19/12/2017

Lleiafrifoedd ethnig a'r Gymraeg

Mae llawer o siaradwyr Cymraeg yn hiliol.

Ffaith syml ac anniddorol yw'r uchod. Ceir hilgwn ym mhob carfan o'r boblogaeth, felly byddai'n rhyfedd petai siaradwyr Cymraeg yn eithriad. Nid yw hynny'n reswm i'w anwybyddu, wrth reswm; mae'n hanfodol ein bod yn beirniadu hiliaeth gan Gymry pryd bynnag y daw i'r amlwg.

Mae dau reswm am hynny. Y pwysicaf a'r amlycaf yw bod hiliaeth yn ffiaidd. Yr ail yw oherwydd bod y ffaith mai lleiafrif yw Cymry Cymraeg yn golygu bod rhagfarn gan rai o'i siaradwyr yn cael ei defnyddio i bardduo'r iaith ei hun gan ei gelynion. Mae'r gwrth-Gymraeg yn awyddus i bortreadu'i siaradwyr fel hilgwn senoffobaidd, felly dylem osgoi rhoi'r cyfle iddynt.

Mae trafodaeth gwerth ei chael am berthynas y Gymraeg a phobl o leiafrifoedd ethnig. Os yw'r Gymraeg i ffynnu, mae rhaid iddi fod yn iaith amlddiwylliannol. Mae'n bwysig felly ein bod yn gwrando pan mae aelodau o leiafrifoedd ethnig yn sôn am eu profiadau â hi, hyd yn oed (na, yn enwedig) pan mae hynny'n ein gwneud yn anghyfforddus. Eto i gyd, teimladau cymysg a gefais wrth ddarllen yr erthygl hynod ddadleuol hon gan Oruj Defoite am ei phrofiadau yng Nglyn Ebwy. Rwyf wedi gwrthsefyll y demtasiwn i ymuno yn y pile-on ar Twitter, felly dyma geisio rhoi trefn ar fy meddyliau fan hyn.

Fel dyn gwyn sy'n siarad Cymraeg, mae profiad dynes di-Gymraeg â chroen tywyll yn estron i mi, ac o ganlyniad rwy'n anghyfforddus â'r syniad o ddiystyru disgrifiad Defoite o'i phrofiadau yn llwyr, fel petawn i'n gwybod yn well. Ond ni allaf helpu'r peth: mae sawl darn o'r erthygl yn codi ael. Dywed, er enghraifft, ei bod yn cael ei chwestiynu am ei sgiliau Cymraeg 'drwy'r amser'. Yng Nglyn Ebwy?! Mae'r erthygl yn amwys am y lleoliad yn hynny o beth, ond mae'n swnio'n rhyfedd i mi dim ots lle sydd o dan sylw. Pwy ddiawl yw'r bobl yma?

 ymlaen i ddweud mai'r un bobl sydd wedyn yn mynnu gwybod o ble y mae'n dod 'go iawn'. Yr awgrym plaen fan hyn yw mai siaradwyr Cymraeg sy'n gyfrifol am yr hiliaeth yn ei bywyd. Mae'r cyhuddiad yn un difrifol. Os yw'n wir, byddai mwy o fanylion am y bobl hyn yn ddefnyddiol dros ben, achos mae angen i ni'u rhoi yn eu lle.

Yn anffodus, nid yw'n helpu pethau trwy fynd ymlaen i ddweud bod cyhuddiad annifyr Aneurin Bevan bod Cymru'n cael ei rhedeg “by small pockets of Welsh-speaking, Welsh-writing zealots, with the vast majority of Welshmen denied participation in the government of their country” yn wir o hyd. Mae yna hen hanes fudr o bardduo lleiafrifoedd trwy awgrymu eu bod yn fwy grymus na'r gwirionedd, a'u bod yn camddefnyddio'r grym hwnnw er mwyn gwarchod eu buddiannau'u hunain, ac mae'n drist gweld aelod o leiafrif arall yn gwyntyllu'r myth.

