Cynhaliwyd Cynhadledd Ewropeaidd yr Anffyddwyr yn Nulyn y penwythnos yma. Bydd rhai pobl weithiau'n cellwair a gofyn beth yn union a drafodir yn y fath beth. "Does dim duw". "Na, cytuno". "Ok, paned?"
Wel. Dyma bwt bach o fideo o'r gynhadledd yn esbonio pam fod cynnal y fath bethau mor bwysig. Mae hefyd yn egluro pam bod cyhuddo anffyddwyr o fod yn drahaus mor ddiawledig o chwerthinllyd.
Joio. Swn i'n ystyried mynychu rhwybeth fel hyn rhyw dro a dweud y gwir.
06/06/2011
Theresa May, eithafwyr Islamaidd a phrifysgolion
Mae'r gweinidog cartref Prydeinig, Theresa May, yn y newyddion heddiw am honni nad ydi prifysgolion yn gwneud digon i atal radicaliaeth Islamaidd ymhlith eu myfyrwyr. Y cwestiwn sydd wedi bod ar fy meddwl i, ac sydd heb gael ei ateb o gwbl wrth i mi wylio'r newyddion ar y teledu a darllen ymhellach, ydi beth yn union mae hi'n disgwyl iddyn nhw wneud? Gwahardd grwpiau o bobl brown rhag cyfarfod?
Fel dw i wedi crybwyll eisoes, dw i'n edmygu diwygiad cyntaf cyfansoddiad Unol Daleithiau America'n fawr iawn. Mae hwnnw'n sicrhau bod rhyddid llafar yn America'n nesaf peth i absoliwt. Dw i'n cydnabod nad oes unrhyw beth o'r fath ym Mhrydain, yn anffodus. Pan mae May yn dweud rhywbeth fel (gan ddyfynnu aralleiriad yr erthygl) "She said speakers at student events who broke the law, for example by inciting racial hatred, should be stopped" mae'n wir bod cyfraith Prydain yn ei chefnogi i raddau. Ond, yn fy marn i ni ddylai dweud pethau hiliol, dim ots pa mor atgas, fod yn anghyfreithlon (yn enwedig gan fod "hiliaeth" bellach wedi troi mewn i rhyw air ymbárel sy'n gallu disgrifio pob math o sylwadau). Fel cyfansoddiad America, dw i'n credu dylai rhyddid llafar fod fwy neu lai yn absoliwt; mae rhoi'r hawl i'r wladwriaeth sensro barn rhywun yn beryglus iawn, yn enwedig pan fo'r cynsail mor niwlog. Mae caredigion yr iaith Gymraeg yn enwedig ymysg y sawl ddylai bryderu am y fath beth; cofier y cyhuddiadau twp o "HILIAETH!!" yn erbyn Seimon Glyn ddegawd yn ôl. Mae'r ddeddf ynglyn â "chasineb" crefyddol yn waeth byth a dylid ei diddymu ar unwaith.
Dywedodd y gweinidog hefyd:
Fel oeddwn yn dweud, beth yn union mae disgwyl i brifysgolion wneud? Plismona adeiladau'r campws a chyfarfodydd eu hamryw grwpiau a gwrando allan am unrhyw sylwadau annerbyniol? Mae'n gwbl wir bod llawer o eithafwyr Islamaidd wedi'u cyflwyno i'r athrawiaeth tra'n y brifysgol (mae The Islamist gan Ed Husain, cyn-eithafwr, yn ddarllen difyr), ond...wel, so what? Yr unig beth y gellir ei wneud i frwydro'n erbyn hynny mae gen i ofn ydi dangos pa mor wallgof ydi'r athrawiaeth a darbwyllo Islamiaid ifainc bod rhyddfrydaeth seciwlar yn rhagori. Y cwbl a gyflawnir wrth eu gwahardd ydi'u gyrru "o dan y ddaear" (a chyfieithu'n drwsgl o'r Saesneg) ac, os rhywbeth, gwneud yr holl beth gymaint â hynny'n fwy apelgar. Rebeliaid naturiol ydi stiwdants, wedi'r cyfan, os dim byd arall.
Er mwyn ategu pa mor gryf ydi fy marn am ryddid llafar a rhyddid barn, dw i ddim yn credu y dylai mynegi'r sylw hypothetig canlynol fod yn anghyfreithlon: "dylid troi Prydain yn wlad Islamaidd, a hynny trwy drais". Fe groesir y llinell pan gwneir bygythiad clir ac uniongyrchol yn erbyn person neu garfan penodol; dyna pryd y dylai'r wladwriaeth gamu i mewn, ac nid eiliad ynghynt.

