Rwyf wedi esbonio fy marn am y nicáb a'r bwrca o'r blaen, felly gwnaiff grynodeb sydyn y tro: nid wyf yn eu hoffi, mae'r rhesymeg crefyddol sy'n eu cyfiawnhau yn ffiaidd, ond ni ddylid eu gwahardd oherwydd rwy'n credu'n gryf na ddylai'r wladwriaeth ddeddfu ynghylch yr hyn sy'n dderbyniol i'w dinasyddion eu gwisgo. O'r herwydd, rwy'n gwrthwynebu penderfyniad diweddar Denmarc i anghyfreithloni eu gwisgo. Mae'r ffaith bod llai na 200 o Ddaniaid yn gwisgo'r gorchudd, o boblogaeth o 5,780,000, yn awgrymu'n gryf mai 'datrysiad' i broblem nad yw'n bodoli mewn gwirionedd yw'r gwaharddiad.
Yn anffodus, mae Boris Johnson yn cytuno â mi, ac er bod sylwedd ei ddadl yn berffaith gywir, roedd rhaid iddo'i mynegi yn y modd mwyaf ymfflamychol a gwrth-gynhyrchiol posibl.
Johnson, yn drychinebus, yw prif weinidog tebygol nesaf y Deyrnas Gyfunol, felly roedd cymharu'r gorchudd islamaidd â blwch llythyrau'n anghyfrifol o ymfflamychol. Mae Johnson yn ddyn afiach ym mhob ffordd, ond nid yw mor dwp â hynny, felly mae'r ffaith ei fod yn amlwg yn credu bod defnyddio iaith fel hyn yn mynd i fod o gymorth gwleidyddol iddo'n adrodd cyfrolau digalon am yr oes sydd ohoni.
Mae rhagfarn amrwd yn erbyn mwslemiaid yn dod yn fwy cyffredin yn ein bywyd cyhoeddus, ac mae sylwadau Johnson yn amlwg yn symptom o hynny. Yr hyn sy'n rhyfeddol am stori'r person cyntaf yn Nenmarc i gael dirwy am wisgo nicáb yw mai'r rheswm iddi ddenu sylw'r heddlu yn y lle cyntaf oedd bod aelod arall o'r cyhoedd wedi ceisio rhwygo'r gorchudd oddi arni. Mewn geiriau eraill, cafodd ei chosbi am ddioddef ymosodiad. Mae hynny'n dryllio'r syniad mai ymdrech ffeminyddol i amddiffyn menywod rhag orchmynion patriarchaidd yw'r gwaharddiad. Mae'n bur amlwg mai rhagfarn sydd ar waith, a hyd yn oed wrth ddatgan ei wrthwynebiad i'r gyfraith, greddf Boris Johnson yw ei chael hi'r ddwy ffordd a manteisio ar yr union ragfarn sy'n sail iddi wrth wneud. Dyna grynodeb perffaith o arddull gwleidyddol digywilydd ac anegwyddorol y dyn.
No comments:
Post a Comment