10/01/2012

Safbwyntiau rhyfedd yr Hen Rech Flin am gyfunrywioldeb

Mae Alwyn ap Huw, yr Hen Rech Flin, wedi tynnu nyth cacwn am ei ben braidd ar ôl cyhoeddi ysgrif ryfeddol ar ei flog. Mae'n debyg ei fod o dan yr argraff mai'r cyfan yw cyfunrywioldeb yw tric cyfleus er mwyn gallu mwynhau llawer iawn o ryw heb orfod ysgwyddo'r baich o fagu llond lle o blant. Yn ei eiriau ef ei hun, "dymuno hwyl rywiol heb gyfrifoldeb yw cuddio tu nol i'r bathodyn hoyw!"

Mae ganddo record o ddefnyddio dadleuon digon od wrth drafod cyfunrywioldeb, yn mynd yn ôl rhai blynyddoedd i'r dyddiau pan oedd gwefan drafod Maes-E yn ei hanterth. Y cofnod diweddar yma o'm blog innau, a'r drafodaeth a gafwyd yn y sylwadau ar y gwaelod yn benodol, a ysbrydolodd ei lith y bore yma yn ôl pob tebyg.

Rwyf am anwybyddu, am y tro, y ffaith ei fod o'r farn fy mod yn anffyddiwr "milwriaethus". Mae'r cyhuddiad hwnnw'n un blinedig, ond rwyf am ei ateb mewn cofnod ar wahan yn ddiweddarach. Digon yw dweud ar hyn o bryd bod yr ymateb chwyrn sydd wedi bod ar y we Gymraeg heddiw i'w ysgrif yn dangos yn eglur nad dim ond anffyddwyr di-gyfaddawd neu ymgyrchwyr hoyw sy'n angytuno ag ef. Yn wir, mor anhygoel ei sylwadau mae Golwg 360 wedi penderfynu cyhoeddi adroddiad am y mater.

Ble mae dechrau felly?

Fel hyn y mae Alwyn yn agor y llith: "Rwy'n methu deall Gwleidyddiaeth Rhyw". Mae hynny'n berffaith amlwg, ac efallai dylai fod wedi gadael y peth yn y fan yna. Roedd yn eglur o'i sylwadau ar waelod y cofnod cynt hwnnw o'm heiddo ei fod yn cael trafferth gwirioneddol deall yr hyn yr oeddwn innau ac Ifan yn ceisio'i esbonio. Mae'n fater syml iawn, felly rwyf am roi cynnig arall arni.

Mae hoywon yn hoyw oherwydd eu dyheadau. Nid mater o ddewis yw dyheadau rhamantus: nid oes unrhyw un yn deffro rhyw fore a gwneud penderfyniad bwriadol i newid eu rhywioldeb. Os ydych yn canfod eich bod yn tueddu i gael teimladau rhywiol tuag at berson neu bobl o'r un rhyw â chi eich hunain, yna rydych yn hoyw. Wrth reswm, nid yw'n fater "unai/neu", fel mae deurywioldeb yn ei ddangos. Mae'n anodd dychmygu sut mae gwneud y pwynt yn gliriach na hyn. Daeth Alwyn ei hun yn agos at ddeall yn gynnar y bore yma, gan iddo ddweud hyn mewn sylw: "Hwyrach nad ydym yn dewis ein dyheadau, ond yr ydym yn ddewis sut i ymateb i'r dyheadau yna." Mae digon o wirionedd yn hynny, ond mae ail hanner y frawddeg yn amherthnasol. Y dyheadau sy'n gwneud rhywun yn gyfunrywiol neu'n heterorywiol. Fel yr esboniais ar y pryd, mae yna ddigon o hoywon sydd yn gwneud eu gorau i guddio'u rhywioldeb. Mae llawer, yn enwedig mewn gwledydd Islamaidd ac Affricanaidd ond hefyd mewn cymunedau rhagfarnllyd yn America, yn gwneud hynny oherwydd pwysau cymdeithasol neu bryder am erledigaeth. Mae rhai hyd yn oed yn gwneud eu gorau glas i ddewis peidio bod yn hoyw oherwydd daliadau "moesol" personol, er enghraifft y mudiad ex-gay. Nid yw hynny'n newid y ffaith eu bod yn hoyw.

