07/10/2014

Yr Iwerddon am ddiddymu'r gyfraith yn erbyn cabledd

Mae cableddu yn drosedd anghyfreithlon yn yr Iwerddon. Nid oes unrhyw un wedi cael ei erlyn ers dros gant a hanner o flynyddoedd, mae'n wir, ond mae'n debyg bod yr embarás o gael y fath lol ar y llyfr statud bellach yn drech na hwy. Ond am ryw reswm, maent yn teimlo bod angen refferendwm. Nid wyf yn siwr sut fyddai poblogaeth yr Iwerddon yn pleidleisio yn hynny o beth, a bod yn onest. Maent yn genedl ddigon od lle mae crefydd o dan sylw.

Heblaw am y ffaith nad yw'r gwleidyddion yn ddigon dewr i ddiddymu'r gyfraith hurt eu hunain (pam ddylai hyn fod yn wahanol i unrhyw ddeddf arall?), dyma sy'n fy mhryderu fan hyn: 
Ó’Ríordáin said it hadn’t been decided yet whether the amendment would simply remove the crime of blasphemy, or replace it with a ban on incitement to religious hatred.

It is also unclear whether the ban on blasphemy found in the Defamation Act would remain law, or be replaced by an offense of incitement to religious hatred.
Un cam ymlaen yna cam arall yn ôl fyddai cyfreithloni cabledd ond gwahardd 'annog casineb crefyddol'. Cyfraith cabledd yw gwaharddiad ar 'gasineb crefyddol' i bob pwrpas, wedi'i fynegi mewn ieithwedd ffug-ryddfrydol. A dweud y gwir, mae'n bosibl i waharddiad ar 'gasineb crefyddol' (beth bynnag yw hynny; dyna'r holl bwynt) fod hyd yn oed yn waeth na chyfraith yn erbyn cabledd, gan ei fod yn ehangach a mwy annelwig ei ystyr.

Mae unrhyw waharddiadau o'r fath yn gwbl annerbyniol a gwrthun, ac nid oes lle iddynt mewn cymdeithasau sy'n honni eu bod yn parchu rhyddid mynegiant. Diddymer y gyfraith, a pheidier rhoi unrhyw beth yn ei lle.

4 comments:

  1. Os oes rhywbeth yng nghyfansoddiad Iwerddon, mae'n rhaid cael refferendwm cyn ei ddiddymu neu ei newid.

    ReplyDelete
  2. Diolch. Doeddwn i ddim yn cofio mai ymgais i fodloni gofyniad yn y cyfansoddiad i wahardd cabledd oedd y Defamation Act. Sefyllfa ddwl braidd. Unrhyw syniad sut fyddai'r fath bleidlais yn mynd?

    ReplyDelete
  3. Dwi'n meddwl bod yr egwyddor o gael cyfansoddiad ysgrifenedig a pheidio gadael i wleidyddion ei newid heb ganiatad etholwyr yn un call a dweud y gwir.

    Mae refferenda yn yr Iwerddon yn anodd i'w darogan yn arbennig pan nad oes llawer yn pleidleisio. Ond yn gyffredinol mae'r wlad a chanlyniadau refferenda yn fwy rhyddfrydig o lawer nag oedd yn y gorffennol.

    ReplyDelete
  4. Mae gen innau hefyd gryn gydymdeimlad â'r syniad o gyfansoddiad y mae'n anodd ei newid (gweler hefyd America). Daw'r broblem, wrth gwrs, pan mae un o elfennau'r cyfansoddiad hwnnw mor unigryw o dwp.

    Gwir bod yr Iwerddon wedi mynd yn fwy rhyddfrydig yn ddiweddar, ond nid yw hynny'n dweud rhyw lawer. Mae dylanwad crefydd yn affwysol o hyd. Gobeithio bod y braw yn sgil straeon fel y babanod yn y tanc septig, a thrychineb Savita Praveen Halappanavar, yn prysur llacio hwnnw.

    ReplyDelete