12/01/2012

Nid yw rhyddid barn yn gysyniad anodd

Mae'n rhyfeddol i mi cynifer o bobl sy'n camddeall yr hyn y mae rhyddid mynegiant barn yn ei olygu. Yn benodol, rwy'n ei chael yn anodd peidio sgrechian pan fydd rhywun â'r argraff bod rhyddid barn yn golygu'r hawl i ddweud pethau heb gael ymateb beirniadol.

Mae hyn wedi mynd ar fy nerfau erioed, ond yr achos diweddar sydd wedi sbarduno'r cofnod blog yma yw'r drafodaeth hon ar waelod adroddiad am sylwadau diweddar Alwyn yr Hen Rech Flin.

Fel mae'n siwr mae darllenwyr y blog hwn yn gwybod, fe gafwyd ymateb digon chwyrn i'r hyn a ddywedodd Alwyn ddau ddiwrnod yn ôl. Hynny yw, fe ddefnyddiodd Alwyn ei hawl i fynegi ei farn, ac fe ddefnyddiodd bron iawn y cyfan o'r we Gymraeg yr un hawl yn union er mwyn anghytuno ag ef. Eto i gyd, y sylw cyntaf a wnaethpwyd ar waelod y stori oedd y canlynol: "Beth ddigwyddodd i ryddid barn?"

Y cwestiwn amlwg yw pwy ar wyneb y ddaear sy'n rhwystro unrhyw un rhag mynegi barn yn yr achos yma? Mae gan yr Hen Rech bob hawl i ddweud yr hyn a ddywedodd ac mae perffaith hawl ganddo i barhau i fynegi union yr un dadleuon, a mwy, eto ac eto. Yn yr un modd, mae gan bawb arall yr hawl i fynd yn groes; dyna holl hanfod rhyddid barn fel egwyddor. Mae'r camargraff bod anghytuno â rhywun gyfystyr â'u sensro yn anhygoel o dwp a phlentynaidd, ond mae hefyd yn rhyfeddol o gyffredin.

Rwyf wedi dweud o'r blaen fy mod o'r farn y dylai rhyddid barn fod fwy neu lai'n absoliwt. Dyma pam rwy'n credu mai gwelliant cyntaf cyfansoddiad America yw un o'r darnau mwyaf goleuedig o unrhyw ddogfen lywodraethol neu ddeddfwriaethol a ysgrifennwyd erioed. Rwy'n edmygu ymdriniaeth America â hawliau mynegiant barn yn fawr iawn, ac rwy'n cenfigennu nad oes gennym yr un peth ar ochr yma'r Iwerydd. Mae "rhyddid" barn ym Mhrydain yn llawer llai rhydd o gymharu (gweler er enghraifft ddeddfau niwlog a pheryglus sy'n cosbi "mynegi casineb", beth bynnag yw hynny, yn ogystal â'r gyfraith enllib chwerthinllyd), ac mae'r sefyllfa'n gwaethygu'n hytrach na gwella.

Rwyf o'r farn y dylai rhyddid barn warchod yr hawl i ddatgan, yn gyhoeddus, fwy neu lai popeth o dan haul, gan gynnwys sylwadau hiliol a gwrth-gyfunrywiol ac yn y blaen, er eu bod yn wrthun i mi. Wrth reswm, fe groesir llinell os gwneir bygythiad uniongyrchol yn erbyn person arall, a dylai unrhyw un sy'n euog o hynny gael eu cosbi. Mae angen cyfraith enllib o fath hefyd wrth gwrs, er bod dirfawr angen diwygio'r system Brydeinig bresenol. Fel arall, fodd bynnag, rwy'n credu bod rhoi'r gallu i'r llywodraeth benderfynu beth sy'n dderbyniol i'w ddweud yn gyhoeddus yn gynsail peryglus sy'n gofyn am drafferth.

