18/11/2014

Band Aid eto fyth

Rwy'n calonogi bod yr ymateb i'r fersiwn ddiweddaraf o Do They Know It's Christmas wedi bod yn llawer mwy cymysg y tro hwn nag yn y gorffennol. Efallai bod mwy a mwy o bobl yn blino arni o'r diwedd, gan mai dyma'r pedwerydd tro iddi ymddangos. Roedd y gân yn uffernol ym 1984 ac mae'n uffernol heddiw. Mae'r teitl yn anfaddeuol ar ben ei hun, yn drewi o ddirmyg trefedigaethol. Nid ydynt hyd yn oed wedi mynd i'r ymdrech o newid y gytgan, sy'n dal i fwydro am fwydo'r byd, er mai trechu ebola, nid newyn, yw'r amcan honedig y tro hwn.

Mae diffyg hunan-ymwybyddiaeth y perfformwyr yn ymylu ar fod yn arwrol. Maent i gyd bron yn wyn a chyfoethog, wrth gwrs, ac mae sawl un yn manteisio ar drefniadau amheus er mwyn osgoi trethi (yn enwedig Bono, un o'r bobl waethaf a droediodd y blaned hon erioed). Mae defnyddio'r un hen diwn gron eto fyth yn awgrymu'n glir mai un blob homogenaidd yw Affrica yng ngolwg Geldof a'i griw. Edrychwch ar y logo, mewn difrif, sy'n rhoi'r agraff mai problem ym Motswana yw ebola. Mae Botswana, wrth gwrs, yn bellach i ffwrdd o lawer o Guinea, Sierra Leone a Liberia nag ydym ni.

Byddai'n bosibl datgymalu geiriau'r gân linell wrth linell. Yn wir, mae rhai wedi gwneud, felly nid oes angen i mi drafferthu. Nid oes yr un peth caredig i'w ddweud amdani, yn llythrennol. Mae pob un dim am y gân yn warthus.

Yn ogystal, mae'r mater hwn yn amlygu problem arall sy'n fy nghorddi ynghylch codi arian yn gyffredinol. Mae Geldof yn ystyried ei hun yn sant am iddo roi ychydig oriau o'i amser o-mor-werthfawr er mwyn ail-recordio hen hen gân, ac ar ben hynny fe ddiawliodd Adele am beidio ymuno ag ef yn y stiwdio. Wrth gwrs, roedd Adele eisoes wedi rhoi swm o arian i Oxfam. A dyna'r pwynt: mae'n debyg bellach nad yw rhoi arian yn dawel bach yn ddigonol; mae angen cael eich gweld yn perfformio mewn rhyw ffordd er mwyn annog eraill, yn anuniongyrchol, i roi ar eich rhan. Mae'n system od nad wyf erioed wedi'i deall. Mae'r un peth yn wir am y ffrind hwnnw sydd gan bawb sy'n mynnu ein bod yn ei noddi i fynd i'r Himalayas neu i fyny Kilimanjaro 'er mwyn codi arian'. Byddai'n llawer gonestach canslo'r gwyliau a rhoi'r arian a arbedir yn uniongyrchol i'r elusen. Cut out the middleman.

Yn y pen draw, mae prynu'r sengl gachu yma'n ddull anobeithiol o gyfrannu ceiniogau at y frwydr yn erbyn ebola. Os am fod o gymorth gwirioneddol, anwybyddwch Geldof a Bono a rhowch swm anrhydeddus yn uniongyrchol i Medecins Sans Frontieres neu #TackleEbola. Dylem allu gwneud hyn yn hael heb yr un smic gan sêr pop hunan-fodlon.

A beth bynnag, fel y gwyr pawb, mae ein hannwyl Ddwylo Dros Y Môr yn gân llai crap:

2 comments:

  1. Rwy'n cytuno gyda'r holl bwyntiau uchod, Dylan - ond gellid dadlau bod Band Aid 30 yn parhau yn rywbeth gwerth chweil. Dyw'r ffaith bod y pobl yma yn gwneud hyn am y rhesymau anghywir, ac mewn modd trwsgwl a gwirion, ddim yn golygu nad ydynt yn gwneud lles (a pwy ohonom ni mewn gwirionedd sy'n rhoi arian i elusen heb ystyried y budd i'n hunain, bydded hwnnw'n 'feelgood factor' neu o gael ein gweld yn cyfrannu?). Rwy'n credu bod BandAid 30, drwy ymddangos ar raglenni megis X Factor a sioeau brecwast, yn cyrraedd cynulleidfa na fyddai fel arafer yn rhoi i elusen, ac na fyddai efallai wedi dilyn y newyddion am Ebola mor agos. Mae'n anodd felly dadlau y gellid 'cut out the middle man' yn yr achos yma - y 'middle man' yw'r ymgyrch PR i ddod a hyn i sylw demograffig penodol. Mae Plant Mewn Angen yn gwneud gwaith tebyg.

    ReplyDelete
  2. Mae cryn amheuaeth am faint o les mae pethau fel hyn yn eu cael ar lawr gwlad. Awgrymaf hefyd bod y drwg a wneir gan rethreg y gân - sef hen gamddealltwriaethau ystrydebol - yn gwneud mwy o ddrwg yn yr hir dymor nag a leddfir gyda'r ychydig arian sy'n cyrraedd y llefydd cywir yn y tymor byr.

    ReplyDelete