Yn dilyn yr ymateb blin ar Twitter, cafwyd erthygl gan Abdul-Azim ar wefan yr IWA yn cefnogi Defoite. Dywed bod hiliaeth yr un mor gyffredin yng Nghymru ag yn Lloegr, sy'n deg ond amlwg. Pwysleisia'r pwynt trwy gyfeirio at bresenoldeb UKIP yn y Cynulliad a ralïau gan grwpiau neo-natsïaid. Wrth gwrs mae UKIP a mudiadau asgell-dde eithafol yn elyniaethus tuag at y Gymraeg hefyd, felly mae'n bod yn llithrig braidd fan hyn. Ond gwir asgwrn y gynnen yw'r paragraff anghynnes hwn:
Oruj is highlighting an experience, one which I think is increasingly common, of the Welsh language being used by some to further entrench a racial hierarchy in which black and minority ethnic people are at the bottom. Should this even be surprising, given the resurgence of far-right politics and white supremacism here and abroad?
Mae'r darllenwr cyffredin yn sicr o ddehongli'r datganiad yma trwy gasglu bod ymgyrchwyr iaith yn defnyddio'r Gymraeg yn bwrpasol fel arf hiliol. Mae'n ensyniad difrifol a hyll tu hwnt. A dweud y gwir, mae dweud y fath beth mewn ffordd mor ffwrdd-â-hi yn beryglus. Er fy awydd i roi gwrandawiad teg i'r erthygl, roedd y darn yma'n ddigon i beri mi golli pob cydymdeimlad â'r gweddill.

Fel y dywedais, mae'n hanfodol i'r iaith bod pobl o leiafrifoedd ethnig yn dod i'w siarad. O safbwynt hyrwyddo'r iaith, byddai gwrthod croeso iddynt yn gamgymeriad strategol hurt, heb sôn am fod yn ffiaidd. Fel y dywed Joao Morais ar Twitter, mae ymgyrchwyr iaith yn awyddus i bortreadu'r Gymraeg fel iaith gosmipolitanaidd. Os rywbeth, mae perygl i ni gynhyrfu gormod a thrin lleiafrifoedd ethnig Cymraeg eu hiaith fel novelty bendigedig. Dylai eu bodolaeth gael ei hystyried yn beth hollol normal.

Eto, nid gwadu yw hyn bod yna siaradwyr Cymraeg sydd, am ba bynnag reswm gwirion, am gadw'r iaith yn wyn. Nid oes gennyf reswm i dybio nad ydynt yn bodoli. Ond mae'r erthyglau hyn yn awgrymu bod yna broblem neilltuol ymysg Cymry Cymraeg, felly teg yw gofyn am fwy o fanylion i ddangos bod hynny'n wir. Mae'r erthyglau wedi bod yn fêl ar fysedd troliaid gwrth-Gymraeg y we, sy'n dangos pa mor anghyfrifol yw gwneud cyhuddiadau fel hyn heb dystiolaeth.

Mae'r ddwy erthygl yn mynegi pryderon bod y Gymraeg yn gallu bod yn 'exclusionary'. Ar un law, nid yw'r cyhuddiad yn gwneud llawer o synnwyr. Os nad ydych yn deall iaith, nid ydych yn mynd i allu deall y rhan fwyaf o'r pethau sy'n digwydd trwy gyfrwng yr iaith honno. Dyma natur ieithoedd gwahanol, ac nid oes llawer all unrhyw un ei wneud am y peth. Beth mae'n ei olygu i ddweud dylai iaith fod yn fwy 'inclusive'? Yr unig ystyr onest ac ystyrlon yw sicrhau bod pawb yn y wlad yn cael y cyfle i'w dysgu a'i defnyddio. Mae galw ymdrechion i hyrwyddo'r iaith ac annog ei defnydd yn 'exclusionary' yn ddryslyd tu hwnt; 'exclusionary' fyddai ceisio cadw'r Gymraeg yn glwb cyfrinachol cul. Dylent ddewis un cyhuddiad a bod yn gyson.

Ar y llaw arall, nid yw dysgu Cymraeg yn hawdd, ac mae'n amlwg yn anos byth i fewnfudwyr sy'n ansicr eu Saesneg. Teg hefyd yw'r pwynt bod dysgu iaith newydd yn llawer haws i bobl dosbarth canol, sy'n meddu ar fwy o amser ac adnoddau. Yr ateb, eto, yw croesawu pawb sydd am wneud defnydd o'r iaith a gwneud popeth o fewn ein gallu i'w cynorthwyo. Yn y cyfamser, dylem gondemnio pob Cymro hiliol.

1 comment:

  1. I fod yn gwbl onest, dwi'n meddwl y cyfan mae'r ddwy erthygl yn ei ddangos ydi rhywbeth ti heb ei grybwyll: sef fod pobl o leiafrifoedd ethnig yr un mor tebygol/annhebygol o fod yn elyniaethus tuag at y Gymraeg ag unrhyw un arall, i'r graddau eu bod nhw'n fodlon defnyddio'u hethnigrwydd fel arf yn ei herbyn. Maen nhw'n haeddu'r un dirmyg ag unrhyw un arall gwrth-Gymraeg.

    Mae'n arbennig o wir yn achos Oruj Defoite achos, o be dwi'n ei dallt, mae hi'n byw yn Llundain ers y nesaf peth i 30 mlynedd.

    ReplyDelete