire-breathing dragon lives in my garage". Suppose (I'm following a group therapy approach by the psychologist Richard Franklin) I seriously make such an assertion to you. Surely you'd want to check it out, see for yourself. There have been innumerable stories of dragons over the centuries, but no real evidence. What an opportunity!
"Show me," you say. I lead you to my garage. You look inside and see a ladder, empty paint cans, an old tricycle--but no dragon.
"Where's the dragon?" you ask. "Oh, she's right here," I reply, waving vaguely. "I neglected to mention that she's an invisible dragon."
You propose spreading flour on the floor of the garage to capture the dragon's footprints. "Good idea," I say, "but this dragon floats in the air."
Then you'll use an infrared sensor to detect the invisible fire. "Good idea, but the invisible fire is also heatless."
You'll spray-paint the dragon and make her visible. "Good idea, but she's an incorporeal dragon and the paint won't stick." And so on. I counter every physical test you propose with a special explanation of why it won't work.
Now, what's the difference between an invisible, incorporeal, floating dragon who spits heatless fire and no dragon at all? If there's no way to disprove my contention, no conceivable experiment that would count against it, what does it mean to say that my dragon exists? Your inability to invalidate my hypothesis is not at all the same thing as proving it true. Claims that cannot be tested, assertions immune to disproof are veridically worthless, whatever value they may have in inspiring us or in exciting our sense of wonder. What I'm asking you to do comes down to believing, in the absence of evidence, on my say-so.
Gwych iawn. Fersiwn o ddadl duw'r bylchau yw hon yn y bôn. Wrth gwrs, nid oes rheswm i gredu rhywbeth os nad oes tystiolaeth i'w gefnogi. Gan nad oes tystiolaeth o blaid bodolaeth duw, unig dacteg posibl y rhai sy'n ei "addoli" yw symud y pyst gôl dro ar ôl tro. Wrth i "soffistigeiddrwydd" y ddiwinyddiaeth gynyddu, daw'r gwahaniaeth rhwng y fersiwn o "dduw" a ddisgrifir ar un llaw, a duw nad yw'n bodoli o gwbl ar y llaw arall, yn llai a llai eglur.

11 comments:

  1. Ffordd arall da o fframio'r cwestiwn - sy'n gwneud yr un pwynt yn y bon ond o gyfeiriad arall - yw

    "Ystyriwch am eiliad nad oes Duw, ac esblygodd y ddyniolaeth drwy ddetholiad naturiol heb gael ei lywio gan unrhyw law.

    Sut byddai'r byd yn edrych yn wahanol i'r un yr ydyn ni'n byw ynddi?"

    ReplyDelete
  2. Yn wir. Hoffi hwnna. Diolch.

    Rwyf wedi cael llond bol ar y bullshit yma bellach ac rwyf wedi penderfynu bod yn llai cwrtais am y peth o hyn ymlaen. Mae'r fflwff ffug-soffistigedig yma'n fy nghorddi fwy na'r ffwndamentalwyr a bod yn onest; o leiaf mae'r rheiny'n gallu cynnig atebion syth (rhai gwallgof, bid siwr, ond o leiaf maent yn trio) yn hytrach na chwifio dwylo, osgoi'r pwynt a lladd y sgwrs.

    Yr hyn sy'n gwneud yr achos yma'n waeth yw mai dechrau'r ddadl oedd yr honiad mai "rhagfarn" yw nodi'r ffaith nad yw gweddïo'n cael y mymryn lleiaf o effaith ar iechyd cleifion. Nid rhywbeth astrus "y tu hwnt i'n dirnadaeth" mo hyn: mae wedi cael ei astudio'n fanwl, ac mae yna dystiolaeth gadarnhaol nad yw'n gweithio. "#endof" drachefn.

    ReplyDelete
  3. Oni ddylai'r cyfyngaf ei fanteision a'r prinnaf ei gyfleusterau, o edrych o'i amgylch, fod yn weledydd ar weithredoedd gogoneddus Deddfroddwr byd Natur ? On ddylai pob glaswelltyn wrth droed y fath fod dynol yn ogystal â phob seren uwch ei ben fod yn cyfrannu o'u doethineb iddo ? Ond, wedi i mi ofyn y fath gwestiynau rhethregol, mae'n rhaid i mi gyfaddef fod mintai enfawr o blant dynion - ti dy hun yn eu plith, Dylan ! - yn debyg i bedwarcarnolion y maes na welant, er enghraifft, ddim o dlysineb y blodau y deuant ar eu traws yn feunyddiol oblegid gwair yn unig yw eu prif fwyniant. Nid oes gan y dosbarth hwn ymhlith y ddynoliaeth y cyfaddaster i wir ddarllen Natur heb sôn am Y Beibl. Yng ngeiriau'r Ysgrythur:

    Nid yw'r dyn anianol yn derbyn pethau ysbryd Duw, oherwydd ffolineb ydynt iddo ef, ac ni all eu hamgyffred, gan mai mewn modd ysbrydol y maent yn cael eu barnu ( 1 Corinthiaid 2:14 )

    Yn fy marn i, am yr hyn yw ei werth, dugiaid y dwl wyt ti yn ogystal â'r BoiCymraeg, Dylan a thosturiaf wrth y ddau ohonoch eich tlodi ysbrydol.

    ReplyDelete
  4. zzzzzz

    Mae awgrymu nad oes modd i mi fwynhau blodau a phethau hyfryd eraill natur oherwydd nad wyf yn credu ym modolaeth dy gyfaill anweledig yn ffycing chwerthinllyd. Bydd dawel.

