06/11/2012

Ar ôl i Romney golli, beth nesaf i'r Gweriniaethwyr?

Er gwaethaf llawer o'r penawdau sy'n awgrymu bod etholiad arlywyddol America yn rhy dynn i ni allu ei rhagweld yn hyderus, y gwir yw bod Barack Obama'n debygol iawn o gael ei ail-ethol heno. Mae'r penawdau'n iawn i'r graddau bod y bleidlais boblogaidd yn debygol o fod yn hynod agos, ond mae system etholiadol ryfedd y wlad yn golygu bod Obama bron yn sicr o ennill mwy o'r pleidleisiau etholiadol hynny sydd eu hangen.

Fel rwyf wedi'i ddweud, mae llawer o geidwadwyr yr Unol Daleithiau fel petaent wedi creu rhyw fath o realaeth amgen, gan fod llawer wir yn credu bod Romney am lwyddo'n gyfforddus. Canlyniad hyn fydd siom enfawr i filiynau lawer ohonynt dros nos.

Sut fydd y Blaid Weriniaethol yn ymateb, tybed? Mae lle i gredu bod y camarwain yma ynghylch cyflwr ymgyrch eu hymgeisydd yn fodd bwriadol o danseilio a chwestiynu gwir ganlyniad yr etholiad o flaen llaw.

Ers i Obama ddod i'r amlwg, mae yna garfan gwallgof ond swnllyd sydd wedi bod yn honni nad ydyw'n gymwys i fod yn arlywydd gan nad ydyw'n Americanwr 'go iawn'. Yn ôl y bobl od yma, ganed Obama yn Kenya (yr ateb cywir yw Honolulu, a Hawaii yw'r 50fed o daleithiau America). Yn yr un modd, mae'n frawychus cymaint o Americanwyr sy'n credu bod y dyn yn fwslem (nid am fod y posibilrwydd hwnnw mor ofnadwy ynddo'i hun, ond oherwydd ei bod mor hysbys ei fod yn gristion o gryn argyhoeddiad). Mae'n amlwg felly bod canran sylweddol o boblogaeth America'n amheus iawn o'r dyn du hwn gyda'i enw rhyfedd, a diben y camargraffiadau yma yw ei bortreadu fel yr 'Arall'. Trwy awgrymu bod buddugoliaeth Obama rywsut yn sioc, gall hynny fod yn ddigon i ddarbwyllo miliynau o geidwadwyr anwyboddus bod yr etholiad rhywsut wedi'i hennill trwy ddirgel dwyll (er mai'r gwrthwyneb sy'n wir: mae gan y Blaid Weriniaethol bolisi swyddogol o geisio rhwystro cymaint o Ddemocratiaid rhag pleidleisio ag sy'n bosibl).

Fy mhwynt yw bod cefnogwyr craidd y Gweriniaethwyr - y Tea Party bondigrybwyll - yn debygol o fynd yn fwy eithafol byth ar ôl heddiw, nid llai. Gallwn ddisgwyl llawer iawn mwy o conspiracy theories a militias hanner-pan yn Wyoming a De Carolina'n paratoi chwyldro arfog.

Mae'r Gweriniaethwyr yn ddibynnol iawn ar y dde gristnogol ffwndamentalaidd. Gallaf eich sicrhau bod aelodau amlwg o'r garfan honno am fynnu mai problem Romney oedd nad oedd wedi bod yn ddigon ceidwadol. Wedi'r cyfan, roedd Romney (cyn-lywodraethwr Massachusetts) yn fwy cymhedrol o lawer na'i brif wrthwynebwyr Gweriniaethol a gystadlodd ag ef am enwebiad y blaid yn gynharach yn y flwyddyn.

Mae hyn yn broblem enfawr i'w blaid. Mae'r Gweriniaethwyr wedi symud cryn dipyn i'r dde ers dyddiau Ronald Reagan yn yr 1980au. Ers 2008, fodd bynnag, ac oherwydd dylanwad y Tea Party, maent wedi gwasgu'u traed ar y sbardun o ddifrif. Y peth diddorol yw bod y boblogaeth yn gyffredinol, ar rai pynciau cymdeithasol megis priodasau cyfunrywiol o leiaf, wedi symud i'r cyfeiriad arall. Ar ddechrau'r 2000au, roedd yn amhosibl dychmygu unrhyw dalaith yn caniatáu i ddau berson o'r un rhyw briodi'i gilydd. Erbyn hyn, fodd bynnag, maent yn gyfreithlon mewn chwe thalaith. Yn fwy na hynny, mae tair talaith (Maine, Maryland a Washington) yn cynnal refferendwm ar eu cyfreithloni heddiw, ac mae'r arolygon yn ffafrio'r ochr gywir ym mhob un. Dyna fyddai'r tro cyntaf i etholwyr gyfreithloni priodasau cyfunrywiol yn uniongyrchol. Mae'r newid cymdeithasol, felly, wedi bod yn wirioneddol syfrdanol.