"They need to be prepared to stand up and say that organisations that are extreme or support extremism or have extremist speakers should not be part of their grouping."Yng ngoleuni fy sylwadau uchod, dylai fy marn ar y geiriau yma fod yn amlwg. "Eithafol" yn ôl pwy? Yn fuan iawn mae gwaharddiadau o'r fath yn troi'n declyn defnyddiol er mwyn tawelu pobl rydych yn anghytuno â hwy. Dylai prifysgolion o bob man fod yn rhywle lle dylid annog rhoi llwyfan i farn nad ydych yn gyfforddus ag o.
Fel oeddwn yn dweud, beth yn union mae disgwyl i brifysgolion wneud? Plismona adeiladau'r campws a chyfarfodydd eu hamryw grwpiau a gwrando allan am unrhyw sylwadau annerbyniol? Mae'n gwbl wir bod llawer o eithafwyr Islamaidd wedi'u cyflwyno i'r athrawiaeth tra'n y brifysgol (mae The Islamist gan Ed Husain, cyn-eithafwr, yn ddarllen difyr), ond...wel, so what? Yr unig beth y gellir ei wneud i frwydro'n erbyn hynny mae gen i ofn ydi dangos pa mor wallgof ydi'r athrawiaeth a darbwyllo Islamiaid ifainc bod rhyddfrydaeth seciwlar yn rhagori. Y cwbl a gyflawnir wrth eu gwahardd ydi'u gyrru "o dan y ddaear" (a chyfieithu'n drwsgl o'r Saesneg) ac, os rhywbeth, gwneud yr holl beth gymaint â hynny'n fwy apelgar. Rebeliaid naturiol ydi stiwdants, wedi'r cyfan, os dim byd arall.
Er mwyn ategu pa mor gryf ydi fy marn am ryddid llafar a rhyddid barn, dw i ddim yn credu y dylai mynegi'r sylw hypothetig canlynol fod yn anghyfreithlon: "dylid troi Prydain yn wlad Islamaidd, a hynny trwy drais". Fe groesir y llinell pan gwneir bygythiad clir ac uniongyrchol yn erbyn person neu garfan penodol; dyna pryd y dylai'r wladwriaeth gamu i mewn, ac nid eiliad ynghynt.
04/06/2011
A ellir erlyn Harold Camping?
Mae hen ddyn 89 oed gwirion ond anghynnes wedi bod yn amlwg yn y newyddion yn ddiweddar. Dach chi'n gwybod pa un, yr un oedd yn mynnu y byddai'r byd yn darfod ar 21 Mai eleni. Neu i fod yn fanylach, mai dyna pryd fyddai Iesu Grist yn dychwelyd ac y bydd y Cristnogion ffyddlon yn esgyn i'r nefoedd gan adael ni'r inffideliaid i ddioddef pob math o erchyllterau am bum mis cyn i'r byd i gyd ddod i ben yn sywddogol ym mis Hydref. Yn amlwg, unai roedd proffwydoliaeth Harold Camping yn anghywir, neu nid oedd unrhyw un (gan gynnwys Camping ei hun) yn bodloni'r criteria angenrheidiol er mwyn mwynhau'r tragwyddoldeb dedwydd. Heblaw'r bobl yma, efallai.
Fel mae'n digwydd, roedd gweld cymaint o Gristnogion yn bychanu Harold Camping, neu'n ei feirniadu, yn gwneud i mi wenu. Wedi'r cyfan, mae pob Cristion gwerth ei halen yn credu bod ail ddyfodiad y meseia yn sicr o ddigwydd ar rhyw bwynt yn y dyfodol. Y cwbl wnaeth Camping oedd mentro cynnig dyddiad penodol. Mae'r dyn yn amlwg yn boncyrs, ond ddim mor bell â hynny y tu hwnt i brif ffrwd Cristnogaeth.
Ta waeth, dyma ymgais ddifyr i gyhuddo Camping o dwyll ariannol. Mae'r dyn wedi gwneud ei ffortiwn wrth bedlera'i nonsens ar hyd ei oes, ac fe gododd lawer iawn o arian yn y misoedd cyn dyddiad ei broffwydoliaeth. Yn wir, fe roddodd rhai o'i gefnogwyr eu harian i gyd iddo, ac fe adawdodd eraill eu swyddi. Mae'n debyg eu bod wir yn credu bod y byd ar fin darfod ac nad oedd pwynt iddynt gadw'u hasedau eu hunain. Felly beth am roi popeth i sefydliad Camping er mwyn ei helpu i ddenu sylw at y dyddiad mawr? O diar. Siwr gen i eu bod nhw'n teimlo ychydig yn ddwl erbyn hyn! Mewn difri calon, cafwyd llond llaw o achosion o hunan-laddiad yn sgil y nonsens yma. Mae'r byd yma'n le od.