Mae diffyg dealltwriaeth Alwyn yn hyn o beth yn ddigon cyfarwydd i'r sawl sydd â phrofiad o ddadlau'n erbyn pobl sy'n gwrthwynebu hawliau cyfartal i hoywon. Wedi'r agoriad hwnnw, fodd bynnag, mae ysgrif Alwyn yn troi'n swréal, ac mae'n siwr mai dyma pam y mae wedi ennyn ymateb mor syn. Dyfynnaf:
Pan oeddwn yn fyfyriwr roedd cyd gwancio dros luniau budron yn hwyl. Roedd arbrofi rhywiol efo hogiau eraill yn hwyl fawr hefyd. Yr wyf wedi hen ymwrthod a rhagfarnau crefyddol sy'n honni bod fy mhrofiadau rhywiol glaslancaidd yn diffinio fy rhywioldeb! Ond mae hynny'n frad i'r lobi wrywgydiol! Nid ydwyf yn edifar am y fath brofiadau, nid ydwyf yn gofyn maddeuant nid ydwyf am eu gwadu - yr oeddynt yn bleserau pur, yn hwyl fawr!
Rwy'n credu mai'r casgliad pennaf sy'n taro rhywun wrth ddarllen y paragraff yma yw ei fod yn edrych yn eithriadol o ryfedd yn eistedd uwch ben y datganiadau gwrth-gyfunrywiol amrwd sydd i ddilyn yn syth wedyn.

Mae yna rywbeth digon iach am y ffaith bod Alwyn yn gallu cyhoeddi'r uchod heb gywilydd nac edifarhad. Mae hefyd yn gywir i ddweud nad ydyw'n anochel bod y profiadau glaslancaidd hynny yn diffinio ei rywioldeb am byth. Mae llawer iawn o bobl yn arbrofi'n rhywiol pan yn ifanc, ac nid oes rhaid i hynny o reidrwydd fod ag arwyddocâd hir-dymor. Os nad oes gan Alwyn bellach yr awydd i ail-gydio (ho-ho) ac ail-fyw'r profiadau hynny, yna dyna ni. Os ydyw, yna mae'n hoyw i raddau ac nid oes cywilydd yn hynny o gwbl.

Dyma ddyfyniad arall:
Does dim profiad i'w gymharu â gweld plentyn yn cael ei eni, dim i gymharu â chlywed babi yn dweud y gair Dad am y to cyntaf, dim artaith sy'n brifo mwy na gollwng eich plentyn i'r byd mawr a phoeni na ddaw'n ôl, dim poen mwy na weld dy eilun yn laslanc, yn cyflawni'r un hen blydi camgymeriadau a chyflawnaist di yn ddeunaw oed (gan gynnwys yr ofn bod ei arbrofion am negyddu dy obeithion o fod yn Daid).
Unwaith eto, mae hyn yn ddigon gwir. Yr hyn sy'n gwbl anhygoel yw anallu Alwyn i amgyffred bod miloedd o bobl cyfunrywiol yn cytuno ag ef a'n profi'r un pethau'n union gyda'u plant hwythau. Byddai rhywun yn gobeithio nad oes angen egluro'r pwynt amlwg yma, ond mae'n anodd gwybod gyda'r Hen Rech felly rwyf am wneud beth bynnag: mae llawer iawn iawn o gyplau heterorywiol yn cael rhyw heb gael plant, ac mae llawer iawn o barau cyfunrywiol yn cael plant, boed trwy fabwysiadu neu gyda chymorth croth neu sberm person arall.

A yw'r Hen Rech o'r farn bod dulliau atal-genhedlu fel condoms a'r bilsen yn anfoesol felly? Beth am ryw rhwng cyplau anffrwythlon? Nid wyf eisiau rhagdybio gormod am oedran Mrs Rhech, ond rwyf am fentro dyfalu bod ei chroth wedi gweld dyddiau gwell bellach. Mae hynny'n amherthnasol parthed eu bywyd carwriaethol, wrth reswm, ond mae'r un peth yn union yn wir am fywydau carwriaethol pobl cyfunrywiol. Rhaid gofyn felly pa bwynt yn y byd y mae Alwyn yn ceisio'i wneud! Mae wir yn anodd dilyn trywydd ei feddwl.

Mae dweud mai osgoi cyfrifoldeb a wna pobl hoyw yn gwbl chwerthinllyd, wrth gwrs. Yn waeth na hynny, mae'n ensyniad rhyfeddol o annifyr a chreulon. Rwy'n gobeithio bod y Rhech yn sylweddoli pa mor boenus yw cyhuddiadau o'r fath, yn enwedig i hoywon sy'n ceisio ysgwyddo'r union gyfrifoldeb hwnnw trwy fagu plant er gwaethaf pob gwrthwynebiad gan eithafwyr crefyddol.