Fel rheol, pan mae symud cymdeithasol sylfaenol fel hyn ar y gweill, mae'r gwrthwynebwyr yn cynddeiriogi fwy fyth a'n gwneud mwy a mwy o sŵn. Dyma sydd i gyfrif am y ffaith bod y Blaid Weriniaethol a chymdeithas ehangach yn symud i gyfeiriadau gwahanol.  Nid gormodiaith yw dweud bod dyfodol y blaid ei hun yn y fantol. Cyn hyn, mae wedi llwyddo i blesio'r eithafwyr craidd ac ennill etholiadau cenedlaethol ar yr un pryd. Rwy'n credu bellach bod y dyddiau hynny'n prysur ddirwyn i ben. Rhywbryd yn ystod y degawd nesaf, mae rhywbeth ysgytwol am orfod digwydd. Ni fyddai'n ormod o syndod yn y pen draw pe holltir y blaid. Nid wyf yn credu y daw i hynny, ond mae'n mynd i fod yn broses boenus tu hwnt. Rwy'n edrych ymlaen i wylio hyn i gyd, a bydd rhaid archebu digon o bopcorn o flaen llaw.

Nid yw'r Democratiaid wedi meddianu'r Tŷ Gwyn am fwy nag wyth mlynedd yn olynol ers dyddiau Franklin D Roosevelt a Harry Truman. O gofio hefyd bod yr economi'n debygol o wella rhwng hyn a 2016 (nid o reidrwydd oherwydd unrhyw beth y mae Obama'n debygol o'i wneud, ond oherwydd bod y pethau yma'n tueddu i fynd i fyny a lawr yn naturiol), rwy'n dechrau teimlo bod Democrat arall am fod yn ffefryn wedi i Obama ymddeol. Yn wahanol i'm proffwydoliaeth am y canlyniad heno, fodd bynnag, mae'n amhosibl bod yn rhy hyderus am hynny!

7 comments:

  1. Fyddwn i ddim yn dweud i sicrwydd bod Obama am ennill eto. Hyd yn oed os ydi o'n 90% i ennill, mae yna 1/10 siawns yr eiff Romney a hi.

    Efallai dy fod ti'n gwneud yr un camgymeriad a'r boi na oedd yn dweud bod 48% yr un peth a 0%. :P

    Y broblem penna' i'r Gweriniaethwyr yw bod eu demograffig yn crebachu ar fyrder - dyw dynion hen, gwyn ddim yn y mwyafrif mwyach. Hyd yn oed os yw Romney yn ennill heddiw, mae'n bosib mai dyna eu 'hurrah' mawr olaf nhw.

    Mae'r blaid am symud yn ol tuag at y canol yn eithaf cyflym yn fy nhyb i, o fewn y pedair mlynedd nesaf hyd yn oed. Ar ddiwedd y dydd mae gallgofrwydd presennol y blaid yn seiliedig ar ei buddugoliaeth yn 2010 a llwyddiant criw y Tea Party bryd hynny. Yr eiliad mae adain dde eithafol y blaid yn dechrau colli etholiadau ni fydd yr arweinwyr etholedig honco yno bellach ac fe fydd yn newid yn reit gyflym. A bydd y gwellhad economaidd anochel a dechrau'r broses o dalu'r ddyled i lawr yn ara bach yn tynnu'r gwynt o;u hwyliau os dim arall.

    ReplyDelete
  2. Nid wyf yn unman wedi honni bod Obama'n sicr o ennill. Mae'r arolygon yn awgrymu ei fod yn debygol o wneud, a dyna'n union rwyf wedi'i ddweud uchod. Nid yw'n amhosibl i Romney ennill, ond mae'n annhebygol. Rhaid iddo ennill bron pob talaith agos; dim ond dyrnaid sydd angen i Obama'u cadw. O'r herwydd, mae'n deg edrych tua'r dyfodol.