Y cwestiwn ydi, a oes lle i erlyn Camping am y twyll anferth yma? Wedi'r cyfan, roedd gan Camping ei hun dros $100m mewn asedau. Pam ddim gwerthu'r cyfan er mwyn gwneud sblash go iawn i hyrwyddo'i achos? Yn hytrach, fe sicrhaodd bod ei ymerodraeth fusnes ei hun yn parhau'n gwbl gyfan, gan wario (a chadw) arian ei ddilynwyr truenus yn lle. Mae hynny'n awgrymu nad oedd yn credu proffwydoliaeth ei hun mewn gwirionedd.
Go brin fydd hyn yn llwyddiannus. Ond reit dda am drio.
Yn y cyfamser, mae Camping yn parhau i fynnu y bydd y byd yn darfod ym mis Hydref. Ac mae'n siwr bydd rhai pobl yn parhau i daflu doleri ato. A phan ddaw mis Tachwedd, mae'n siwr fe gawn ddyddiad gwahanol eto ganddo (cyn hyn, 1994 oedd y flwyddyn fawr). Un dihiryn arall o blith nifer sy'n gwneud ei ffortiwn ar gefn yr hygoelus.

31/05/2011
Mae byw heb dduw yn dda
(dw i'n credu fy mod newydd gyfansoddi fy nghynghanedd sain gyntaf efo'r teitl yna!)
Fel arfer, pan fydd anffyddwyr yn crybwyll diffyg bodolaeth duw, bydd Cristnogion yn ymateb trwy ddweud nad oes modd cael moesoldeb ystyrlon hebddo. Cafwyd sylwadau i'r perwyl hwnnw gan Rhys ar waelod y post yma. Roeddwn wedi sôn am y rheol euraidd, sef "dylech drin pobl eraill fel yr hoffech iddynt eich trin chi", fel brawddeg dda i seilio moeseg arno. Yn amlwg, yn fy marn i does dim angen duw o gwbl er mwyn gwneud y rheol yna'n un synhwyrol. Roedd Rhys yn anghytuno. Dyma ymateb pellach iddo felly, mewn post newydd ar wahân. Dywed Rhys:
Byddwn i'n anghytuno, wrth gwrs, bod y fersiwn Gristnogol yn "fwy na hynny". Mae'n "llai" na hynny, oherwydd mae'n derbyn rhywbeth yn ddi-gwestiwn a'n ddi-feddwl. Ond y peth ydi, mae Rhys yn gwneud cam â'i hun a'i gyd-Gristnogion. Er ei fod yn haeru mai gair duw ydi dechrau a diwedd sail ei foesoeg, ai dyna, mewn difri, ydi'r unig beth sy'n ei ddal yn ôl rhag cyflawni pob math o bechodau erchyll? Yr awgrym ydi y byddai, petai ei dduw yn diflannu yfory nesaf, yn mynd ati'n syth i dreisio a lladd a bwyta babanod. Dw i'n nabod Rhys, ac mi fedra' i gyhoeddi'n ddigon hyderus nad ydi hynny'n wir. Ni fyddai Rhys yn cyflawni'r pethau ofnadwy yna, a hynny am union yr un rhesymau nad ydw innau'n eu gwneud. Does gan dduw ddim byd i'w wneud â'r peth. Petai Rhys yn iawn, sef mai derbyn y peth yn ddi-gwestiwn fel gwirionedd absoliwt a-dyna-fo a wna, byddwn yn haeru fy mod yn berson llawer mwy moesol nag o. Ond gan ei fod yn gwneud cam â'i hun, dydi hynny ddim o reidrwydd yn wir (er fy mod i'n berson gwych a hollol neis).
