18/12/2011

Christopher Hitchens 1949-2011

Daeth y newyddion trist fore Gwener bod yr awdur a'r newyddiadurwr Christopher Hitchens wedi marw ar ôl dioddef o ganser yr oesoffagws ers blwyddyn a hanner.

Fel rwy'n siwr rydych yn gwybod, roedd Hitchens yn anffyddiwr swnllyd a digyfaddawd. Roedd ei ddawn arbennig gyda geiriau, boed ar lafar neu ar bapur, yn ei wneud yn ddadleuwr heb ei ail. Mae modd treulio oriau'n mwynhau gwylio fideos ohono'n traethu a dadlau ar You Tube, ac fel anffyddiwr fy ffefrynnau yw'r rhai lle mae'n herio crefydd. Er enghraifft, dyma eitem ar Fox News yn dilyn marwolaeth Jerry Falwell, bastard rhagfarnllyd o Gristion Americanaidd. Mae'n ddoniol gweld braw'r lleill wrth iddo wrthod mynegi tristwch am dranc y dyn (rhaid gofyn, fel y gwnaeth Hitchens, beth yn union oeddent yn ei ddisgwyl wrth ei wahodd ymlaen):




Os nad ydych wedi'i wylio'n barod, mae'r sgwrs yma rhyngddo a Jeremy Paxman yn ddifyr iawn yn ogystal:




Mae bob tro'n bleser gwrando arno neu ei ddarllen, hyd yn oed pan rydych yn anghytuno ag ef (ac mae digon o achosion lle mae hynny'n wir yn f'achos i: roedd yn enwog am fod yn chwyrn o blaid rhyfel Irác a'r cysyniad (digon didwyll ond cwbl anymarferol, yn fy marn i) o ledaenu democratiaeth trwy drais, ac roedd ei agwedd tuag at ferched yn gallu bod yn ddigon rhyfedd).

Rwy'n gwingo braidd pan clywaf am bobl yn "brwydro" yn "ddewr" yn erbyn canser. Er fy mod yn rhyw ddeall pam mae'r ddelwedd yn apelio, mae iddi oblygiadau annifyr. Mae'n awgrymu bod y bobl sydd yn marw'n y pen draw wedi gwneud hynny am iddynt beidio bod yn ddigon gwydn a chryf; hynny yw, nad oeddent wedi bod eisiau byw'n ddigonol. Fodd bynnag, mae modd gwynebu'r afiechyd gydag urddas, a dyna'n union wnaeth Hitchens. Ysgrifennu am y peth oedd ei reddf naturiol, ac ni ellir ond edmygu ei erthyglau yn ymateb i'r ymosodiad ar ei gorff. Roedd yn cydnabod yn iawn bod y canser yn debygol iawn o'i ladd yn hwyr neu'n hwyrach, ac roedd yn cyfaddef yn ddi-edifar mai sgil-effaith degawdau o ddiota ac ysmygu oedd yr afiechyd i raddau helaeth.

Arwyddocâd pennaf ymdriniaeth Hitchens â'i salwch ei hun yw ei fod yn dangos sut mae ymdopi â phrofiad o'r fath heb orfod poeni am dduwiau a ffydd. Er hynny, a'n unol â'r disgwyl, ymateb diflas llawer o Gristnogion i'w salwch y llynedd oedd datgan yn gyhoeddus eu bod am weddïo drosto a mynegi gobaith y byddai'n "gweld y goleuni" ar ei wely angau (aeth lleiafrif ymhellach gan wneud sylwadau i'r perwyl bod duw'n ei gosbi am ei anffyddiaeth. Roedd rhai hyd yn oed yn ymfalchïo yn y newyddion). Mae'n anodd dychmygu meddylfryd y math o berson sy'n credu y dylai rhywun fod yn fwy tebygol o addoli duw os yw hwnnw newydd eich dedfrydu i farwolaeth, ond mae'n bur gyffredin mae'n debyg. Wrth gwrs, i Hitchens ac i bob anffyddiwr arall, mae hynny'n amherthnasol beth bynnag. Tystiolaeth sy'n bwysig, ac nid oes sôn am hynny'n unrhyw le.