Dyma yw rhyddid barn go iawn. Dylai fod gan bobl berffaith hawl i ddweud pethau gwallgof, a rhaid i bawb arall gael yr hawl i ateb yn ôl. Pan fyddaf yn clywed rhywun yn gwichian am "ryddid barn" bob tro y mae rhywun yn cael ei feirniadu am ddweud rhywbeth, rwy'n teimlo temptasiwn i sgrechian a'u saethu. Ond mae'r egwyddor yma mor bwysig i mi, yn lle hynny rwy'n bodloni ar ddefnyddio fy hawl fy hun i fynegi fy marn trwy eu galw'n dwp ar fy mlog. Onid yw'n system fendigedig?

11 comments:

  1. Dwn i'm be sydd yn fwy sarhaus! Fy nefnyddio fel enghraifft o esgus dros ryddid barn, ar ôl i ti milwrio yn erbyn fy hawl i mi mynegi barn na elli di ei ddirnad. Neu ddefnyddio fy marn fel enghraifft o farn hurt dylid ei oddef yn garedig fel cyfaddawd i ryddfrydiaeth neis!

    ReplyDelete
  2. Aaaargh! Anghofiwch fy mrawddeg olaf uchod: ble mae'r reiffl?

    Alwyn, rwyt newydd gyfiawnhau defnyddio dy achos di fel enghraifft. Hyd yn oed ar ôl darllen ysgrif lle rwy'n ceisio esbonio rhyddid barn mor glir ag sy'n bosibl, rwyt ti'n parhau i gamddeall. Unai rwyt ti'n cael trafferthion darllen neu rwyf innau'n cael trafferthion ysgrifennu.

    Pa bryd ar wyneb y ddaear wyf i erioed wedi "milwrio'n erbyn dy hawl i fynegi barn"? Mae'r cyhuddiad yna'n un mochedd. Rwyf wedi anghytuno â thi ar sawl achlysur, ond ni fyddwn byth byth bythoedd yn ceisio dy wahardd rhag dweud dy ddweud. Ar ôl hyn i gyd, wyt ti wir yn parhau i gredu bod beirniadaeth yr un peth â sensro?

    Rwy'n siwr dy fod yn gyfarwydd â'r dywediad hwnnw a briodolir yn aml i Voltaire: "rwy'n anghytuno â'r hyn rwyt yn ei ddweud, ond amddiffynaf hyd farw dy hawl i'w fynegi". Ni ddywedodd Voltaire y geiriau erioed yn ôl pob tebyg, ond mae'n grynhoad da o'i safbwynt ac mae'n un rwyf innau'n ei hoffi'n fawr. A yw hyn yn help i esbonio?

    Os wyt ti'n dweud eto ar ôl hyn fy mod yn sathru ar dy hawl i fynegi barn yna nid wyf yn siwr iawn beth yn fwy gallaf ei ddweud.

    ReplyDelete
  3. Ar nodyn hollol wahanol, mae'r stamp amser ar y sylwadau yma'n hollol anghywir: yn ôl fy sgrîn i fan hyn, gadawodd Alwyn ei sylw (8:44pm) cyn i mi hyd yn oed gynhyrchu'r cofnod (23:38pm)! Mae'r amser ar y sylwadau i weld wyth awr ar ei hôl hi. Rwyf wedi chwilio ond methu cywiro'r peth yn unman. Unrhyw un yn gallu cynnig goleuni?

    ReplyDelete
  4. A oes gwahaniaeth rhwng goddef barn a rhyddid barn?

    Mae bron iawn y cyfan o dy anghytundebau a fi yn drewi o'r rhagdybiaeth mae ti sy'n 100% gywir ond dy fod ti'n fodlon goddef fy nhwpdra ffôl, fel consesiwn i ryddfrydiaeth!

    ReplyDelete
  5. "A oes gwahaniaeth rhwng goddef barn a rhyddid barn?"

    Ddim yn deall y cwestiwn. Mae derbyn hawl pobl eraill i fynegi eu safbwyntiau yn amlwg yn rhan annatod o'r egwyddor o ryddid barn.

    "Mae bron iawn y cyfan o dy anghytundebau a fi yn drewi o'r rhagdybiaeth mae ti sy'n 100% gywir ond dy fod ti'n fodlon goddef fy nhwpdra ffôl, fel consesiwn i ryddfrydiaeth!"