Nid cyd-ddigwyddiad ydi'r ffaith bod moeseg Gristnogol yn newid gyda'r oes (er efallai ychydig ddegawdau ar ei hôl hi o gymharu â moeseg seciwlar). Does dim un Cristion - hyd yn oed y ffwndmanetalwyr sy'n honni eu bod yn dehongli'r Beibl i gyd yn gwbl llythrennol - yn dehongli'r Beibl i gyd yn gwbl llythrennol. Maent yn dewis a dethol pa adrannau i'w derbyn a pha rai i'w gwrthod (neu'n hytrach, i'w hanwybyddu). Fel rheol, mae'n anodd dweud y gwahaniaeth rhwng y rhesymau pam fod Cristion yn gwrthod rhyw adnod neu'i gilydd ar yr un llaw, a'r rhesymau pam fod anffyddwyr yn eu gwrthod ar y llall. Mae Cristnogion (99% ohonynt erbyn hyn a Rhys yn eu plith, dw i'n tybio) ac anffyddwyr yn gwrthod rhannau helaeth o Lefiticws (er enghraifft 19:19, y gwaharddiad ar wisgo dillad wedi'u gwneuthuro o fwy nag un gwahanol fath o frethyn) am union yr un rheswm, sef y canlynol: mae'n gwbl boncyrs. Nid yn unig y mae Rhys yn defnyddio sgiliau rhesymegu digon seciwlar i ddod i'r casgliad yma, mae'n mynd yn gwbl groes i orchymyn digon di-amwys gan ei dduw.
Mae yna stori annifyr iawn ar y gweill yn Louisiana ar hyn o bryd, lle mae bachgen ysgol o'r enw Damon Fowler wedi canfod ei hun yn elyn pennaf ei gyd-ddisgyblion, ei athrawon a'i gymuned am drio gorfodi'i ysgol i beidio cynnwys gweddi orfodol fel rhan o seremoni raddio. Mae cyfraith a chyfansoddiad America'n cytuno'n llwyr ag o ar y mater yma, ond mae'r hogyn druan wedi'i ysgymuno'n llwyr (fel petai) o'i gymuned yn sgil ei safiad dewr. Yn waeth na hynny:
Mae modd chwarae gemau fel hyn hyd syrffed gan ddyfynnu gwahanol rannau o'r Beibl, ac fel arfer mae gan Gristnogion deallus fel Rhys fodd o geisio esbonio'r peth i ffwrdd. Ond chwifio dwylo ydi hynny mewn gwirionedd. Wrth reswm, dw i'n tybio bod Rhys yn cytuno bod Mr a Mrs Fowler wedi byhafio'n fochedd, er iddynt hanner-ddilyn y Beibl (a "hanner" dim ond oherwydd iddynt beidio mynd ddigon pell). Mae Rhys yn dweud bod ein moeseg wedi'i datguddio i ni'n wrthrychol gan dduw. Ond pam fyddai'n datguddio un peth i galon Rhys (sef fersiwn neisiach a mwy rhyddfrydol, efo llawer o sôn am gariad a maddeuant a ballu) a rhywbeth arall i Moses (sef y stwff Hen Destament gwallgof uchod)? Byddai rhywun yn tybio bod gan dduw holl-alluog y gallu i fynegi'i hun yn eglur (dylai fod yn amhosibl camddeall duw, does bosibl?). Pan fo dwy garfan o Gristnogion, ill dwy'n anghytuno ar rhyw fater athrawiaethol ond ill dwy'n mynnu mai'u dehongliad hwy yw'r un gwrthrychol, absoliwt, mae cipolwg ar hanes yn awgrymu bod pethau ar fin troi'n waedlyd. Mae'r rheswm yma'n ddigonol (er bod llawer mwy) i ochel rhag sôn am unrhyw wrthrychedd wrth drafod moeseg dduwiol.

Diolch am esbonio dy safbwynt ymhellach. Amwni mae'r gwahaniaeth rhwng dy ddealltwriaeth di o "dylech drin pobl eraill fel yr hoffech iddynt eich trin chi" a dealltwriaeth y Cristion yw fod y foeseg yn rhywbeth goddrychol i ti, mae'n tarddu o dy galon/meddwl dy hun. I'r Cristion mae'n fwy na hynny gan ei fod yn cael ei ddatguddio i ni fel moeseg gwrthrychol gan Dduw.
Byddwn i'n anghytuno, wrth gwrs, bod y fersiwn Gristnogol yn "fwy na hynny". Mae'n "llai" na hynny, oherwydd mae'n derbyn rhywbeth yn ddi-gwestiwn a'n ddi-feddwl. Ond y peth ydi, mae Rhys yn gwneud cam â'i hun a'i gyd-Gristnogion. Er ei fod yn haeru mai gair duw ydi dechrau a diwedd sail ei foesoeg, ai dyna, mewn difri, ydi'r unig beth sy'n ei ddal yn ôl rhag cyflawni pob math o bechodau erchyll? Yr awgrym ydi y byddai, petai ei dduw yn diflannu yfory nesaf, yn mynd ati'n syth i dreisio a lladd a bwyta babanod. Dw i'n nabod Rhys, ac mi fedra' i gyhoeddi'n ddigon hyderus nad ydi hynny'n wir. Ni fyddai Rhys yn cyflawni'r pethau ofnadwy yna, a hynny am union yr un rhesymau nad ydw innau'n eu gwneud. Does gan dduw ddim byd i'w wneud â'r peth. Petai Rhys yn iawn, sef mai derbyn y peth yn ddi-gwestiwn fel gwirionedd absoliwt a-dyna-fo a wna, byddwn yn haeru fy mod yn berson llawer mwy moesol nag o. Ond gan ei fod yn gwneud cam â'i hun, dydi hynny ddim o reidrwydd yn wir (er fy mod i'n berson gwych a hollol neis).