Mae Alwyn yn hoff o ddatgymalu'r gair "homoffobia" a gwneud hwyl am y syniad bod ganddo "ofn" hoywon yn yr un modd ag y mae gan berson aracnoffobig ofn corynod. Lol amherthnasol yw hynny, fodd bynnag, gan fod consensws ynghylch ystyr modern y gair: rhagfarn tuag at hoywon. Mae Alwyn yn mynnu nad yw'n meddu ar y nodwedd hwnnw, ond mae fel petai'n gwneud ei orau i wrth-brofi ei hun.

8 comments:

  1. Nid wyf eisiau rhagdybio gormod am oedran Mrs Rhech, ond rwyf am fentro dyfalu bod ei chroth wedi gweld dyddiau gwell bellach.


    Gwna'n siwr nag yw Mihangel Morgan yn twgyd y frawddeg honno a dechrau pennod off gida ddi! Gwych!!

    ReplyDelete
  2. Imi mae'n edrych fel ei fod yn euog o feddwl y dylai pawb rhannu'r un cefndir "heterorywiol ond arbrofol" ag ef. Camgymeriad enfawr yw hwnnw.

    ReplyDelete
  3. Diolch am gyfeirio at ein croesi cleddyfau ar Faes-E, mae'n hynod berthnasol gan dy fod yn gwneud yr union beth yma ag yr oeddet yn arfer gwneud yno, sef bod mor hurt ac hunan dybus ag i gredu bod pawb sydd yn anghytuno a thi yn anghytuno o ryw fath o "focs" bach o dy eiddo ti dy hun - byth yn dadlau yn erbyn sylw a wnaed - byth a hefyd yn dadlau yn erbyn yr hyn yr wyt yn tybied dylid fod barn y rhai sy'n anghytuno a thi.

    Er enghraifft "Mae diffyg dealltwriaeth Alwyn yn hyn o beth yn ddigon cyfarwydd i'r sawl sydd â phrofiad o ddadlau yn erbyn pobl sy'n gwrthwynebu hawliau cyfartal i hoywon. Pa bryd ac ym mha le yr wyf wedi dadlau bod dewisiadau rhywiol yn rheswm dros amharu ar hawliau cyfartal? .

    "yn eistedd uwch ben y datganiadau gwrth-gyfunrywiol amrwd sydd i ddilyn yn syth wedyn." Does dim sydd yn gwrthwynebu cyfun rhywioldeb yn yr erthygl, dim ond mynegiant o ddiffyg dealltwriaeth o paham bod y fath rhaniad rhwng pobl sydd a'r un galluoedd rhywiol yn bodoli

    "A yw'r Hen Rech o'r farn bod dulliau atal-genhedlu fel condoms a'r bilsen yn anfoesol felly? Beth am ryw rhwng cyplau anffrwythlon?" A ddywedais hynny?

    "Nid wyf eisiau rhagdybio gormod am oedran Mrs Rhech, ond rwyf am fentro dyfalu bod ei chroth wedi gweld dyddiau gwell bellach" Yr wyt yn anghywir Dylan - y mae'r wraig 'cw yn llawer iawn iau na fi! Pe bai hi'n dymuno mae hi'n ddigon ifanc i gael nythaid arall o blantos - fi sy'n gwrthwynebu cael chwaneg o blant bydd a thad yn ei hen benwynni, neu wedi marw cyn iddynt brifio. Nid bod hynny yn berthnasol i'r drafodaeth.

    Lle mae dy ddadl yn erbyn yr hyn a ddwedais yn hytrach na' dy ddadl yn erbyn yr hyn yr wyt yn tybio yw fy marn?

    ReplyDelete
  4. Meddai Barry ..
    Imi mae'n edrych fel ei fod yn euog o feddwl y dylai pawb rhannu'r un cefndir "heterorywiol ond arbrofol" ag ef. Camgymeriad enfawr yw hwnnw.

    Pe bawn i'n euog o'r fath drosedd byddwn yn cytuno ei fod yn gamgymeriad enfawr! Ond pa bryd ac ym mha le yr wyf wedi cyflawni'r fath drosedd?

    ReplyDelete
  5. "Pa bryd ac ym mha le yr wyf wedi dadlau bod dewisiadau rhywiol yn rheswm dros amharu ar hawliau cyfartal?"

    Darllena eto y frawddeg rwyt yn ei ddyfynnu. Nid wyf yn dweud dy fod yn dadlau hynny, o gwbl.