Mae Cristnogion ar eu gwaethaf pan maent yn dweud pethau fel hyn:
Hitchens has died. I loved & prayed for him & grieve his loss. He knows the Truth now.
Rick Warren, Cristion ceidwadol cyfoethog Americanaidd, yw awdur y geiriau. Roedd gan Hitchens ddealltwriaeth eithaf da o'r gwirionedd tra roedd yn fyw, diolch yn fawr iawn, a dyna'n union pam nad oedd yn Gristion. Nid yw'n gwybod unrhyw beth erbyn hyn, gan ei fod wedi marw. Mae meddwl craff a huawdl wedi'i ddiffodd am byth. Mae hyn yn gysyniad digon syml yn y bôn. Twll tîn Warren a'i "alar" ffug hunan-gyfiawn.

12 comments:

  1. Diolch am hyn Dylan, mae ymateb llawer o Gristnogion i farwolaeth Hitchens yn anffodus. Dweud dim yw'r gorau pan fo rhywun rydych chi'n anghytuno gyda'n sylfaenol yn marw. Fodd bynnag, dwyt ti'n gwneud dim lles i dy naratif o blaid anffyddiaeth drwy fynd rownd lle yn galw Cristnogion yn "fastards" a galw "twll tîn" arnom ni. Cymaint ag ydw i'n anghytuno gyda ti ac oeddwn yn anghytuno a Hitchens weli di byth mohona i na Christnogion eraill rwyt ti'n adnabod yn taflu baw felly o gwmpas. Wrth ddefnyddio iaith felly rwyt ti'n dod drosodd braidd yn sur a, wel, llawn casineb, sy'n drueni gan fod darllen am anffyddiaeth gan anffyddiwr yn ddifyr - trueni am y mynegiadau tourettaidd bob hyn a hyn felly.

    ReplyDelete
  2. Clywch, clywch! Nod oes angen ychwanegu unrhyw beth i hon.

    ReplyDelete
  3. Roeddwn i'n eithaf gofalus gyda'r geiriau yna, Rhys. Jerry Falwell yn benodol oedd yn fastard rhagfarnllyd (ac fe roedd; byddwn yn disgwyl i ti gytuno yn hyn o beth), ac at Rick Warren yn benodol roeddwn yn cyfeirio'r sylw blin hwnnw ar y diwedd. Pe byddet yn ail-ddarllen y cofnod, byddet yn sylwi nad wyf yn defnyddio unrhyw eiriau felly i gyfeirio at "Gristnogion" yn gyffredinol.

    Beth bynnag, rwy'n mwynhau rhegi o bryd i'w gilydd. Mae'n addas gwneud tra'n cyfeirio at unigolion sy'n fy nghorddi.

    ReplyDelete
  4. Weithiau, rhegi yw'r ffordd mwyaf effeithiol o fynegi teimladau cryf. Ac mae'n ffaith fod pobl fel Jerry Falwell a Rick Warren yn haeddu'r sylwadau mae Dylan wedi eu gwneud. Rwy'n cytuno 100%.

    ReplyDelete
  5. Dwi'n cytuno, wrth gwrs, am Jerry Falwell. Mae'r rhanfwyaf o Gristnogion yn weddol gytun mae fake oedd e, rhywun ddefnyddiodd Iesu i greu enw ac arian iddo fe ei hun yn hytrach na rhywun oedd yn dilyn Iesu go-iawn. Ond dwi ddim yn meddwl ei bod hi'n deg rhoi Rick Warren yn yr un cwch a Falwell - o fewn rhychwant eang efengyliaeth Americanaidd mae Warren yn un o'r bobl sy'n ok dwi'n meddwl - hyd yn oed os ydy rhywun yn anghytuno ag e mae ganddo integriti yn wahanol i Falwell, fel arall ni fyddai Obama wedi ei ddewis fel Caplan. Er enghriafft mae'n gwneud 'reverse tithing', sef rhoi 90% o'i gyflog i ffwrdd i'r eglwys ac elusenau a cadw 10%. Ond wrth gwrs mae'r 10% yna siŵr a fod yn LOT fawr iawn - ond nid ei fai ef yw ei fod e'n awdur mor boblogaidd! Ond well i mi beidio ei amddiffyn ymhellach oherwydd dwi ddim yn gwybod gymaint a hynny ynglŷn ag e.

