17/06/2012

Gwyddoniaeth yn y cyfryngau

Fe ddywedais yn ddiweddar bod ymdriniaeth darlledwyr a newyddiadurwyr print â gwyddoniaeth yn aml yn ddiffygiol iawn. Rwy'n credu bod gwyddoniaeth yn dioddef yn waeth yn hyn o beth nag unrhyw faes arall. Mae cyffrogarwch a'r dyhead i bortreadu datblygiad arbennig fel rhywbeth mwy arwyddocaol nag ydyw yn ffactor enfawr, wrth gwrs, ac mae'n anodd osgoi hynny gan fod newyddiadurwyr a chynhyrchwyr am i gymaint ddarllen a gwylio ag sy'n bosibl. Fodd bynnag, rwy'n credu bod lle i gredu bod anwybodaeth gwirioneddol - hynny yw, diffyg dealltwriaeth o'r dull gwyddonol - hefyd yn gyfrifol. Fel mae Ben Goldacre wedi'i ddweud yn aml, efallai bod gan hyn rywbeth i'w wneud â'r ffaith mai mewn pynciau dyniaethol y mae'r mwyafrif helaeth o newyddiadurwyr wedi graddio (ac ysgrifennaf y geiriau hyn fel rhywun a fethodd ei flwyddyn gyntaf yn astudio biocemeg, gan benderfynu roi'r gorau iddi ac astudio llyfrau Cymraeg yn lle). Gyda llaw, os nad ydych wedi darllen llyfr Goldacre, Bad Science: gwnewch.

Yn aml, amlygir hyn fwy na neb gan y Daily Mail, sy'n hoff iawn o gyhoeddi bod math penodol o fwyd neu ddiod yn gwella canser un wythnos ond yn ei achosi yr wythnos wedyn (weithiau, ac ni ellir ond edmygu'r fath ddiffyg-ymwybyddiaeth, byddent yn gwneud y ddau honiad o fewn dau ddiwrnod i'w gilydd). Y temptasiwn yw chwerthin am y peth, ond mae dryswch a gwrthddweud fel hyn yn niweidiol iawn i hygrededd gwyddoniaeth yn llygaid y cyhoedd, er mai hacks tabloid sydd ar fai yn hytrach na'r gwyddonwyr.

Efallai mai'r pwnc sy'n amlygu anwybodaeth newyddiadurwyr fwy na'r un arall yw esblygiad biolegol. Fe aned theori esblygiadol ganrif a hanner yn ôl, pan gyhoeddodd Charles Darwin ei gampwaith On The Origin Of Species. Darwin oedd y cyntaf i amlinellu sut, yn fras, y bu i bob rhywogaeth ar y ddaear esblygu o un gell hynafol dros filiynau o genedlaethau. Byth ers hynny, mae mynydd o dystiolaeth ychwanegol (gan gynnwys rhai meysydd cyfain nad oeddent yn bodoli yng nghyfnod Darwin, megis geneteg a bioleg moceliwlar) wedi'n galluogi i greu darlun llawnach byth o'r modd y digwyddodd hynny. Er hynny, efallai oherwydd bod yr holl beth yn mynd yn groes i ddaliadau crefyddol cymaint o bobl, prin iawn yw'r sawl sy'n deall hyd yn oed egwyddorion sylfaenol esblygiad (y peth amlycaf sy'n cysylltu pawb sy'n gwrthod derbyn esblygiad yw nad ydynt yn deall y syniad). Yn anffodus, mae'n debyg bod llawer o newyddiadurwyr yn cael trafferth hefyd.

Yn achos esblygiad, daw'r anwybodaeth yma i'r amlwg mewn sawl ffordd. Er enghraifft, pan ddarganfyddir ffosil newydd, yn enwedig un sy'n berthnasol i esblygiad diweddar ein rhywogaeth ein hunain, yn aml bydd yr adroddiadau yn y wasg yn dweud pethau i'r perwyl ein bod "o'r diwedd" wedi darganfod "y ddolen goll". Mae hyn yn peri sawl problem ddifrifol.

Yn gyntaf, lol yw'r syniad bod y fath beth â dolen goll benodol a fyddai'n datrys popeth pe dawn o hyd iddi (neu, yn waeth byth, yn "profi theori Darwin o'r diwedd"). Awgryma hynny nad yw esblygiad, neu ran arbennig o'r theori, wedi'i gadarnhau nes bod y ffosil yma wedi'i ddarganfod. Y gwir yw bod esblygiad yn ffaith hen ddigon cadarn yn barod, ac rydym yn deall y mecanweithiau'n dda iawn bellach hefyd. Llenwi'r manylion yw'r dasg bellach (ac mae llawer iawn o'r rheiny).

