24/01/2012

"Ond anffyddiwr oedd Stalin!"

Un o'r dadleuon mwyaf cyffredin a glywir yn erbyn anffyddiaeth yw mai dyna - yn ôl rhai - un o brif nodweddion cyfundrefnau totalitaraidd erchyllaf yr ugeinfed ganrif. Cyfeirir at Rwsia o dan arweinyddiaeth Ioseff Stalin a'i debyg, gweddill y bloc Sofietaidd adeg y Rhyfel Oer (a Nicolae Ceaușescu yn Romania yn enwedig), China a'r Cadeirydd Mao (rwy'n hoffi pa mor ddi-niwed mae hwnna'n swnio wedi'i gyfieithu), Pol Pot yng Nghambodia, a chyfundrefn wallgof Gogledd Corea. Anffyddwyr rhonc oedd yr unbeniaid gwirioneddol ofnadwy yna i gyd, mae'n debyg. Oherwydd hynny, mae llawer o bobl grefyddol yn haeru mai ail-adrodd yr hanes gwaedlyd yma fyddai canlyniad anochel dirywiad crefydd. Y ddadl yn fras yw bod cyflafanau fel y rhai a gyflawnwyd gan y dihirod uchod yn ran annatod o'r hyn sy'n dilyn o roi grym i'r sawl sy'n "anwybyddu" duw.

Mae angen ateb y cyhuddiad, oherwydd mae'n un sy'n codi'n ddigon aml.

Y peth cyntaf i'w nodi yw bod ambell Gristion weithiau'n gwthio'i lwc trwy geisio cynnwys Hitler a'r Natsïaid gyda'r uchod. Mae'n hawdd syrthio i drap o geisio cyhuddo eich gwrthwynebwyr o fod â rhywbeth yn gyffredin â'r Natsïaid. Ond dyn crefyddol oedd Hitler: tra mae llawer iawn o ddryswch am ei union safbwyntiau diwinyddol, un peth sy'n gwbl sicr amdano yw nad oedd yn unrhyw fath o anffyddiwr; yn wir, roedd yn casáu anffyddwyr ac mae Mein Kampf yn gyforiog o gyfeiriadau ffafriol at dduw. Er ei bod efallai'n ofer ceisio gwneud synnwyr manwl o'r hyn a oedd yn mynd trwy feddwl yr hen Adolf, rwy'n credu mai cymysgedd ryfedd o babyddiaeth a phaganiaeth Norsaidd fyddai'r disgrifiad byr tecaf o'i ffydd.

Dyna hynny allan o'r ffordd cyn dechrau'n iawn, felly.

Wrth gwrs, y pwynt pennaf wrth ymateb i'r cyhuddiad yw mai prif nodwedd y llywodraethau a restrwyd ar y dechrau yw eu comiwnyddiaeth dotalitaraidd. Nid yn enw anffyddiaeth yr oeddent yn gweithredu: y nod oedd dinistrio'r hen system economaidd a gwleidyddol a chreu un hollol newydd yn ei le, wedi'i seilio'n fras ar waith Karl Marx, a chyflawni hynny trwy drais os oedd rhaid (ac wrth gwrs, bu raid). Felly, cyn belled ag y chwaraeodd anffyddiaeth unrhyw ran yn y chwyldroadau a sefydlodd y llywodraethau hyn, ac yn y gormes a ddilynodd, nid er mwyn anffyddiaeth ei hun y digwyddodd hynny, eithr er dibenion eraill.

Dyma un arall o'r adegau hynny lle rwyf am ddefnyddio A History Of Western Philosophy Bertrand Russell fel ysbrydoliaeth ac fel cymorth i esbonio'n well. Yn rhyfedd, nid y bennod ar Marx rwyf am ei ddyfynnu, ond darn o bennod am ddiwinyddiaeth Sant Awstin a'i lyfr Dinas Duw. Pwynt Russell yma yw bod theori Marx am fateriolaeth hanesyddol yn rhyw fath o fersiwn seciwlar o'r eschatoleg Iddewig-Gristnogol yr oedd Awstin wedi'i amlinellu bron i fileniwm a hanner ynghynt (ond gyda geirfa gwahanol iawn, wrth gwrs):
The Jewish pattern of history, past and future, is such as to make a powerful appeal to the oppressed and unfortunate at all times. St. Augustine adapted this pattern to Christianity, Marx to Socialism. To understand Marx psychologically, one should use the following dictionary:

Yahweh = Dialectical Materialism
The Messiah = Marx
The Elect = The Proletariat
The Church = The Communist Party
The Second Coming = The Revolution
Hell = Punishment of the Capitalists
The Millennium = The Communist Commonwealth

The terms on the left give the emotional content of the terms on the right, and it is this emotional content, familiar to those who have had a Christian or a Jewish upbringing, that makes Marx's eschatology credible. A similar dictionary could be made for the Nazis, but their conceptions are more purely Old Testament and less Christian than those of Marx, and their Messiah is more analogous to the Maccabees than to Christ (338-339).
Mae'r geiriadur yn y dyfyniad yn egluro pam mae cymaint o waed wedi'i dollti yn yr ymdrech i droi'r byd yn gomiwnyddol. I radicaliaid marcsaidd - hynny yw, pobl sydd mor frwd eu comiwnyddiaeth maent yn fodlon defnyddio trais er mwyn cipio'r hawl i lywodraethu - mae eu hideoleg yn chwarae rhan debyg iawn i'r hyn y mae crefydd yn ei chwarae i lawer o ffwndamentalwyr crefyddol. Yr un strwythur deallusol sydd gan Farcsiaeth chwyldroadol a chrefydd eithafol yn hyn o beth. Yr unig wahaniaeth yw absenoldeb y goruwchnaturiol yn y cyntaf, ond nid yw hynny o bwys; yr un yw'r effaith ar y sawl sy'n danbaid o'i blaid.

Mae un gyfatebiaeth amlwg ar goll yn y dyfyniad, fodd bynnag, a'r beibl yw hwnnw. Wrth gwrs, mae gan eithafwyr comiwnyddol eu "beiblau" eu hunain: eu hysgrythurau yw llyfrau Marx, Lenin neu Mao, a dehongliad y llywodraeth o'r gweithiau hynny yw'r dogma y mae'n rhaid i bawb ei ddilyn. Gwae unrhyw un sy'n mynd yn groes. Prin bod angen dweud mai system o'r fath yw antithesis yr hyn a arddelir gan y rhan fwyaf o anffyddwyr modern, sy'n rhoi pwyslais anferth ar ryddid, a'r hawl i gwestiynu a herio yn enwedig.

Er mwyn cipio grym, ac atgyfnerthu eu gafael arno ar ôl llwyddo, roedd angen i'r comiwnyddion ddinistrio unrhyw sefydliadau annibynnol er mwyn sicrhau mai'r wladwriaeth oedd yr unig awdurdod. Dyma'r cyd-destun sydd angen ei gadw mewn cof wrth drafod y modd yr aeth Stalin a'i debyg ati mor greulon i ddifa sefydliadau crefyddol. Ni ddylid anghofio am eiliad bod Cristnogion a Mwslemiaid wedi dioddef erledigaeth gwirioneddol erchyll yn ystod y cyfnod hwnnw, wrth reswm, ond modd o ddileu pob awdurdod arall a sicrhau grym y wladwriaeth gomiwnyddol oedd hynny'n anad unrhyw beth arall. Means to an end oedd yr anffyddiaeth, ys dywed y Sais, nid yr end ei hun.