Pam fod hynny yn bwysig i ni felly? Pam fod ni'n mynnu cael Duw yna fel 'middleman' rhyngom ni a moeseg fel rwyt ti'n herio?Y broblem gyda hyn ydi nad ydi moeseg Rhys yn wrthrychol o gwbl yn yr ystyr y mae'n ei ddefnyddio. Petai hynny'n wir, byddai barn pob un Cristion ar bob un mater yn cyfateb yn llwyr â'i gilydd. Yn amlwg, nid yw hynny'n wir. Mae Cristnogion yn dadlau ymysg ei gilydd am faterion moesol llawn cymaint â phawb arall. Yr unig wahaniaeth rhwng anffyddwyr a Christnogion yn hyn o beth ydi bod y cyntaf yn gwneud hynny trwy gyfrwng llyfrau a seminarau cwrtais, tra bod yr olaf yn fwy tebygol o fynd i ryfel. Pa iws ydi moeseg wrthrychol, absoliwt, yn deillio o dduw ei hun, os ydi'r holl beth yn rhy amwys i bob Cristion allu'i dehongli yn yr un ffordd?
Mae'r ateb yn weddol syml. Heb wrthrych i'n moeseg, constant os hoffe ti, mae ein moeseg yn oddrychol. Wrth i bawb 'edrych o'i mewn' am foeseg mae'n anorfod fod rhai pobl, gwaetha'r modd, a moeseg hyll yn ôl safonau Cristnogion a hiwministiaid goleuedig fel eu gilydd.
Enghraifft ethiafol yw ffasgiaeth, dydy'r ffasgwyr er enghraifft ddim yn credu mewn "dylech drin pobl eraill fel yr hoffech iddynt eich trin chi". Mae hynny'n realiti oherwydd fod nhw wedi darganfod (neu heb ddarganfod mwy na thebyg!) moeseg o'u mewn sydd ddim yn gyson gyda'r ddeddf foesol dwi'n credu sy'n dod gan Dduw ac rwyt ti'n credu sy'n dod o ............ (llenwer yma)?
Problem moeseg di-dduw, fel ag yr ydw i'n ei gweld hi, yw ei fod berthynol ac felly yn feddal.
Nid cyd-ddigwyddiad ydi'r ffaith bod moeseg Gristnogol yn newid gyda'r oes (er efallai ychydig ddegawdau ar ei hôl hi o gymharu â moeseg seciwlar). Does dim un Cristion - hyd yn oed y ffwndmanetalwyr sy'n honni eu bod yn dehongli'r Beibl i gyd yn gwbl llythrennol - yn dehongli'r Beibl i gyd yn gwbl llythrennol. Maent yn dewis a dethol pa adrannau i'w derbyn a pha rai i'w gwrthod (neu'n hytrach, i'w hanwybyddu). Fel rheol, mae'n anodd dweud y gwahaniaeth rhwng y rhesymau pam fod Cristion yn gwrthod rhyw adnod neu'i gilydd ar yr un llaw, a'r rhesymau pam fod anffyddwyr yn eu gwrthod ar y llall. Mae Cristnogion (99% ohonynt erbyn hyn a Rhys yn eu plith, dw i'n tybio) ac anffyddwyr yn gwrthod rhannau helaeth o Lefiticws (er enghraifft 19:19, y gwaharddiad ar wisgo dillad wedi'u gwneuthuro o fwy nag un gwahanol fath o frethyn) am union yr un rheswm, sef y canlynol: mae'n gwbl boncyrs. Nid yn unig y mae Rhys yn defnyddio sgiliau rhesymegu digon seciwlar i ddod i'r casgliad yma, mae'n mynd yn gwbl groes i orchymyn digon di-amwys gan ei dduw.