Mae'n hawdd dangos pa mor ddwl yw'r syniad bod palaeontolegwyr yn chwilio'n wyllt am ddolen goll benodol, fel petai'n rhyw fath o real sanctaidd sy'n cynnwys yr holl atebion. Os oes gennym eisoes ffosil A a ffosil C, beth sy'n digwydd os ydym yn darganfod ffosil B, "dolen goll" honedig sydd rywle yn y "canol"? Yr ateb yw bod gennym bellach ddwy ddolen goll! Beth sy'n cysylltu A a B, a B a C? Ym maes palaeontoleg, mae pob ateb yn codi mwy o gwestiynau manylach. Mae'r jig-sô di-ddiwedd yma wrth fodd y gwyddonwyr, wrth gwrs, gan fod ganddynt ddigon o waith ymchwil i'w cadw'n brysur. Go brin y daw'r dydd pan fydd gennym enghraifft o bob un math o anifail neu blanhigyn sydd wedi bodoli erioed.

Yr hyn sy'n gwneud y camargraff hwn mor ddifrifol yw bod eithafwyr crefyddol yn manteisio arno er mwyn ymosod ar theori esblygiadol yn ei chyfanrwydd. Mae natur y cofnod ffosil yn golygu bod y "dolenni coll" yn ddi-ddiwedd, ac maent yn gweld hynny fel arwydd o ddiffyg tystiolaeth o blaid yr holl syniad. Yn wir, oherwydd yr hyn a eglurais uchod, yn eu golwg hwy mae pob darn ychwanegol o dystiolaeth palaontolegol a ddarganfyddir yn tanseilio theori esblygiadol; gan fod gennym bellach ddwy "ddolen goll" yn hytrach nag un, rydym yn gwybod llai! Prin bod angen dweud pa mor hurt yw hyn, ond mae'n rhaid mai dyma sut mae meddwl yr eithafwr crefyddol yn gweithio.

Pan mae adroddiadau newyddion yn cyhoeddi dro ar ôl tro bod "y ddolen goll" wedi'i darganfod a bod hyn, eto fyth, yn "profi syniad Darwin o'r diwedd", mae hynny'n gwahodd yr eithafwyr crefyddol i nodi'r holl adegau blaenorol y mae'r un peth wedi cael ei honni ac i gyhuddo gwyddonwyr o or-bwysleisio arwyddocâd y dystiolaeth. Y peth rhwystredig yw bod mymryn o wirionedd yn hynny weithiau, oherwydd tuedd gynyddol yw bod gwyddonwyr eu hunain hefyd yn euog o or-gyffroi. Mae'n bosibl deall pam y maent yn cynhyrfu gymaint ar ôl darganfod ffosil, ac wrth gwrs mae datganiadau mawrion yn fwy tebygol o ddenu sylw gan y cyfryngau. Mae pawb yn mwynhau gweld ei enw mewn print, wedi'r cyfan. Ond er bod ffosil yn arwyddocaol i'r sawl sy'n arbenigo'n y math arbennig hwnnw o anifail, dylid gochel rhag mynd dros ben llestri a dweud mai'r darganfyddiad yma yw'r un sy'n datrys popeth.

Ambell waith bydd adroddiadau'n honni rhywbeth gwaeth byth eto, sef bod rhyw ddarganfyddiad neu'i gilydd mor annisgwyl a syfrdanol mae'n ein gorfodi i ail-ystyried popeth am esblygiad. Eto, beth a gawn fel arfer yw rhywbeth fel manylyn annisgwyl penodol am linach penodol o anifeiliaid, ond sy'n cysoni o hyd â mecanweithiau esblygiadol fel rydym yn eu deall. Yn anffodus, mae'r hyperbole yn rhoi'r argraff bod theori esblygiadol ei hun yn gorfod cael ei hail-ystyried o'r gwaelod i fyny.