    Rwy'n credu dy fod yn agos ati gyda'r dadansoddiad yna. Mae'n hwyl dychmygu am hollt fawr gyda'r ffwndamentalwyr yn ffurfio plaid eu hunain, fel yn achos plaid George Wallace yn y 1960au hwyr ((cyn-Ddemocrat oedd hwnnw, wrth gwrs, ond roedd y ddwy brif blaid yn greaduriaid gwahanol iawn cyn y chwyldro hawliau sifil). Ond rwy'n credu bod gormod yn y fantol i bawb iddi ddod i hynny. Eto i gyd, mae'n mynd i fod yn boenus iddynt (a'n hwyl i bawb arall).

    ReplyDelete
  3. Dw i'n gwybod, dim ond tynnu dy goes di oeddwn i. :P

    Er hynny, mae'r pennawd braidd yn 'Dewey Defeats Truman-aidd' i fi. Alla'i ddychmygu Romney yn ei ddal i fyny yn yr un modd:

    http://upload.wikimedia.org/wikipedia/en/2/28/Deweytruman12.jpg

    Fe allai 'hard core' y Tea Party adael y Gweriniaethwyr a ffurfio eu plaid eu hunain. (A dweud y gwir mae pleidiau o'r fath eisoes yn bosoli) Ond mae'r system ddwy blaid mor sefydlog yn yr Unol Daleithiau alla'i ddim dychmygu trydydd plaid yn cael unrhyw fath o lwyddiant. Bydd 99% o'r bobol ar y dde yn parhau i bleidleisio dros y blaid Weriniaethol, oherwydd mai gan y prif bleidiau mae'r arian mawr i'w wario ar eu hargyhoeddi nhw.

    Mae'n eitha arwyddocaol yn fy marn i bod y blaid weriniaethol, er eu bod nhw'n cael eu harwain gan y tea party ar hyn o bryd, wedi ethol dyn weddol gymhedrol fel Mitt Romney yn ymgeisydd. Ar ddiwedd y dydd mae'r busnesau sy'n ariannu'r etholiadau ma eisiau i'w hymgeisydd nhw ennill a wneith nhw'm goddef unrhyw beth sy'n peryglu hynny. Felly bydd yr arian mawr y tu ol i'r person sydd efo'r siawns teg o ennill bob tro, ac wrth i'r wlad symud 'i'r chwith' mae'r disgyrchiant ariannol yna'n mynd i arwain y Gweriniaethol yn ol i'r canol.

    ReplyDelete
  4. Mae'n arwyddocaol mai Romney gafodd yr enwebiad. Ond er mwyn iddo sicrhau hynny, gorfu iddo ruthro i'r dde fel gwallgofddyn mewn ras ryfeddol i ddweud pethau mwy eithafol na'i wrthwynebwyr, cyn brysio i'r canol drachefn mewn pryd i'r dadleuon cyhoeddus. Rwy'n darogan bod y pwysau i wneud hyn am fod yn waeth byth y tro nesaf. Wedi'r cyfan, mae'n bosibl iawn bod Romney wedi colli er ei fod yn gymharol gymhedrol. O'r herwydd, naratif y dde grefyddol fydd bod Romney wedi colli am iddo beidio bod yn ddigon digyfaddawd ei geidwadaeth. Rwyf bron yn sicr mai fel hynny fydd eu meddyliau'n gweithio.

    Mae pwysigion ac arianwyr y blaid yn barod iawn i gyffroi'r ffwndamentalwyr er mwyn eu hannog i fynd allan i bleidleisio, ond maent yn bryderus ynghylch eu dylanwad cynyddol (anffyddiwr yw Karl Rove, wedi'r cyfan). Fel rwy'n dweud, mae'n siwr mai mawrion y blaid aiff a hi yn y pen draw, ond bydd llawer iawn o boen a gwichian.

    ReplyDelete
  5. Da iawn Nate ond fe wnaeth o a'i graff sbwylio'r etholiad ychydig bach. Roedd fel trio mwynhau gem o Cluedo gan wybod pwy oedd y llofrudd cyn dechrau.

    ReplyDelete
  6. Y Tea Party wedi dechrau gwanhau yn barod: http://blogs.telegraph.co.uk/news/timstanley/100188297/is-the-tea-party-over-radical-social-conservatism-might-have-brought-it-to-an-end/

    So it begins!

    Dw i'n credu y bydd Clinton yn sefyll yn 2016. Gobaith mwyaf y GOP yw ymgeisydd o dras hispanaidd.

    ReplyDelete