Mae yna stori annifyr iawn ar y gweill yn Louisiana ar hyn o bryd, lle mae bachgen ysgol o'r enw Damon Fowler wedi canfod ei hun yn elyn pennaf ei gyd-ddisgyblion, ei athrawon a'i gymuned am drio gorfodi'i ysgol i beidio cynnwys gweddi orfodol fel rhan o seremoni raddio. Mae cyfraith a chyfansoddiad America'n cytuno'n llwyr ag o ar y mater yma, ond mae'r hogyn druan wedi'i ysgymuno'n llwyr (fel petai) o'i gymuned yn sgil ei safiad dewr. Yn waeth na hynny:
1) Fowler has been hounded, pilloried, and ostracized by his community.Mae'r stori'n gwbl erchyll, ond dw i wedi pwysleisio rhan a ddylai godi braw gwirioneddol. Y peth yw, gadewch i mi ddyfynnu Deuteronomium 18:21:
2) One of Fowler's teachers has publicly demeaned him.
3) Fowler has been physically threatened. Students have threatened to "jump him" at graduation practice, and he has received multiple threats of bodily harm, and even death threats.
4) Fowler's parents have cut off his financial support, kicked him out of the house, and thrown his belongings onto the front porch.
Oh, and by the way? They went ahead and had the graduation prayer anyway.
18 Ond o bydd i ŵr fab cyndyn ac anufudd, heb wrando ar lais ei dad, neu ar lais ei fam; a phan geryddant ef, ni wrendy arnynt: 19 Yna ei dad a’i fam a ymaflant ynddo, ac a’i dygant at henuriaid ei ddinas, ac i borth ei drigfan; 20 A dywedant wrth henuriaid ei ddinas ef, Ein mab hwn sydd gyndyn ac anufudd, heb wrando ar ein llais; glwth a meddwyn yw efe. 21 Yna holl ddynion ei ddinas a’i llabyddiant ef â meini, fel y byddo farwMae'r Beibl yn ddigon eglur a di-amwys ar y mater yma, fel y gwelwch. Yr unig beth a ddylai ddychryn Cristion wrth ddarllen yr uchod, felly, ydi'r ffaith bod Damon Fowler yn parhau'n fyw ac iach, a HEB gael ei ladd efo cerrig. Ddim eto, o leiaf.
Mae modd chwarae gemau fel hyn hyd syrffed gan ddyfynnu gwahanol rannau o'r Beibl, ac fel arfer mae gan Gristnogion deallus fel Rhys fodd o geisio esbonio'r peth i ffwrdd. Ond chwifio dwylo ydi hynny mewn gwirionedd. Wrth reswm, dw i'n tybio bod Rhys yn cytuno bod Mr a Mrs Fowler wedi byhafio'n fochedd, er iddynt hanner-ddilyn y Beibl (a "hanner" dim ond oherwydd iddynt beidio mynd ddigon pell). Mae Rhys yn dweud bod ein moeseg wedi'i datguddio i ni'n wrthrychol gan dduw. Ond pam fyddai'n datguddio un peth i galon Rhys (sef fersiwn neisiach a mwy rhyddfrydol, efo llawer o sôn am gariad a maddeuant a ballu) a rhywbeth arall i Moses (sef y stwff Hen Destament gwallgof uchod)? Byddai rhywun yn tybio bod gan dduw holl-alluog y gallu i fynegi'i hun yn eglur (dylai fod yn amhosibl camddeall duw, does bosibl?). Pan fo dwy garfan o Gristnogion, ill dwy'n anghytuno ar rhyw fater athrawiaethol ond ill dwy'n mynnu mai'u dehongliad hwy yw'r un gwrthrychol, absoliwt, mae cipolwg ar hanes yn awgrymu bod pethau ar fin troi'n waedlyd. Mae'r rheswm yma'n ddigonol (er bod llawer mwy) i ochel rhag sôn am unrhyw wrthrychedd wrth drafod moeseg dduwiol.
19/05/2011
Wythnos o wyliau
Dw i'n credu dylwn ddweud o flaen llaw bod y blog am fod yn dawel tan ddiwedd wythnos nesaf gan fy mod yn mynd ar wyliau i Ardal y Llynnoedd. Rhag ofn i unrhyw un feddwl bod y peth 'ma wedi marw'n barod!

Bydd gen i ddigon i'w ddweud pan fyddaf yn ôl. Fel ymateb i Rhys. Tan hynny, os oes gennych awr a chwarter i'w sbario, dyma ddau anffyddiwr swnllyd (ond cwrtais iawn) yn trafod moesoldeb heb dduw. Difyr a pherthnasol:
Neu os ydi hynny'n gofyn gormod, dyma fideo o sloth yn trio croesi'r ffordd yn lle:
Hwyl am y tro!