    ReplyDelete
  6. Mae ei sylwadau ar Twitter wrth iddo glywed am farwolaeth Hitchens yn dangos ei fod yn ddigon parod i wneud "cheap shot" pan nad yw Hitchens yn gallu ymateb.

    ReplyDelete
  7. Ma ymatebion felly y farwolaeth Hitchens yn anffodus. Ond y pwynt roeddwn i'n gwneud oedd fod dim tystiolaeth, hyd y gwn i, o dwyll yn ymwneud a Warren a'i Weinidogaeth. Annheg felly ei roi yn yr un cwch a Falwell. Dyna'r math o integrity ro ni'n siarad amdano. Mae modd adnabod integriti mewn pobl rydych chi'n anghytuno a nhw e.e. dyna oedd fy myrdwn uchod gyda Dylan yn taflu geiriau rheg i gyfeiriad Warren.

    ReplyDelete
  8. Yn fy marn i, mae Warren yn haeddu hynny am y ffordd mae e wedi ceisio troi marwolaeth Hitchens yn llwyfan iddo ledaenu ei gredoau crefyddol.

    ReplyDelete
  9. Nid yw rhagfarnau a datganiadau Warren cynddrwg â rhai Falwell o gwbl, ond nid yw hynny'n dweud rhyw lawer!

    ReplyDelete
  10. Iawn am "rhagfarnau a datganiadau", ond y pwynt ydy dydy Warren, yn wahanol i Falwell, heb gael ei hun mewn i unrhyw sex na financal scandals. Dyna lle mae integriti y ddau mewn caeau cwbwl wahanol.

    ReplyDelete
  11. Ddim yn anghytuno o gwbl, ond nid wyf wedi cyffelybu'r ddau yn unman felly nid wyf yn siwr iawn beth yw'r broblem.

    Ond ta waeth. Ar nodyn gwahanol mae'n werth darllen yr ysgrif goffa yma gan frawd Christopher Hitchens, Peter. Mae hwnnw'n ddyn digon od, ac wedi dilyn trywydd deallusol gwahanol iawn i'w frawd er i'r ddau fod yn aelodau o'r asgell chwith galed tra'n ifanc. Y gwahanieth pennaf yw bod Christopher wedi parhau'n anffyddiwr digyfaddawd ond bod Peter bellach yn Gristion o argyhoeddiad. A dweud y gwir, rai blynyddoedd yn ôl fe ysgrifennais e-bost at hwnnw'n beirniadu darn hir ganddo yn y Mail On Sunday a oedd yn dweud pethau gwirion am esblygiad ac intelligent design. Er mawr syndod cefais ateb digon sydyn a esgorodd ar fymryn o ohebiaeth. Annisgwyl. Ni fu cytundeb, gyda llaw. Ta waeth, er i berthynas y ddau â'i gilydd fod yn ddigon oer am rai degawdau mae'n debyg iddynt glosio fymryn eto yn ddiweddar ac mae'r erthygl uchod yn eithaf teimladwy.

    ReplyDelete
  12. Llwyr gytuno a ti ynglyn a'r hyn rwyt yn ei ddweud am "frwydro yn erbyn cancr" ac rhyfedd o beth newydd flogio am hynny yn gynharach heddiw, cyn i mi ddarllen hwn.

    ReplyDelete