Mewn achosion fel hyn, felly, mae peth gwirionedd yn y ddadl bod y comiwnyddion yma wedi gosod eu hunain yn lle duw. Canlyniad arferol hynny yw bod unbenaethiaid totalitaraidd yn datblygu cwlt personoliaeth sydd, gyda digon o amser, yn troi'n fytholeg grefyddol. Mae hyn i'w weld orau, efallai, yng Ngogledd Corea, ac yn y ddau ddegawd diwethaf yn arbennig. Marwolaeth yw'r diwedd i'r rhan fwyaf o bobl, ond nid yn achos Kim Il-Sung, sylfaenydd y wlad a thad y diweddar Kim Jong-Il. Hyd yn oed ar ôl claddu'r Kim hynaf ym 1994, parhaodd yn bennaeth ar y wladwriaeth o hyd yn rhinwedd ei swydd newydd fel "arlywydd tragwyddol y weriniaeth". Daeth Kim Jong-Il yn arweinydd dydd-i-ddydd y llywodraeth, wrth gwrs, ac wedi hynny datblygwyd mytholeg hanes ef a'i dad i lefelau gwirioneddol ddwl. Mae llawer o fotiffau'r chwedloniaeth yma'n rhai cyffredin iawn ymysg crefyddau'r byd. Er enghraifft, mae propoganda'r llywodraeth yn honni bod enfys ddwbl a seren ddisglair wedi ymddangos yn y ffurfafen ar ddydd genedigaeth Kim Jong-Il ym 1942. Onid yw'r darn olaf yna'n gyfarwydd? Mae llawer o'r "hanesion" honedig am fywyd y diweddar Mr Kim yn enwog erbyn hyn, hefyd:
Official records reportedly show that Kim learned to walk at the age of three weeks, and was talking at eight weeks. While at Kim Il Sung University, he apparently wrote 1,500 books over a period of three years, along with six full operas. According to his official biography, all of his operas are "better than any in the history of music." Then there's his sporting prowess. In 1994, Pyongyang media reported that the first time Kim picked up a golf club, he shot a 38-under par round on North Korea's only golf course, including 11 holes-in-one. Reports say each of his 17 bodyguards verified the record-breaking feat. He then decided to retire from the sport forever.
Gweler yma am fwy. Mae'r lol yma'n ddoniol, ond dyma ddogma swyddogol y wladwriaeth ac mae'n debyg bod bron y cyfan o'r boblogaeth yn ei gymryd o ddifrif. Roedd Kim Jong-Il yn feseia gwirioneddol i filiynau o bobl. Dyna uchelgais pob unben totalitaraidd, wrth gwrs, ac rwy'n craffu ar enghraifft y Kimiaid yn benodol dim ond oherwydd bod yr achos yn un mor anhygoel. Mae'n hurt dweud bod llywodraeth y wlad honno'n un sy'n arddel anffyddiaeth; mae'n eithriadol o anodd dweud y gwahaniaeth rhwng Gogledd Corea a theocratiaeth megis Saudi Arabia. Mae'r un yn wir am unrhyw lywodraeth sy'n gwahardd unrhyw wyro oddi wrth ddogma swyddogol.

Unwaith eto, ni ddylid bod angen gwneud y pwynt mai dyma wrthwyneb llwyr yr hyn y mae anffyddwyr modern yn dymuno'i weld. Nid gorfodi anffyddiaeth nac unrhyw syniadaeth arall ar bawb yw'r nod. Yn hytrach, rydym yn hyrwyddo seciwlariaeth, sef yr egwyddor na ddylai'r wladwriaeth arddel unrhyw safbwynt diwinyddol o gwbl. Mae hynny'n sicrhau rhyddid crefyddol yn ogystal â rhyddid rhag crefydd. Nid oes gan anffyddwyr unrhyw ddyhead i ddilyn esiampl Rwsia Sofietaidd na China na Gogledd Corea. Yn wir, fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, y wlad ddelfrydol lle mae'r ymdriniaeth â chrefydd o dan sylw yw Unol Daleithiau America. Eironi hynny wrth gwrs yw bod tua hanner poblogaeth y wlad honno'n Gristnogion ffwndamentalaidd sy'n anghytuno ag egwyddor pwysicaf ac enwocaf y cyfansoddiad maent yn honni ei fawrygu. Beth bynnag, mae'n bwysig herio'r camargraff od yma bod gan Marx a'i debyg ran ganolog ym myd-olwg yr anffyddiwr a bod gan hanes ofnadwy comiwnyddiaeth yn yr ugeinfed ganrif unrhyw beth defnyddiol i'w ddweud wrthym am fyw heb dduw. Yn fy marn i, er mwyn deall pa ran y dylai crefydd ei chwarae yn ein bywyd cyhoeddus, y meddylwyr craffaf a phwysicaf y mae angen eu hastudio yw sylfaenwyr deallusol America megis Thomas Paine, Thomas Jefferson a James Madison.

10 comments:

  1. Yr hyn sydd yn ddiddorol am y sawl yr wyt yn eu crybwyll uchod yw'r modd y maent yn ddechrau trwy arddel Seciwlariaeth ac yna yn ei gyfnewid am "grefydd newydd", Kim y Meseia, Yr Eglwys Uniongred Comiwnyddol ac ati.

