29/01/2012

Pam dadlau am grefydd?

Diolch i Ifan am ofyn cwestiwn rhesymol iawn: a oes pwynt dadlau am grefydd?

Rwy'n amlwg yn credu bod y gwrthdaro rhwng crefydd (ac ofergoeledd yn gyffredinol) ar un llaw, a'r byd go iawn ar y llaw arall, yn bwnc pwysig sydd angen ei drafod. Ond beth am bobl eraill?

Mae prif bwynt ei erthygl yn berffaith wir, sef bod unrhyw un sydd eisoes â safbwyntiau cryfion y naill ffordd neu'r llall yn annhebygol o newid eu meddyliau'n dilyn dadl â rhywun o'r "ochr arall". Byddai'n destun syndod anferthol i mi petai unrhyw Gristion o argyhoeddiad yn rhoi'r gorau i'w ffydd mewn fflach oherwydd fy mlog.

Er hynny, rwy'n credu bod yna garfannau eraill o bobl y mae'n rhesymol ceisio'u darbwyllo. Yn un peth, mae cryn dipyn o bobl sydd heb wir feddwl am y peth o ddifrif y naill ffordd na'r llall. Mae gan y rhan fwyaf o bobl bethau llawer gwell i'w gwneud, wedi'r cyfan. Wrth gwrs mae'n debygol bod y rhan fwyaf o'r bobl yma'n ystyried yr holl bwnc yn un diflas a di-bwynt; fel arall, ni fyddent mor ddi-hid ac aphathetig yn ei gylch. Ond os yw ambell un yn digwydd baglu ar draws y blog, efallai bod modd eu perswadio bod y mater yn un pwysig ac mai fi sy'n iawn. Efallai ddim. Ond mae'n werth trio.

Mae'n ddigon posibl bod rhai o'r bobl sydd heb feddwl llawer am y peth yn tueddu i alw'u hunain yn Gristnogion, efallai am resymau diwylliannol neu draddodiadol. Nid ydynt yn arddel ffydd gref na'n mynd i'r capel, na'n darllen y beibl, na'n treulio llawer o amser yn meddwl am faterion diwinyddol yn gyffredinol, ond maent yn derbyn yn ganiataol bod rhyw fath o dduw'n bodoli. Efallai bod modd dangos iddynt nad oes rhaid gwneud hynny.

Rwy'n amau hefyd bod yna lawer sydd wedi meddwl ychydig am y mater ond sy'n galw'u hunain yn agnosticiaid. Dyna'r label a ddewisais innau am ychydig o flynyddoedd hefyd, nes i mi sylweddoli mai'r cyfan yw agnosticiaid yw anffyddwyr sydd, am ba bynnag reswm, yn amharod i dderbyn a chofleidio'r label honno. Rwy'n bwriadu trafod hyn yn fanylach yn fuan. Digon yw dweud am y tro nad wyf yn credu ei bod yn or-uchelgeisiol ceisio denu agnosticiaid oddi ar y ffens. Nid oes angen newid eu meddyliau'n sylweddol, gan ein bod eisoes yn rhannu'r un farn i raddau helaeth: "nid oes tystiolaeth bod unrhyw dduw'n bodoli".

Mae yna garfan arall o bobl sydd gennyf mewn golwg hefyd. Mae'r rhain eisoes yn galw'u hunain yn anffyddwyr, ond maent yn amharod i feirniadu crefydd yn ormodol. Gall hyn fod oherwydd nerfusrwydd ynghylch ypsétio pobl neu am eu bod wedi llyncu rheol anysgrifenedig ein cymdeithas na ddylid dweud pethau angharedig am ffydd grefyddol. Mae crefydd yn cael ei roi ar bedestal arbennig, uwch ben pob safbwynt neu ideoleg arall sy'n fair game ar gyfer beirniadaeth. Rwy'n hapus i ail-adrodd y pwynt yma hyd syrffed os oes angen: mae angen dinistrio'r pedestal yma a'r swigen y mae crefydd yn byw ynddi. Un o amcanion y blog yw atgoffa'r anffyddwyr tawel hyn nad yw crefydd yn sanctaidd (ha!) a bod angen ei herio.