Afraid dweud bod hynny'n fêl ar fysedd y sawl sy'n arddel creadaeth. Am y rheswm yma, rwyf wedi rhoi'r gorau i brynu'r New Scientist yn rheolaidd ers i'r cyhoeddiad hwnnw, o bawb, roi'r tri gair mawr twp "Darwin Was Wrong" ar glawr rhifyn Ionawr 24, 2009. Roedd yr erthygl ei hun yn trafod braslun Darwin o "goeden" bywyd a'n dweud bod llawer o'r manylion yn anghywir. Er bod y geiriau'n dechnegol gywir, dyma enghraifft o gyffrogarwch o'r math mwyaf anghyfrifol. Nid oes unrhyw un yn credu bod Darwin wedi cael popeth yn union gywir ym 1859. Wrth gwrs ei fod wedi bod allan ohoni gyda llawer o'r manylion. Nid newyddion mo'r ffaith bod theori esblygiadol wedi symud yn ei blaen yn aruthrol ers i Darwin feddwl am y syniad syml hwnnw sy'n greiddiol iddi. Nid yw'n syndod bod y clawr wedi bod wrth fodd creadyddion, ac fe'i rannwyd yn llawen ymhlith cristnogion eithafol Americanaidd. Roedd y rhain wedi'u hargyhoeddi bod esblygiad ei hun wedi cael ei wrth-brofi, a bod darwiniaeth ar fin dymchwel yn deilchion. Wrth reswm, go brin bod y creaduriaid hynny wedi mynd ati i brynu'r cylchgrawn a darllen yr erthygl ei hun. Roedd y difrod wedi'i wneud. Dyma'n union pam mae'n bwysig osgoi'r math hwn o or-ddweud gor-gynhyrfus. Mae'r ffaith mai'r New Scientist oedd wrthi'n ei wneud gymaint yn llai maddeuol, ac yn yr achos hwn nid oes modd beio graddau'n y dyniaethau am y peth chwaith.

Mae gan greadyddion lawer iawn mwy o ddadleuon dwl na hyn, wrth gwrs. Mae gormod o lawer i'w trafod yma. Am y tro, digon yw argymell y dudalen yma sy'n rhestru nifer anferth o'u dadleuon gwrth-esblygiadol, gydag ateb i bob un. Mae'r dystiolaeth i gefnogi esblygiad yn anhygoel; yn wir, o ran swmp tystiolaeth pur, go brin bod yna theori gadarnach yn yr holl wyddorau.

Fel y dywedais, mae'r ffaith bod cymaint o wrthwynebiad crefyddol i'r holl syniad yn golygu ei bod yn bwysicach cadw persbectif a bod yn gywir wrth drafod esblygiad nag yn achos bron unrhyw bwnc arall ym maes gwyddoniaeth. Yn aml, nid yw hynny'n digwydd, hyd yn oed mewn cyhoeddiadau arbenigol sy'n canolbwyntio ar wyddoniaeth. Mae hefyd yn bwysig yn achos maesydd eraill sy'n sensitif am resymau gwleidyddol, megis cynhesu byd-eang. Yn rhy aml, gyda phynciau fel hyn mae'r cyfryngau fel petaent yn credu mai eu rôl yw rhoi llwyfan i wahanol safbwyntiau mewn modd "gytbwys" a gwahodd y darllenwyr i gyrraedd eu casgliadau eu hunain: gelwir y ffenomen yma'n newyddiadura "dywedodd ef, dywedodd hi". Rwy'n credu eu bod yn twyllo'u hunain mai dyma sut mae bod yn ddi-duedd, ond mewn gwirionedd diogrwydd ydyw. Yn achos cynhesu byd-eang, nid oes dwy ochr gyfartal. Ar un ochr, mae consensws ymysg gwyddonwyr sy'n arbenigo yn y maes bod yr hinsawdd wedi cynhesu ar raddfa ddigynsail dros y ddwy ganrif ddiwethaf a bod lle i gredu y gall hynny gyflwyno sawl problem yn y dyfodol agos. Ar yr ochr arall, ceir casgliad o unigolion a chwmnïau masnachol sy'n gwadu'r realiti yma am resymau gwleidyddol ac ariannol. Ar adegau fel hyn, nid yw'r gwirionedd rywle yn y canol rhwng y dau begwn: mae un ochr yn berffaith gywir ac mae'r llall yn dweud celwydd noeth, a swyddogaeth y wasg i fod yw egluro hynny. Weithiau, dim ots pa mor amlwg, swnllyd a slic eu PR ydynt, mae'n rhaid derbyn bod un ochr o'r ddadl yn gwbl anghywir.