    Rwyt wedi mynegi yn aml dy gasineb tuag at derm yr wyf fi yn hoff iawn ohoni er mwyn disgrifio pobl megis yr Athro Dawkins sef Ffwndamentalwyr Seciwlar. Ond prin fod agwedd yr Athro Dawkins, ac yn aml dy agwedd di yn gwahaniaethu o ran sylfaen i'r crefyddwyr (a'r ôl seciwlyddwyr a nodi'r uchod) yr ydych yn eu beirniadu

    Prin fod yr Athro Dawkins yn ymarfer y cysyniad o Rydd i Bob un ei Farn ac i Bob Barn ei Llafar.
    Y mae o am erlyn a difreinio pawb sydd ddim yn cydsynio a'i anffyddiaeth ef - megis Pab Canoloesol yn y chwilys ac o ddarllen rhai o dy sylwadau di yma dros y bythefnos diwethaf prin bod dy agwedd di tuag at ryddid barn yn wahanol i'w rai ceidwadol a rhagddetholus ef.

    Ers tua chanol y 1970au mae gwlerdydd Prydain wedi dod yn llai a llai goddefol o fynnegiant barn, am resymau a ddechreuodd yn dda parthed hawliau merched, lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl ac ati sydd bellach wedi troi yn ormesol, ac wedi eu troi yn ormosol o dan ddylanwad wrth grefyddiaeth.

    Iawn! Nid ydwyt yn cytuno a fy marn am ddiwreideb rhywiol, hawl merched i fagu plant, lle mewnfudwyr yn ein cymuned, hawl riant i gosbi ei blant ac ati¸neu hwyrach dy fod yn cytuno 100%, pwy a ŵyr gan fod mynegi barn ar y fath bynciau yn anghyfreithiol o dan y drefn Biwritanaidd newydd yr wyt ti’n eri goleddu.

    ReplyDelete
  2. Rwy'n gwbl gegrwth. Ar ôl popeth!

    Yn y cyfamser, unrhyw sylwadau gan bobl sy'n gallu darllen?

    ReplyDelete
  3. Bobl y Bala ! Wn i ddim ai blog Dylan ap-Huw ynteu blog Alwyn Llŷr yw "Anffyddiaeth" gan mor aml y mae sylwadau Alwyn a Dylan yn ymddangos ar y wefan !! Gan hynny, er amrywiaeth, fe benderfynais ddweud fy nweud arni unwaith yn rhagor er gwell neu er gwaeth.

    Mae’n wir dweud fod llawer iawn o ddryswch ynghylch union safbwyntiau diwinyddol Adolf Hitler. Gwireb yw hynny. Ond, er hynny, y mae’n wir dweud fod syniadau Mahometanaidd wedi dylanwadu arno hefyd.

    Mudiadau wtopaidd totalitaraidd yn y bôn yw Cristnogaeth, Mahometaniaeth, Comiwnyddiaeth a Natsïaeth. Ail-greu dyn a sefydlu’r Gaersalem newydd yw bwriad y mudiadau hyn a’u tebyg. Ceisiant wneud pawb yr un ffunud o ran barn gyda’r bwriad o danseilio a dinistrio cymdeithas. Dyrchafant hawliau carfan ddethol ar draul rhyddid yr unigolyn a’i farn gan gyflawni hynny trwy drais os oes rhaid o’i safbwynt nhw.

    Yn achos Cristnogaeth, a gaf atgoffa’r darllenydd am ryfeloedd y Groes a Chwilys yr Eglwys Babyddol a’r Jihad hir dymor yn achos Mahometaniaeth ? A beth am gyrch Stalin yn erbyn y 'Kulaks', gwrthwynebwyr yr Aswy Law dan arweinyddiaeth Leon Trotsci a’r gwersylloedd rheiny a adweinir yn Saesneg fel y 'Gulags' heb sôn wersylloedd lladd y Natsïaid a sefydlwyd ganddynt i ladd Iddewon yn bennaf a oedd yn efelychiad o hil laddiad milwyr Mahometanaidd gwlad y Twrcod a Thyrcesau’n erbyn Cristnogion Armenia.

    Diawl drwg oedd Stalin yn y bôn ac, ys dywedais eisoes, y mae eisiau llwy go hir i fwyta gyda’r diafol. Gochelwch chwithwyr sy’n cefnogi eithafiaeth o bob math y nhw yw’r feirws sy’n lladd a dinistrio rhyddid barn a chymdeithas. Fe ddylwn wybod oblegid roeddwn yn un ohonynt ar un adeg !