Os yw trafod crefydd yn ofer, yna gellir dilyn yr un rhesymeg i ddadlau bod trafod unrhyw beth yn ofer; mae pobl yn teimlo'n gryf am bob math o bethau. Nid yw ceidwadwr rhonc yn mynd i gael ei ddarbwyllo gan flog rhyddfrydwr, na vice versa; a yw hynny'n golygu nad oes pwrpas trafod gwleidyddiaeth? Fy holl bwynt yw mai dim ond un maes yw crefydd o blith nifer ym "mrwydr y syniadau", ac nid oes rheswm i'w drin yn wahanol.

Heblaw am hynny, rwy'n cyhoeddi'r blog yma am resymau personol: er mwyn ymarfer fy ysgrifennu, a theimlad bod diffyg trafod anffyddiaeth yn y Gymraeg. Wrth reswm, mae gennyf ddiddordeb mawr yn y pwnc ac rwy'n teimlo'n eithaf cryf amdano, felly mae hynny'n help. Nid wyf yn ddigon hy i ddisgwyl argyhoeddi unrhyw un. Ond mae'n werth rhoi cynnig arni.

9 comments:

  1. Mae'n bwnc pwysig, a gwerth ei drafod. Wrth gwrs, nid yw'r rhai sydd â theimladau cryf ar y mater yn debygol o newid eu meddwl, ond nid dyna'r pwynt o ddadlau am grefydd. Y pwynt yw y bydd pobl eraill ar y cyrion yn gwrando ac, efallai, dod lawr o'r ffens fel canlyniad.

    ReplyDelete
  2. Dwi'n anghytuno i ryw raddau. Beth am y rhai hynny - megis Barry uchod - a oedd yn arfer bod yn grefyddwyr pybyr, ond sydd bellach yn anffyddwyr? Ie, fel arfer maen nhw'n newid eu credoau ar eu pennau eu hunain yn hytrach na cael eu dylanwadu'n uniongyrchol gan ddadleuon eraill; neu, o leia, dyna be maen nhw'n meddwl sydd wedi digwydd. Ond tybiaf i, os nad yw rhywun hyd yn oed yn ymwybodol bod dadleuon yn erbyn bodolaeth Duw yn bodoli, sut maen nhw i fod i sylweddoli bod hynny'n wir? Dyna pam bod y mwyafrif helaeth o bobl drwy gydol hanes wedi bod yn grefyddol: doedden nhw ddim hyd yn oed yn sylweddoli bod yna bosibiliadau eraill ar gael. Crefydd 'by default' yw hynny, ac mi dybiaf i bod yna amryw o lefydd yn y byd lle mae hynny'n dal i fod yn status quo. Mae gweithredoedd rhai fel Dawkins, neu Dylan, yn bwysig, hyd yn oed os ydyn nhw'n "pregethu i'r troedig" y rhan fwyaf o'r amser.

    ReplyDelete
  3. Mae hynny'n ddigon gwir. Mae'r we'n gyffredinol wedi helpu llawer yn hynny o beth. Mae'n sicr wedi bod yn arwyddocaol yn America dros y degawd diwethaf, lle mae dyfodiad yr anffyddwyr "newydd", a gwefannau sy'n arddel anffyddiaeth, wedi galluogi pobl sydd ag amheuaeth am eu ffydd i drafod y peth gyda phobl eraill. Ers talwm, byddai'n bosibl iawn i berson sy'n byw mewn cymuned grefyddol iawn beidio bod yn ymwybodol - o gwbl - bod peidio credu hyd yn oed yn opsiwn. Byddai rhywun sy'n dioddef creisis ffydd yn dechrau credu ei fod yn wyrdroedig mewn rhyw ffordd. Bellach mae modd darllen am anffyddiaeth yn rhwydd ac mae'n llawer haws dod i'r sylweddoliad nad yw bod yn gaeth i ffydd yn angenrheidiol.

    Nid America mo Chymru, wrth reswm, ac mae'n wir o hyd nad yw un gwefan am wneud unrhyw wahaniaeth ar ei ben ei hun, ond fel un elfen bitw o'r ymdrech i ddenu sylw at anffyddiaeth rwy'n hapus iawn os wyf yn helpu'r achos, dim ots pa mor fychan fy nghyfraniad. Diolch!