17/05/2011
Stephen Hawking yn dweud rhywbeth doeth, Cristion yn dweud rhywbeth dwl
(Rhyfeddol, dw i'n gwybod)
Mae yna erthygl arall wedi'm gwylltio. Neu'n hytrach, peri i mi ochneidio'n uchel.
Dywedodd yr Athro Stephen Hawking y canlynol mewn cyfweliad efo'r Guardian:
Mae rhywun o'r enw Michael Wenham, fodd bynnag, yn anghytuno efo'r ffisegydd enwocaf ar y ddaear. Mae'n gwneud hyn ar sail llond llaw o ddadleuon amheus. Yn y frawddeg gyntaf mae'n datgan bod ganddo'r un afiechyd ag sydd gan Hawking. Ymddengys i mi mai dyma'r unig reswm pam ei fod wedi cael cyfrannu erthygl yn ymateb i'r gwyddonydd; yn sicr dw i'n ei chael yn anodd derbyn mai ei sgiliau rhesymu miniog ydi'r cyfiawnhad. Dyma enghraifft:
Nid yw Wenham yn trafferthu disgrifio'r dystiolaeth wych yma o gwbl, dim ond dweud pa mor anhygoel a chadarn ydyw. Grêt. Maddeuwch i mi am beidio rhuthro i Amazon.com ac archebu copi o lyfr yr efengylydd Norman Anderson. Maddeuwch i mi hefyd am chwerthin. Mae'r paragraff yna uchod mor druenus a phathetig dw i bellach yn hanner-difaru rhoi cymaint o sylw i'r dyn trwy ymateb. Ond gan fy mod wedi dod mor bell â hyn, waeth i mi bostio hwn ddim.

I regard the brain as a computer which will stop working when its components fail. There is no heaven or afterlife for broken down computers; that is a fairy story for people afraid of the dark.Dw i'n ystyried y sylw yna'n un digon amlwg a chywir. Fel dw i wedi'i ddweud eisoes, dw i wir methu deall pam fod pobl yn cael cymaint o anhawster dirnad marwolaeth, neu'n hytrach "bod wedi marw". Mae'n hollol amlwg nad oes gronyn o dystiolaeth i gefnogi unrhyw fath o fywyd tragwyddol, heb sôn am y fersiwn Gristnogol.
Mae rhywun o'r enw Michael Wenham, fodd bynnag, yn anghytuno efo'r ffisegydd enwocaf ar y ddaear. Mae'n gwneud hyn ar sail llond llaw o ddadleuon amheus. Yn y frawddeg gyntaf mae'n datgan bod ganddo'r un afiechyd ag sydd gan Hawking. Ymddengys i mi mai dyma'r unig reswm pam ei fod wedi cael cyfrannu erthygl yn ymateb i'r gwyddonydd; yn sicr dw i'n ei chael yn anodd derbyn mai ei sgiliau rhesymu miniog ydi'r cyfiawnhad. Dyma enghraifft:
One of the features of MND both for him as for me is that it affects your ability to speak and hence pares down what you say to the bare bones. (That's not of course the case when you have time to type a script.) Hence sometimes you are frustrated by your inability to nuance your ideas. And so it may be that his very categorical answers are the nub of his opinion, but not the full expression.Mae hwn yn gyhuddiad eithaf anghynnes heb unrhyw fath o dystiolaeth. Mae Hawking yn cynnal cyfweliadau a'n siarad yn gyhoeddus yn aml iawn, gan ddweud pethau craff yn amlach na pheidio. Mae'n hen ddigon tebol o fynegi'i hun, er gwaethaf ei anabledd. Yn ogystal, mae ei sylwadau'n cysoni'n berffaith efo pethau mae wedi'u dweud yn y gorffennol, felly nid oes rheswm o fath yn y byd i gredu bod yma nuance ar goll yn rhywle.