    Mae gennyf farn am lawer o wahanol bynciau, rhai ohonynt lle rwy'n sicrach fy mod yn gywir nag eraill. Mae cydraddoldeb, a'r bygythiad y mae'r cysyniad hwnnw'n ei wynebu o du ffydd grefyddol llawer o bobl, yn rhywbeth rwy'n digwydd teimlo'n gryf iawn yn ei gylch ac, ydwyf, rwy'n gwbl hyderus fy mod yn gywir ar y mater. Nid yw hynny'n anghysoni ag unrhyw beth rwyf yn ei ddweud. Rwyt tithau hefyd yn eithaf sicr o gywirdeb dy safbwyntiau dy hun; o'r herwydd, rydym yn dadlau â'n gilydd a'n anghytuno. Dyna fel mae'r pethau yma i fod i ddigwydd.

    Pa "gonsesiwn"? Mae fy safbwynt parthed rhyddid barn yn berffaith ddi-gyfaddawd, fel rwy'n gobeithio fy mod wedi'i ddangos bellach. Mae gennyt berffaith hawl i fod yn anghywir ac mae'r syniad o dy rwystro rhag mynegi dy hun yn mynd yn groes i'r holl ffordd rwy'n gweld y byd. Os wyt ti'n dweud rhywbeth rwy'n ei ystyried yn od a chyfeiliornus, fel a ddigwyddodd wythnos diwethaf, yna byddaf yn anghytuno â thi heb flewyn ar dafod. Beth yw'r broblem?

    Dylai pawb "oddef" safbwyntiau nad ydynt yn cytuno â hwy, os mai ystyr "goddef" yw "canitáu". Nid gwneud cymwynas hunan-gyfiawn ffug-garedig mo hynny, eithr egwyddor hanfodol.

    Rwy'n dal i gael y teimlad nad wyt yn deall yn llawn. Rwy'n ceisio egluro cystal ag y gallaf!

    ReplyDelete
  6. Mater o agwedd ydyw Dylan. Rwyt ti fel rhiant sy'n fodlon goddef cred plentyn yn y dylwythen dannedd, neu Siôn Corn ac yn ymdrin â'r sicrwydd sydd gennyf yn Nuw yn yr un modd!

    Yr wyt yn ymateb i fy Nghristionogaeth yn yr un modd a byddit yn ymateb i fabi sy'n disgwyl presant o dan y goeden neu wobr o dan y glustog.

    Iawn, rhydd i ti dy farn, ond prin fod modd inni gael trafodaeth gytbwys oni bai dy fod yn fodlon derbyn pan ddywedaf " Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw " fy mod yn credu hynny yn fy mhen, yn fy nghalon yn fy ngwaed, yn fy mol, yn fy mherfeddion, hyd at fêr fy esgyrn a hyd at waelodion fy nhraed, mae nid rhyw ffolineb mohoni ond gwirionedd yr wyf yn ei harddel.

    Rwy'n derbyn dy fod ti, yn dy ddoethineb, wedi dewis ymwrthod a chrefydd ac yn ymateb iti gan barchu dy ddewis, ond mae bron y cyfan o dy sylwadau di yn cychwyn o'r cysyniad mae dim ond twpsyn byddai'n arddel cred grefyddol, a gan fy mod yn dwpsyn yr wyt yn edrych lawr dy drwyn arnaf ac yn diystyru unrhyw farn yr wyf yn ei fynegi cyn ei glywed!

    Dyna'r gwahaniaeth rhwng parchu a goddef safbwynt un arall!

    ReplyDelete
  7. Mae'r gymhariaeth rhwng crêd yn nuw a ffydd plentyn yn Sion Corn yn un dda.