    Ymbwyllwch chithau, Dylan ac Alwyn ! Byddwch yn fwy moesgar tuag at eich gilydd ar y wefan hon a gochela di, Dylan, rhag dweud pethau personol arni adegau !

    Dafydd Jones o Lanrwst.

    ReplyDelete
  4. Mewn ymateb i sylwadau a wnaethpwyd gan Alwyn ap Huw uchod, hoffwn ddweud mai eithafwr oedd Stalin yn y bôn doed a ddelo a oedd ef yn anffyddiwr ai peidio.

    Credaf dy fod yn gywir, Alwyn, pan ddywedi fod gwledydd Prydain yn llai goddefol o fynegiant barn yr unigolyn cyffredin ers tua chanol 70au’r ganrif ddiwethaf wedi i Amryfaliaeth ennill ei phlwyf o fewn gwleidyddiaeth ein gwlad wedi ni ymuno gyda’r Gymuned Ewropeaidd ond credaf dy dy fod yn anghywir pan ddywedi fod y gredo honno’n dda ar y dechrau parthed hawliau merched, cyfunrhywiaeth a lleiafrifoedd ethnig. Yn whanol i ti, credaf fod Amryfaliaeth yn ddrwg o’r cychwyn.

    Agenda dan gochl breintiau cyfartal yw Amryfaliaeth a’i phwrpas yw dinistrio cymdeithas gan wneud brodorion cynhenid gwledydd Ewrop yn lleiafrif ac yn westeion yn eu gwledydd eu hunain. Siarad dwbl yw Amryfaliaeth am y rhaglen honno i anffafrio’r dyn gwyn yn ei gymdeithas ei hun. Erledigaeth wleidyddol ydyw a’r dyn gwyn yw ei gwrthrych. Gwir bwrpas yr agenda yw twyllo dynion gwahanrywiol i ildio’u safle a’u grym o blaid merched a phobl o leiafrifoedd ethnig ac i danseilio a dinistrio teuluoedd, sef blociau adeiladu cymdeithas.

    Bolsieficiaeth fodern yw Amryfaliaeth gyda’i gwreiddiau’n ddwfn yn adolygiaeth Farcsaidd Ysgol Frankfurt.

    Nid yw Amryfaliaeth wedi ennill ei phlwyf eto yn Tseina, Israel, Siapan, India ac America Ladin ac nid oedd wedi ennill ei phlwyf yng ngwledydd Ewrop pan oeddwn yn blentyn ddegawdau lawer yn ôl bellach. Fel pob credo arall boed wleidyddol neu beidio, ffurf ar eithafiaeth yw Amryfaliaeth.

    Alwyn, credaf y dylet sefyll yn gadarn a diwyro o blaid yr unigolyn a’i ryddid barn gan roi credo aflesol Amryfaliaeth dan dy lach er lles pob unigolyn gan gynnwys pobl cyfunrhywiol, merched a phobl o bob liw a llun.

    Dafydd Jones o Lanrwst.

    ReplyDelete
  5. Beth yw dy ymateb i'r isod Dylan?

    http://www.guardian.co.uk/books/2012/jan/26/alain-de-botton-temple-atheism

    Testun blogiad yn sicr!

    ReplyDelete
  6. Nid ydwyf yn sicr o ystyr dy air Amryfaliaeth, Dafydd, ac yn sicr nid ydwyf mor hyddysg yn yr amryfal athrawiaethau comiwnyddol ac wyt ti.

    Fel hyn rwy'n gweld hi yn fy nhwpdra.

    Bu cyfnod lle'r oedd anghytundebau crefyddol yn ynysoedd Prydain yn arwain at orffwylltra; pobl yn cael eu llosgi, eu crogi, eu diberfeddu am fod yn Gatholigion mewn un cyfnod ac yna am fod yn Brotestaniaid mewn cyfnod arall hyd at syrffed - a arweiniodd at daw rhesymegol bron!

    Cafwyd cyfnod o rydd i bob un ei farn ag i bob barn ei llafar, am gyfnod byr rhwng 1945 a 1970. Ers y 1970au mae'r gymdeithas wedi mynd ar ei hol o ran rhyddid mynegiant barn, wedi mynd yn ôl at gyfnod o erlyn pobl am eu barn yn yr un modd a erlynwyd John Penri a St John Jones.

