29/10/2014

Creadydd yw'r Pab

Mae'r eglwys Babyddol wedi datgan ers blynyddoedd - ers dyddiau Pius XII - eu bod yn derbyn bod esblygiad yn wir. Nid oes llawer yn newydd felly yn sylwadau diweddaraf y Pab Ffransis:
When we read about Creation in Genesis, we run the risk of imagining God was a magician, with a magic wand able to do everything. But that is not so,” Francis said.
He added: “He created human beings and let them develop according to the internal laws that he gave to each one so they would reach their fulfilment.
“The Big Bang, which today we hold to be the origin of the world, does not contradict the intervention of the divine creator but, rather, requires it.
“Evolution in nature is not inconsistent with the notion of creation, because evolution requires the creation of beings that evolve.”
Nid yw'n anodd deall cymhelliad y Pab i ymddangos fel petai'n cofleidio gwyddoniaeth. Mae creadaeth yn gysyniad twp, felly dyhead unrhyw berson call yw ymbellhau oddi wrtho. Ond nid yw'r ymdrech yn dal dŵr. Mae'r sylwadau uchod yn mynd yn hollol groes i theori esblygiadol. Er yr ymgais i beidio ymddangos felly, fersiwn fwy niwlog o greadaeth yw'r hyn a ddisgrifir ganddo.

Rwyf wedi dweud o'r blaen bod esblygiad a ffydd grefyddol yn anghydnaws. Mae rhaid dewis, ac fy nadl yw bod unrhyw un sy'n credu mewn duw, ac sy'n honni eu bod yn derbyn theori esblygiadol ar yr un pryd, yn camddeall goblygiadau'r naill neu'r llall (neu'r ddau). Y peth pwysig am esblygiad yw bod y broses yn ddall. Os ydych yn credu mai modd o gyrraedd pwynt penodol (hynny yw, byd sy'n cynnwys bodau dynol) yw esblygiad, yna rydych wedi drysu. Nid yw'n eglur beth mae'r Pab yn ei olygu pan ddywed "reach their fulfilment", ond un peth sy'n sicr: nid oes ganddo unrhyw beth i'w wneud ag esblygiad.

Er bod y Pab yn ceisio rhoi'r argraff nad oes gan ei dduw ffon hud, mae'n mynnu o hyd ei fod wedi creu'r byd trwy ddirgel ffyrdd. Nid hud, ond lledrith. Creadaeth intelligent design yw hyn i bob pwrpas. Dyma'r un hen fflwff siwdo-ddwys yn ffugio cefnogaeth i syniadau gwyddonol, er mwyn dwyn parchusrwydd anhaeddiannol. Dylid rhoi'r gorau i dwyllo ein hunain bod y Fatican yn fwy synhwyrol na'r creadydd cyffredin ffwndamentalaidd ar bwnc theori esblygiadol. Os rywbeth, mae hyd yn oed yn llai gonest.

3 comments:

  1. Tyd 'laen Dylan. Un munud rwyt ti'n dwrdio Cristnogion am anwybyddu Gwyddoniaeth, munud nesa rwyt ti'n ein dwrdio am dderbyn gwyddoniaeth. Byddai rhywun yn meddwl fod gen ti broblem efo ni a'n ffydd ;) Byddai hi'n dlotach byd o lawer heb y doctoriaid hynny sy'n Gristnigion, a heb John Houghton's a John Polkinhorne's y byd. Y broblem ydy diwinyddion sy'n trio ateb cwestiynnau gwyddonol a gwyddonwyr sy'n trio ateb cwestiynnau ysbrydol. Does dim o'i le ar fyd olwg sy'n cynnwys cyfraniad y ddau - gan dderbyn cyfyngiadau y ddau a fod gan y ddau ei awdurdod mewn gwahanol feysydd.

    ReplyDelete
  2. Diolch!

    Y pwynt yw nad yw'r Pab yn derbyn y gwyddoniaeth. Mae'n ceisio rhoi'r argraff ei fod yn gwneud, am resymau gwleidyddol, cyn cynnig fersiwn garbwl o'r theori o dan sylw.

    Derbyn yn llwyr, fel y soniais, nad yw dadlau hyn yn debygol o helpu f'achos, o safbwynt cynhyrchu mwy o bobl sy'n derbyn theori esblygiadol. Ond nid gwleidydd ydw i. Yn fy marn i, nid yw'n gwneud synnwyr i dderbyn esblygiad ac arddel ffydd ar yr un pryd.

    ReplyDelete