23/10/2018

Beth wnaeth America i'w brodorion

Mae Bury My Heart At Wounded Knee yn un o'r llyfrau anoddaf i mi'i ddarllen erioed. Nid oherwydd nad yw'n dda, ond am fod y straeon di-ddiwedd am sefyllfa amhosibl yr amryw lwythau brodorol yn America yn y 19eg ganrif mor ddidrugaredd o dorcalonnus.

Am rai canrifoedd wedi dyfodiad yr Ewropeaid ar ddiwedd y 15eg ganrif, roedd agwedd y brodorion tuag at y mewnfudwyr yn rhyfeddol o groesawgar ar y cyfan. Ond wrth gwrs erbyn dechrau'r 19eg ganrif roedd y boblogaeth wyn wedi cynyddu'n sylweddol, gyda llawer iawn mwy i ddod. Yn y 1830au, gyda'r Indian Removal Act, mynnwyd yn syml y dylid gorfodi llwythau brodorol y dde-ddwyrain i symud i'r gorllewin o'r Mississippi. Dyma amser y Llwybr Dagrau.

Mae prif ffocws y llyfr ar y cyfnod o ddechrau'r 1860au hyd at 1890. Dyma pryd aeth llywodraeth America ati o ddifrif i ddefnyddio dulliau milwrol i gael gwared ar 'broblem' y brodorion. Erbyn hynny roedd y llif o bobl wyn i'r gorllewin yn ddi-baid, llawer ohonynt wedi'u denu gan y gobaith o ddarganfod aur. Roedd gwrthdaro'n anochel, wrth i'r gwynion fynd ati i fynnu mwy a  mwy o dir y brodorion, trwy dwyll a thrais. Cynigwyd iawndal tila dros ben i'r amryw lwythau brodorol, i'w cymell i adael eu tiroedd traddodiadol a symud i warchodfeydd dieirth ac anial. Er bod gwrthod yn golygu wynebu cyrch milwrol i'w gorfodi, dyna wnaeth y rhan fwyaf. Ac er ambell eithriad nodedig - brwydr Little Bighorn, er enghraifft - roedd canlyniadau'r cyrchoedd hynny'n anorfod a chreulon.

Nid cyd-ddigwyddiad yw'r ffaith bod hyn wedi digwydd wrth i'r Rhyfel Cartref ddod i ben; roedd angen rhywbeth newydd i gadw milwyr yr undeb yn brysur. Er eu bod newydd ymladd rhyfel i ryddfreinio pobl croenddu rhag system gaethwasiaeth y de, roedd yr un milwyr yn union yn hapus i ymgymryd â phrosiect glanhau ethnig.

Ac mae'n bwysig disgrifio'r hyn a ddigwyddodd yn yr union dermau hynny. Hil-laddiad yw'r hyn a wnaeth UDA er mwyn cyflawni ei 'thynged amlwg', ac nid hen hen hanes mohoni. Mae yna bobl yn fyw heddiw sy'n cofio pobl a fu fyw trwy'r cyfnod y mae'r llyfr yn ei ddisgrifio.

Trwy gyd-ddigwyddiad, rwyf newydd fod yn darllen casgliad o Selected Prose RS Thomas, sy'n cynnwys cyfieithiad Saesneg o adolygiad o Bury My Heart At Wounded Knee a gyhoeddodd y bardd yn wreiddiol yn Barn. Nid yw'r gwreiddiol gennyf wrth law, ond dyma ddarn o'r cyfieithiad:
On almost every occasion, it was the soldiers who fired the first shot, even though the Indians sent envoys of peace under a white flag to try to make peace. All this shows that the Americans had every intention of driving the Indians from their native lands. Some of the white men's actions can only be explained by stating that that they considered the Indians as less than human.
Bu sawl cyflafan. Yr hil-laddiad hwn oedd prif ysbrydoliaeth Hitler. Hyd heddiw, nid yw'r hyn a wnaed yn cael ei gydnabod yn ddigonol na'n cael ei ddisgrifio'n gywir. Mae darllen llyfr Dee Brown yn teimlo'n feichus ar brydiau, ond dyna'n union pam y dylid gwneud.

1 comment:

  1. Er bod amser maith wedi i mi ddarllen y llyfr hwnna, dwi'n cofio o hyd sut roeddwn i'n teimlo 'r adeg 'na. Dyna mewn gwirionedd _How the West was won_, sywaeth!

    ReplyDelete