    "Does dim sydd yn gwrthwynebu cyfun rhywioldeb yn yr erthygl, dim ond mynegiant o ddiffyg dealltwriaeth o paham bod y fath rhaniad rhwng pobl sydd a'r un galluoedd rhywiol yn bodoli"

    Mae honni mai'r cyfan yw cyfunrywioldeb yw ffordd gyfleus o ddianc rhag cyfrifoldeb yn safbwynt a ellir yn deg ei alw'n un gwrth-gyfunrywiol. Nid wyt yma wedi dweud unrhyw beth am atal hawliau hoywon nac anffafrio yn eu herbyn, diolch byth, ond nid yw hynny'n gwneud y ddadl uchod yn llai rhyfedd ac anwybodus.

    Rwyt yn gofyn cwestiwn teg am y rhaniad, ond rwyt yn ei holi i'r bobl anghywir. Arddel cydraddoldeb i bawb ydym ni: eithafwyr rhagfarnllyd sy'n dymuno creu rhaniadau a gwneud carfan gyfan o bobl yn is-raddol.

    "A ddywedais hynny?"

    Na. Dyna pam rwy'n gofyn!

    "Yr wyt yn anghywir Dylan - y mae'r wraig 'cw yn llawer iawn iau na fi! Pe bai hi'n dymuno mae hi'n ddigon ifanc i gael nythaid arall o blantos - fi sy'n gwrthwynebu cael chwaneg o blant bydd a thad yn ei hen benwynni, neu wedi marw cyn iddynt brifio. Nid bod hynny yn berthnasol i'r drafodaeth."

    O'r gorau, ond nid yw hynny'n newid pethau a dweud y gwir. Rhaid holi eto beth yn union oeddet yn ceisio'i gyflawni gyda'r ddadl hon. I bawb arall mae'n ymddangos dy fod o'r farn ei bod yn berffaith iawn i ti gael rhyw er pleser ond bod hoywon sy'n gwneud yr un peth yn gwneud hynny'n unswydd er mwyn osgoi cyfrifoldeb. Rwy'n credu bod angen i ti esbonio dy hun yn well, oherwydd hyd y gwelaf i mae dy "resymeg" yn eithriadol o ddryslyd.

    ReplyDelete
  6. Anon #1 - dwi'n dal i werthin ar eich sylw!

    ReplyDelete
  7. Sori Dylan, er gwaethaf dy ymdrechion gorau rwy’n methu gweld be sydd mor "homoffobig" yn yr erthygl wreiddiol. Does dim sy'n dweud nad oes hawl gan dynion i gael rhyw gyda dynion eraill nac i ferched cael rhyw gyda merched eraill. Yn wir mae'r erthygl yn dweud nad ydwyf yn ddeall dadl "Cristionogion Selog" sy'n gwrthwynebu cyfun-rhywioldeb.

    Wedi cydnabod fy mod wedi mwynhau profiadau gwrywgydiol, yn gwbl ddiedifar, prin fy mod am daflu tân a brwmstan ar eraill sydd wedi profi'r un pleserau!

    Yr unig sylw yr wyf wedi gwneud sy'n torri'r uniongredaeth newydd parthed hoywdeb yw dweud bod gan bobl yr allu i ddewis sut y maent yn ymarfer eu rhywioldeb. Ond rwy'n methu yn fy myw deall pam bod dweud peth mor sylfaenol gywir yn cael ymateb mor wrthyn .

    ReplyDelete
  8. Rwy'n cydnabod yn yr erthygl nad ydwyt yn erbyn hawliau i bobl gyfunrywiol.

    Yr hyn a ddywedaist sy'n temptio rhywun i'th gyhuddo o "homoffobia", fodd bynnag, yw'r ddadl chwerthinllyd bod pobl gyfunrywiol yn hoyw oherwydd eu bod yn ceisio osgoi cyfrifoldeb. Hynny yw, eu bod yn ddiog a llwfr. Rwy'n siwr dy fod yn gwybod mai dyma asgwrn y gynnen, oherwydd dyma pam cafodd dy flogiad gymaint o sylw yn y lle cyntaf.

    Da iawn am gefnogi hawliau hoywon i gael perthynas â phobl o'r un rhyw â'u hunain. Ond mae'r ddadl uchod yn rhyfeddol ac, ydyw, gwrth-gyfunrywiol. Cei brotestio nad wyt am atal eu hawliau, ond mae'n rhaid i ti ddeall pam mae pobl yn ystyried yr haeriad yna mor wrthun a rhagfarnllyd.

    ReplyDelete