    Mae'n debyg bod fy sylwadau am wrywgydiaeth wedi eu hadrodd i Heddlu Gogledd Cymru fel trosedd o gasineb, yn yr un modd a byddai fy nghydnabyddiaeth o gael profiadau gwrywgydiol wedi eu hadrodd yn drosedd i'r awdurdodau namyn llai na 50 mlynedd yn ôl!

    Plus ça change, plus c'est la même chose, ys medd y Sais!

    ReplyDelete
  7. Os twpsyn wyt ti Alwyn, goddefa i mi ddweud mai aderyn o’r un lliw ydwyf finnau !

    Gan nad yw’r " Geiriadur Termau " ar fy astell lyfrau fe gyfieithais y gair Saesneg ' diversity ' i’r iaith Gymraeg fel ' Amryfaliaeth ' gan gychwyn y gair gyda’r briflythyren ' A ' i ddynodi’r ffaith fy mod yn cyfeirio at yr athrawiaeth ddinistriol honno. Efallai y byddai wedi bod yn well pe bawn wedi defnyddio’r ymadrodd ' amrywiaeth ddiwylliannol ' am yr athrawiaeth sydd mor wrthyn gennyf fi am y rhesymau a eglurais uchod.

    Ymddiheuraf yn daer am achosi dryswch i ti ac eraill o bosibl yn y mater arbennig hwn.

    Yn fy sylwadau uchod ceisiais egluro mai athrawiaeth ddinistriol o’r cychwyn yw’r athrawiaeth a nabodir gan y Sais fel ' diversity '.

    Dafydd Jones o Lanrwst

    ReplyDelete
  8. Ifan: fy marn yn gryno iawn yw bod Alain de Botton yn ddyn diflas iawn. Mae'n siarad lol. Fel rwyt yn ei ddweud, deunydd blogiad! Yn fuan...

    ReplyDelete
  9. Alwyn:

    Cafwyd cyfnod o rydd i bob un ei farn ag i bob barn ei llafar, am gyfnod byr rhwng 1945 a 1970. Ers y 1970au mae'r gymdeithas wedi mynd ar ei hol o ran rhyddid mynegiant barn, wedi mynd yn ôl at gyfnod o erlyn pobl am eu barn yn yr un modd a erlynwyd John Penri a St John Jones.

    Dyma obeithio bod y sylw yma am dy argyhoeddi o'r diwedd: rwy'n cytuno cant y cant. Rwyf wedi dweud ar y blog yma ac mewn sylwadau eraill bod Prydain wedi llithro'n ôl yn druenus lle mae rhyddid barn o dan sylw. Mae dirfawr angen diwygio'r gyfraith enllib yn un peth, ond mae angen herio'r lol "casineb" yma ar fyrder. Fel mae pethau'n mynd, rydym fwy neu lai'n caniatáu i radicaliaid crefyddol gael feto dros bethau: os yw rhywbeth yn eu hypsétio, y cyfan sydd angen iddynt ei wneud yw gwylltio'n swnllyd ac yna bydd pawb arall yn brysio i gondemnio pwy bynnag ddywedodd neu wnaeth y peth angharedig. Mae hynny'n warthus a phathetig.

    ReplyDelete
  10. Sori, roeddwn wedi bwriadu ymateb i hyn hefyd:

    Mae'n debyg bod fy sylwadau am wrywgydiaeth wedi eu hadrodd i Heddlu Gogledd Cymru fel trosedd o gasineb, yn yr un modd a byddai fy nghydnabyddiaeth o gael profiadau gwrywgydiol wedi eu hadrodd yn drosedd i'r awdurdodau namyn llai na 50 mlynedd yn ôl!

    Os yw hynny'n wir, mae angen chwilio pen pwy bynnag wnaeth gwyno.

    Er hyn i gyd, cofier bod modd i unrhyw dwpsyn "adrodd" unrhyw weithred i'r heddlu; nid yw hynny ynddo'i hun yn adlewyrchiad o gymdeithas sydd wedi troi cefn ar ryddid barn yn yr achos yma. Mae hefyd yn ddyletswydd ar yr heddlu i "ymchwilio" unrhyw gŵyn sy'n dod i law. Nid oes gennyt ormod o reswm i boeni yn fy marn i.

    Ond gallaf sicrhau un peth i ti: petaet yn digwydd cael dy erlyn gan system gyfreithiol Prydain am y farn a fynegaist ar dy flog, ni fyddai gennyt amddiffynnwr cadarnach na fi. O ddifrif.

    ReplyDelete