    Rwy'n cydnabod a'n gwerthfawrogi dy fod yn credu'n gwbl ddi-dwyll a chydag arddeliad bod "dy Brynwr yn fyw". Nid yw hynny ynddo'i hun yn golygu bod angen i mi dynnu'n ôl, fodd bynnag. Rwy'n credu bod ffydd grefyddol yn gwbl ddi-sail, anghywir ac, mewn rhai achosion, yn niweidiol. Os yw hynny'n golygu fy mod i'n edrych i lawr fy nhrwyn ar y ffyddlon, mae hynny'n wir dim ond i'r un graddau ag yr wyt ti'n gwneud yr un peth i'r sawl sydd methu gweld gwirionedd bodolaeth dy dduw. Mae hyn yn anochel yn golygu ei bod yn mynd i fod yn anodd i ni ganfod tir cyffredin wrth drafod y stwff yma (ag eithrio pan rwy'n trafod islam!), ond dyna ni. Felly mae pethau.

    Nid ceisio dy argyhoeddi y mae'r blog yma; rwy'n gwybod bod dy ffydd yn bwysig i ti ac felly mae fy myfyrdodau pitw innau'n annhebygol iawn o newid dy feddwl. Fy nhargedau yw darllenwyr sydd heb ystyried y mater o ddifrif o'r blaen ac sy'n parhau ar y ffens.

    ReplyDelete
  8. Ow am ymateb salw Dylan.

    Hwyrach fy mod yn hen ffasiwn yn fy marn ond nid ydwyf yn dwpsyn!

    Rwy'n parchu dy farn ac yn dy drin efo parch pan fyddwyf yn anghytuno a dy farn, ond yr wyt ti yn dueddol o fod yn hynod nawddoglyd ac uchel-ael tuag at unrhyw un sydd ddim yn "gwybod" mae dy farn di yw'r unig un cywir.

    Ac efo pob parch, prin bydd y rhai ddaw oddi ar y ffens i dy gae di os wyt yn eu trin mewn modd nawddoglyd ac yn gwatwar y cae cyferbyn mewn modd mor obsesiynol!

    ReplyDelete
  9. Efallai bod dy frawddeg olaf yn wir. Ond efallai ddim: mae anffyddwyr wedi cadw'n gymharol dawel ac wedi "dangos parch" ers degawdau. I beth? Mae ffwndamentalaeth ar gynnydd ac mae ffydd grefyddol yn parhau i fwynhau bodoli mewn rhyw fath o swigen enfawr lle nad yw ei beirniadu'n dderbyniol.

    Mae dyfodiad yr "anffyddwyr newydd" yn y degawd diwethaf yn arwydd bod y di-ffydd wedi dadrithio â'r dacteg honno a bod angen rhoi'r gorau i gyfaddawdu a bod yn neis-neis. Mae angen herio craidd crefydd ei hun a dangos nad yw'r "parch" awtomgatig yma'n haeddiannol.

    Mae lle i ddadlau ynghylch pa ffordd yw'r mwyaf effeithiol o fynd o'i chwmpas hi, ac mae llawer yn gwneud. F'argraff i yw bod yr "anffyddiaeth newydd" i weld yn gweithio: mae'r garfan ddi-grefydd yn y boblogaeth - yn sicr yn America o leiaf - yn cynyddu'n aruthrol.

    Efallai wir bod ambell un yn troi i ffwrdd, ond rwy'n amau bod mwy, yn dawel bach, yn dod drosodd i'n corlan ni. Hyd yn oed pe na bai hynny'n wir, y pethau rwy'n eu dweud yma yw'r pethau rwy'n eu credu, felly rwyf am fynnu cael eu dweud doed a ddelo.

    ReplyDelete
  10. This comment has been removed by the author.

    ReplyDelete
  11. Alwyn ap Huw said...

    Tristwch yw gorfod cytuno a thi, rwy'n methu gweld unrhyw cymhariaeth rhwng ffwndemataliaeth adain dde yr UDA a Wesleaith na Chalfiniaeth fy mhlentyndod tlawd!

    Fe fu'r traddodiad Cristionogol Cymreig yn fwystfil llawer mwy radical nac un yr UD.

    Mae dylanwad Efengyliaeth Seisnig ac Americanaidd yn tueddu gwanychu dylanwad "da" crefydd dros ei phrofiad o'r Efengyl yn y Gymraeg Cymedrol

    3:42 AM GMT

    ReplyDelete