14/03/2020

Y coronafirws a'r cyhuddiad o orymateb

Yn y diwedd, gwnaethpwyd y penderfyniad doeth i ohirio'r gêm rygbi rhwng Cymru a'r Alban. Nid epidemolegydd mohonof o fath yn y byd, ond nid oedd cynnull 75,000 o bobl mewn un lle, gyda mwy fyth wedi'u gwasgu yn nhafarnau Caerdydd, yn swnio'n beth call iawn i wneud ar yr amser penodol yma.

Mae'n debygol bod y penderfyniad yn golygu bydd yna lawer o bobl, a fyddai fel arall wedi dal yr haint, yn osgoi gwneud hynny (am y tro, o leiaf). Y broblem yw ei bod yn amhosibl profi hynny. Mae bob tro'n anodd dangos bod penderfyniad wedi achosi i rywbeth beidio digwydd. O'r herwydd, os na fydd cynnydd annisgwyl o ddramatig yn yr achosion yng Nghymru dros yr wythnos nesaf, mae'n anochel y bydd cyhuddiadau mai gorymateb oedd y gohirio.

Dyma broblem gyffredin a rhwystredig. Ers y flwyddyn 2000, er enghraifft, honiad cyffredin yw mai gor-heipio a ffws di-angen oedd y pryder am chwilen y mileniwm. Nid yw hyn yn wir o gwbl: roedd y broblem yn un fawr a difrifol, a dim ond diolch i lawer iawn o waith y llwyddwyd i'w hosgoi. Yn yr un modd, os, trwy wyrth, y llwyddwn i leihau allyriadau carbon yn ddigonol dros y blynyddoedd nesaf i osgoi rhai o senarios gwaethaf newid hinsawdd, bydd llawer iawn o bobl yn dewis dehongli hynny fel arwydd mai celwydd oedd y cyfan yn y lle cyntaf yn hytrach na bod camau anodd a bwriadol wedi datrys problem wirioneddol.

Mae cyfnod anodd eithriadol o'n blaenau, ac er bod pethau wedi difrifoli'n fawr ym Mhrydain dros y 48 awr diwethaf, rwy'n cael yr argraff o hyd nad yw pobl yn gwerthfawrogi'n llawn bod hyn am darfu ar ein bywydau am fisoedd, nid wythnosau. Nid yw tro pedol sydyn y llywodraeth, a fu am wythnosau'n arddel polisi laissez faire idiosyncrataidd tuag at y firws, yn debygol o wneud llawer o les i ymddiriedaeth y cyhoedd yn yr awdurdodau. Mae popeth yn awgrymu i mi mai atal torfeydd yw'r agwedd gallaf (er ei bod yn berffaith wir bod problemau â hynny hefyd), ond mae'n destun pryder mai dim ond rwan yr ydym yn ymuno â gweddill y byd a chyrraedd y casgliad hwnnw. Teg yw dweud bod gorymateb yn amhosibl pan fo cannoedd o filoedd o fywydau, a miliynau ychwanegol ledled y byd, yn y fantol.

1 comment: