01/03/2012

Dyheadau theocrataidd cyngor Casnewydd

Mae'n debyg bod mwyafrif o gynghorwyr dinas Casnewydd yn dymuno cynnal gweddi ffurfiol a swyddogol fel rhan o gyfarfodydd y cyngor. Ni fydd fy marn ar y mater yn destun syndod wedi'r hyn rwyf wedi'i ddweud yn ddiweddar: mae'r dyhead i ddefnyddio grym y wladwriaeth er mwyn hyrwyddo ffydd grefyddol yn sinistr ac anfoesol.

Nid oes cymhelliad amgenach na gorfodi cydymffurfiaeth. Mae'r dyhead yma, a'r holl gwyno blin a geir pan fydd rhywun yn cwestiynu'r ddefod, yn rhyfeddol; os ydych yn dymuno gair gyda'ch cyfaill anweledig cyn gwneud penderfyniadau, nid oes unrhyw beth yn eich rhwystro rhag gwneud hynny fel unigolion heb darfu ar unrhyw beth na neb arall. Nid oes unrhyw un yn bwriadu atal yr hawl honno.

Nid gor-ddweud yw'r ddadl mai gorfodi crefydd ar eraill yw'r amcan, a'u hachosi i deimlo'n lletchwith ac anghyfforddus os nad ydynt yn barod i gyd-fynd â'r ddefod. Digwyddiadau fel hyn yw'r canlyniad anochel.

Fel mae'n digwydd, tebyg iawn yw fy marn parthed defodau llai crefyddol, megis yr arfer (mwy Americanaidd efallai) o gyd-adrodd llw o deyrngarwch. Mae hynny'r un mor dwp ac anfoesol.

3 comments:

  1. Dim ond marcio eu tiriogaeth y maent. Cyfwerth â chi sy'n pisio ar goeden.

    ReplyDelete
  2. Diddorol bod hyn wedi codi sawl gwaith yn diweddar. Fel mae erthygl y NSS yn dweud, mae "opening prayers" yn draddodiad mewn rhai cynghorau (ar bob lefel?) Yr unig beth sy wedi newid yw bod ambell i anffyddiwr wedi ffeindio'r ceilliau i herio'r status quo.

    ReplyDelete
  3. Yn hollol. O ddarllen y sylwadau fan hyn mae'n debyg bod yr arfer yn eithaf cyffredin ymysg cynghorau Cymru. Mae'r ffaith nad oeddwn hyd yn oed yn ymwybodol o hynny tan yn ddiweddar yn dweud cyfrolau am y graddau y mae'r peth wedi cael ei gymryd yn ganiataol, am wn i. Mae'n galonogol iawn os yw'r lol yma am gael ei herio o hyn ymlaen.

    ReplyDelete