Rhaid derbyn bod gwyddoniaeth yn gallu bod yn anodd, yn enwedig pan mae angen mynd i fanylder. Eto i gyd, rwy'n teimlo bod newyddiadurwyr yn llwyddo i drafod pynciau fel economeg sydd yr un mor gymhleth. F'argraff i yw na fyddai golygyddion papurau newydd yn fodlon gyda chamgymeriadau sylfaenol yn eu newyddion economaidd, er enghraifft, er bod gwallau felly'n bur gyffredin yn eu straeon gwyddonol.

3 comments:

  1. Dw i'n tanysgrifio i New Scientist, a dw i'n cofio gwneud "facepalm" wrth weld y rhifyn hwnnw yn dod trwy'r blwch llythyr.

    Wrth gwrs "yr oedd Darwin yn anghywir". O ystyried fod o'n gweithio ganrif a hanner yn ôl, yn erbyn barn mwyafrif y cyhoedd yr adeg honno mai Duw wnaeth bopeth a heb wybod am eneteg, symudiadau'r platau tectoneg ayyb., mae'n rhyfedd gweld pa mor agos at y gwir yr oedd ei syniadau.
    Credaf y mae golygyddion NewSci a mwyafrif ei darllenwyr hefyd yn deall hynny.

    Ond dylen nhw fod wedi gwybod yn well nag argraffu pennawd pa mor gynhyrfus i greadaethwyr, sydd yn ddiarhebol am ddiffyg eu sgiliau darllen a deall!

    ReplyDelete
  2. Gyda llaw…

    O'n i'n gwrando ar Bethan Mair yn traddodi "Dweud Eich Dweud" ar Post Cyntaf y bore hwn. Mae fy sgiliau gwrando'n gwella o dipyn i beth, ond dydyn nhw'n berffaith o bell ffordd. :(

    Meddyliaf yr oedd hi'n honni bod Stephen Hawking wedi dweud "bod ein byd ni mor ryfeddol nes bod hi'n amhosibl ystyried nad oes Duw". Ond mae o ar y cofnod yn dweud bod dim rhaid cysyniad duw er mwyn esbonio'r byd naturiol, a os oes duw, dydy o ddim yn ymyrryd ynddo! Dim cefnogaeth gryf i'w barn hi!

    Ac oedd hi'n credu o ddifri bod ateb hogyn chwech oed i'r cwestiwn "Sut ydach chi'n gwybod bod Duw yn bodoli", sef oherwydd y pethau mae o'n eu gwneud (yn ôl y sôn), megis gwneud i'r planhigion dyfu, i bobl fod yn garedig i'w gilydd, ac i'r haul yn codi bob bore, yn rheswm da i oedolyn fel hi gredu bod ei duw yn bodoli? Beth??

    Bedyddwraig ydy hi. Ai dyna esiampl diwinyddiaeth soffistigedig Bedyddwyr, neu dystiolaeth addysg wael gwyddonol? (Cwestiwn rhethrhegol ydy hwnnw!)

    ReplyDelete
  3. Diolch am y sylwadau!

    Newydd wrando ar yr eitem Dweud Eich Dweud yna (mae'n dechrau wedi 55 munud, ac ar gael tan ddydd Mercher 27 Mehefin).

    Yn syml, mae'r hyn a ddywedodd Bethan Mair am Hawking yn gelwydd llwyr. Y gwrthwyneb llwyr yw ei wir safbwynt: nid oes angen cyflwyno'r syniad o dduw o gwbl er mwyn esbonio'r bydysawd.

    Roedd y lol ynghylch y plentyn yn druenus hefyd. Mae dweud bod "yr haul yn codi" yn dystiolaeth o blaid bodolaeth duw yn eithriadol o blentynnaidd. Digon teg mewn plentyn 6 oed, ond mae'n anfaddeuol pan mae oedolyn yn cytuno â'r math yna o resymu. Mae'n waeth byth pan mae'n cael defnyddio rhaglen radio fyw fel bocs sebon er mwyn ei rannu fel petai'n taro goleuni ar rhyw wirionedd mawr a dwys. Mewn difrif calon, dyma'r ddadl fwyaf blinedig un a ddefnyddir i gefnogi'r syniad o dduw. Nid yw'n unrhyw beth newydd o gwbl; mae'n flinedig a gwan.

    Mae'n ddirgelwch i mi pam mae Dweud Eich Dweud yn dal i fynd, a dweud y gwir (felly hefyd Thought For The Day yng nghanol rhaglen Today ar Radio 4).

    ReplyDelete