    ReplyDelete
  4. Onid anifail gyda’r gallu meddyliol i chwilio am ystyr i’w fodolaeth ef a’r bydysawd y tu hwnt iddo yw dyn ? Heb ystyr ni fyddai gan yr anifail arbennig hwnnw natur ddynol . Onid yn yr hir broses o chwilio am ystyr i’w fodolaeth a’r bydysawd y daeth crefydd i fod er gwell neu er gwaeth ?

    Ymddengys i mi nad yw anffyddiaeth yn gallu ateb y cwestiwn beth yw ystyr dyn a’r bydysawd mewn ffordd foddhaol. Dydw i ddim mor rhyfygus â chredu mai diystyr yw fy mywyd i a bodau dynol eraill.

    Onid dyna pam yn y pen draw y mae pobl yn dadlau am grefydd ?

    Dafydd Jones o Lanrwst.

    ReplyDelete
  5. "Onid yn yr hir broses o chwilio am ystyr i’w fodolaeth a’r bydysawd y daeth crefydd i fod er gwell neu er gwaeth"

    Ie. Yn y gorffennol, pan roedd ein dealltwriaeth o fyd natur yn wan iawn, mae modd rhyw ddeall y temptasiwn i ddyfeisio chwedlau mewn ymgais i lenwi bylchau.

    Erbyn hyn, fodd bynnag, rydym wedi defnyddio'r dull gwyddonol i lenwi llawer iawn o'r bylchau yma gyda ffeithiau go iawn, ac mae bellach yn hysbys bod y chwedlau hynny'n gwrthddweud realiti.

    Er mwyn i grefyddau megis Cristnogaeth gynnig "ystyr" o bwys i ni, mae angen iddynt fod yn wir. Nid oes rheswm i gredu mai felly mae pethau.

    Beth bynnag, nid yw Cristnogaeth yn cynnig ystyr ddefnyddiol i unrhyw beth. Mae yna rywbeth eithaf rhyfedd am y dyhead yma i rhywun arall ddarparu'r ystyr ar gyfer eich bywyd.

    Nid wyf yn deall yr anhawster yma y mae llawer yn ei gael gydag anffyddiaeth, parthed ystyr. Onid yw'n ddigon dweud ein bod yn creu ein hystyr ein hunain? Beth sy'n bod ar "joio byw"? Mae hynny'n gwneud y tro'n hen ddigon da i mi.

    ReplyDelete
  6. Dafydd Llewelun Jones1/2/12 9:14 pm

    Ai dest er mwyn ' joio byw ', ys dywedi, yr wyt ti'n sgwennu'r blogiau sy'n ymddangos ar " Anffyddiaeth " ? Onid ymchwil am ystyr ydyw ar dy ran di ac, os dyna yw, onid ffurf ar grefydd i gymryd lle crefydd megis Cristnogaeth ydyw'r ymchwil hwnnw ?

    Er mai anghredadun rhonc ydwyf fi nid wyf yn milwrio dros fy safbwynt. Yn wir rwyf yn parchu hawliau pobl eraill i'w daliadau crefyddol waeth pa mor rhyfedd ydynt o'm safbwynt i.

    Yn y rhan fwyaf o achosion mae pobl wedi etifeddu'u daliadau oddi wrth eu rhieni ble bynnag mae'r rheiny'n byw. Yn gyffredinol os ydynt yn aelodau o boblogaeth gynhenid gwleydd Ewrop, Cristnogion ydynt ac os yn y Dwyrain Canol y ganed nhw, Mahometaniaid ydynt. Eithr nid yw'r plant hynny'n yn union fel eu rhieni.

    Gyda threiglad amser mae pethau'n newid. Mae'r hen ddaliadu'n ymgolli mewn rhai newydd.

    Yn gyffredinol, fe ddengys y dystiolaeth empiraidd fod gan gristnogaeth llai o ddylanwad ar bobl yn enwedig ym Mhrydain erbyn hyn.