    ReplyDelete
  5. Mae pwynt Dafydd yn un ddigon dilys yng nghyd-destun dy ddadleuon di bod angen prawf gwyddonol ar bopeth cyn y gellir credu. Onid oes angen prawf gwyddonol pendant arnat cyn i ti gredu bod blodyn yn hardd?

    Mae'n bosib bod yna ymchwil gwyddonol wedi ei wneud ym meysydd bywydeg , seicoleg ac ati sy'n egluro paham bod rhai ohonom yn gweld blodyn yn hardd, neu ffrwyth yn flasus neu berson yn ddymunol ond hurt bydda'i mynnu y prawf honno cyn i ddyn cae datgan barn.

    Yn wir o or-analeiddio pethau haniaethol fel harddwch, sawr, cariad ac ati maent yn troi'n ddiriaethol ac yn colli eu natur hanfodol. Mae'n anodd caru rhywun ar sail "gwyddonol" ( a dydy mae gennyf lefelau uwch o destosteron, estrogen, dopamin, norepineffrin, serotonin, ocsytosin, a fasopresin yn fy ymennydd ar hyn o bryd dim yn un o'r chat up lines gorau yn y byd chwaith)

    Hwyrach nad oes angen i ti credu yn ein "cyfaill anweledig" er mwyn mwynhau blodau a phethau hyfryd eraill natur ond MAE angen rhywbeth uwch na dy brawf gwyddonol bondigrybwyll i'w mwynhau.

    ReplyDelete
  6. Yn ei ddydd, cyhuddwyd Newton o ddifetha harddwch yr enfys ar ôl iddo esbonio sut y'i ffurfir mewn termau gwyddonol. Yn bersonol, rwy'n credu bod y ddealltwriaeth yna'n ychwanegu at estheteg y ffenomenau naturiol. Mae hyn yn wir hefyd am yr holl ymchwil sy'n cael ei wneud ar yr ymennydd a'n gwerthfawrogiad o harddwch ac ati. Mae'n anhygoel ein bod yn gallu egluro'n hymatebion i bethau yn nhermau lefelau gwahanol o gemegau yn ein pennau, ac nid yw'r wybodaeth honno'n amharu o gwbl ar ddilysrwydd yr ymatebion hynny.

    Ta waeth, mae'n amlwg bod yna wahaniaeth mawr rhwng y pethau rwyt ti'n eu crybwyll a'r hyn oedd gen i mewn sylw. Materion ffeithiol roeddwn i'n cyfeirio atynt. Mae gan y cwestiwn "oes yna dduw?" ateb "oes/na", ac mae angen tystiolaeth er mwyn gallu ateb yn gadarnhaol. Ar y llaw arall, nid oes y fath beth ag ateb cywir i'r cwestiwn "ai'r rhosyn ynteu'r tegeirian sydd brydferthaf?"

    ReplyDelete
  7. Mae tair elfen yn natur pob un ohonom. Mae'r Ddwyfol, y ddynol a'r anifeilaidd ynom. Prawf o'r olaf peth a enwyd gennyf yn frawddeg flaenorol yw dy barodrwydd i ddefnyddio rhegair yn dy sylwadau o dro i dro yn union fel ag y gwnaethost uchod. Mae 1 Corinthiaid 2:14 yn dy ddisgrifio'n berffaith, Dylan !

    ReplyDelete
  8. Hoff iawn o regi, ydw. Os yw hynny'n dy boeni, tough fucking shit. Croeso mawr i ti beidio darllen.

    ReplyDelete
  9. Dydy'r ffaith dy fod mor chwannog i regi o dro'n mennu dim arnaf. Gweld wyf fi fod y fath duedd ynot yn adlewyrchu'n ddrwg arnat. Mae defnyddio rhegeiriau'n rhywbeth a ddisgwyliwn oddi wrth ogofwr prin ei eiriau'n hytrach nag un sydd wedi ennill gradd o Brifysgol ond, gwaeth na hynny, mae'n troi sylw'r ddau ohonom oddi wrth faterion pwysicach y dylem fod yn eu trafod.

    ReplyDelete
  10. Diolch am dy gonsýrn.

    ReplyDelete
  11. Gan i ti wario gymaint o flynyddoedd fel porthor Neuadd JMJ, Dafydd, rwy'n synnu bod dy brofiad heb drechu dy ddisgwyliad bod pobl efo addysg brifysgol ddim yn rhegi!

    Mae rhegi yn ormodol yn gallu bod yn ddiflas ac yn gallu arwain at golli gwerth y rheg fel modd o fynegiant o ddicter, ond mi fyddwn yn hynod amheus o berson sy' byth yn rhegi.

    Os wyt ti'n taro dy fawd efo mwrthwl ond dim yn bloeddio dy regfeydd gwaethaf mewn canlyniad, byddwn yn credu fy mod i wedi dod ar draws berson mor oer ac anemosiynol ei fod yn ymylu ar fod yn seicopath, neu un sydd yn gallu cuddio ei wir deimladau mor dda ag i fod yn hollol dwyllodrus - yn sicr dim yn ddyn i'w drystio.

    Yn wahanol i ti Dafydd, byddwn i ddim yn disgwyl i berson addysgedig i beidio a rhegi ond yn hytrach yn disgwyl iddo / iddi ddefnyddio rhegfeydd mewn cyd-destun priodol. A pham bo Dylan i'w gweld yn colli'r ddadl yn erbyn bodolaeth y dwyfol rwy'n credu ei fod yn gwbl briodol iddo ruo a rhegi ;-)

    ReplyDelete