    I mi rhyw fath ar gynffon esblygiadol yw crefydd. Credaf fod crefydd wedi bod yn ddefnyddiol ar un adeg yn hanes y ddynoliaeth. Mae dechrau a diwedd i bob peth gan gynnwys crefydd ei hun - does dim angen i ni roi unrhyw grefydd dan ein llach.

    Dafydd Jones o Lanrwst

    ReplyDelete
  7. "Ai dest er mwyn ' joio byw ', ys dywedi, yr wyt ti'n sgwennu'r blogiau sy'n ymddangos ar " Anffyddiaeth " ? Onid ymchwil am ystyr ydyw ar dy ran di ac, os dyna yw, onid ffurf ar grefydd i gymryd lle crefydd megis Cristnogaeth ydyw'r ymchwil hwnnw?"

    Felly mae unrhyw ymchwil i unrhyw bwnc yn weithred grefyddol?

    Os oes unrhyw "ystyr" fawr, wrthrychol, holl-bwysig, sy'n egluro popeth parthed ein lle yn y bydysawd (ac nid oes rheswm o gwbl i dybio bod rhaid i'r fath beth fodoli), yna mae'n sicr mai nid mewn hen lyfrau dogmatig y mae i'w chanfod.

    Rwy'n credu bod astudio sut mae'r bydysawd yn gweithio yn weithred werth chweil ynddi'i hun. Oherwydd hyn, rwyf o'r farn bod dyfeisio a bodloni ar chwedlau crefyddol yn gwastraffu amser ac adnoddau gellid eu hanelu ar y gwaith o gynyddu ein dealltwriaeth o'r byd go iawn, heb sôn am arwain miliynau o bobl ar gyfeiliorn yn llwyr. Nid safbwynt crefyddol mo hwn o gwbl; dyma'r antithesis o sut mae crefydd yn gweithio.

    "Er mai anghredadun rhonc ydwyf fi nid wyf yn milwrio dros fy safbwynt. Yn wir rwyf yn parchu hawliau pobl eraill i'w daliadau crefyddol waeth pa mor rhyfedd ydynt o'm safbwynt i."

    Rwyt wedi dweud dy hun nad wyt yn hapus ein bod yn caniatáu i fwslemiaid "ymgartrefu yn ein plith". Mae hynny'n gwrthddweud y paragraff uchod. Rwy'n fodlon iawn beirniadu unrhyw eithafwyr crefyddol sy'n ceisio gorfodi eraill i ddilyn rheolau eu ffydd, ond rhaid osgoi cyffredinoli a thrin pob crefydd fel un bloc unffurf. Mae'r rhan fwyaf o fwslemiaid ym Mhrydain yn hen ddigon cymhedrol. Wrth gwrs mae eu crefydd yn ddwl o hyd, ond ni ddylid eu gosod yn yr un garfan â'r rhai sy'n tarfu ar seminarau mewn prifysgolion ac sy'n bygwth lladd darlunwyr cartwnau ac ati.

    "I mi rhyw fath ar gynffon esblygiadol yw crefydd. Credaf fod crefydd wedi bod yn ddefnyddiol ar un adeg yn hanes y ddynoliaeth. Mae dechrau a diwedd i bob peth gan gynnwys crefydd ei hun - does dim angen i ni roi unrhyw grefydd dan ein llach."

    Rwy'n cytuno'n llwyr â'r frawddeg gyntaf, yn rhannol â'r ail, ond ddim o gwbl gyda'r olaf. Mae angen sbarduno tranc crefydd ac felly mae'n hanfodol ei rhoi dan ein llach.

    Fel mae'n digwydd, nid wyf yn credu y daw'r dydd pan fydd crefydd ac ofergoeledd wedi diflannu'n llwyr. Bydd o hyd rhai pobl sy'n rhy afresymegol. Nid yw hynny'n gwneud ein hachos yn un ofer, fodd bynnag.

    ReplyDelete
  8. Dafydd Jones o Lanrwst3/2/12 12:47 pm

    Ew, rwyt ti'n hoffi hollti blew, Dylan !!!

    ReplyDelete
  9. Wedi ymateb i'r ymateb i'r ymateb i'r ymateb... http://ifanmj.blogspot.com/2012/02/jiw-jiw.html

    ReplyDelete