I find his ethical deduction and his quasi-religious observation sadly lacking. "So here we are. What should we do?" he is asked. The question sounds similar to ones posed to great religious teachers of the past. His answer is disappointing: "We should seek the greatest value of our action." It's certainly thought-provoking (what exactly does that mean for this or that action?) and it is a principle that is reinforced by the experience of life-threatening illness. One could say: "Don't waste your life." Yet as a rule for life, it lacks both the impact and the practicality of the great Judeo-Christian answer to that question: "Love God above yourself, and love your neighbour as yourself." Even those who are unwilling to subscribe to the first part can understand the second part and usually admit its validity.Dw i'n methu'n lân â deall pam fod ateb Hawking yn siomedig. Yn bersonol, mae'n well gen i'r hen glasur, y rheol euraidd: "dylech drin pobl eraill fel yr hoffech iddynt eich trin chi". Mae hwnna bron yn gliché, mi wn, ond os mynnir un frawddeg sy'n crynhoi'r ffordd y dylem fyw, dw i'n ei chael yn anodd meddwl am un sy'n rhagori. Ond y pwynt ydi nad oes rhaid bod un ateb pendant, gwrthrychol. Yn sicr, mae ffefryn Wenham yn nonsens llwyr. Mae'r cymal cyntaf yn methu am resymau amlwg, a thra bod yr ail yn ddigon tebyg i'm un i uchod, mae ceisio'i hawlio fel agwedd sy'n unigryw i Gristnogaeth (neu ffydd yn gyffredinol) yn hurt. Na, cewch chi ddim gwneud hynny mae gen i ofn. Mae'r cymal cyntaf yn un crefyddol, dwl, ac mae'r ail yn un cwbl seciwlar. Mae'r "even those" yn gwbl ddi-angen. Dw i'n ochneidio wrth ddychmygu Wenham yn crechwenu wrth deipio'r frawddeg olaf yna uchod, fel petai'n ergyd fuddugoliaethus sy'n mynd i beri problem i anffyddiwr. I'r gwrthwyneb, fel arfer mae'r elfennau o'r ffydd bydd Cristnogion yn pwyntio atynt, er mwyn trio arddangos rhinweddau'u credoau, yn rhai seciwlar a dyneiddiol. Hands off, nid eich rhinweddau chi ydyn nhw.
Finally, Stephen Hawking's headlined observation about death, that an after-life "is a fairy-story for people afraid of the dark" is both sad and misinformed. Openness to the theoretical possibility of there being 11 dimensions and fundamental particles "as yet undiscovered" shows an intellectual humility strangely at odds with writing off the possibility of other dimensions of existence.Fersiwn byrrach o'r ddadl yma: "mae ffiseg yn rhy anodd i mi". Mae tystiolaeth a llathenni o hafaliadau i gefnogi'r syniadau ffisegol uchod. Does dim byd o gwbl yn cefnogi syniadau hanner-pan am fywyd ar ôl marwolaeth. Tystiolaeth, tystiolaeth, tystiolaeth. Mae'r gwahaniaeth yn syml a phwysig.
For someone "facing the prospect of an early death", with probably an unpleasant prelude, the idea of extinction holds no more fear than sleep. It really is insulting to accuse me of believing there might be life after death because I'm afraid of the dark. On the contrary, sad though I shall be to leave behind those I love, I suspect the end of life, whatever happens, will be a relief. And, like Pascal making his wager, if it is dark, I really won't mind, because, of course, there won't be a me to mind.Sarhaus neu beidio, does fawr o ots oherwydd mae'n debygol iawn o fod yn wir. Mae'r nefoedd yn syniad sy'n gwneud i lawer o bobl deimlo'n fwy cysurus. Yn anffodus, dydi hynny ddim yn gwneud y syniad yn wir (dw i'n digwydd ystyried y synaid fel lle digon hunllefus beth bynnag, felly dw i'n eithaf balch o hynny). Peidiwch â sôn am gynwystl Pascal. Byddai rhywun yn disgwyl i Gristnogion o bawb werthfawrogi bod credu mewn duw dim ond er mwyn twyllo'r duw hwnnw yn ddilornus iawn, heb sôn am fod yn ofer (byddai'n gwybod bod eich bysedd wedi'u croesi tu ôl i'ch cefn, does bosib).
Strangely enough, my theory that there is a form of life after we die is not some sort of wishful thinking. It's based on evidence. If the brain is a computer, then, when I was studying where Stephen Hawking now teaches, I came on a mass of data of which the most convincing, the neatest, explanation was that death is not the end of life. It wasn't the most comfortable nor most obvious of conclusions, but the forensic case was forceful and beautiful, providing "simple explanations of phenomena or connections between different observations". The best exposition I found was by the then director of the Institute of Advanced Legal Studies in London, Professor Sir Norman Anderson, in The Evidence for the Resurrection (later republished as part of Jesus Christ: The Witness of History). My disturbing conclusion was that, if it happened once, as seemed beyond reasonable doubt, then I needed to revise my whole world view. What you see is not all you get."Evidence"? I ddyfynnu Inigo Montoya yn The Princess Bride gan William Goldman, "you keep using that word. I do not think it means what you think it means".
Nid yw Wenham yn trafferthu disgrifio'r dystiolaeth wych yma o gwbl, dim ond dweud pa mor anhygoel a chadarn ydyw. Grêt. Maddeuwch i mi am beidio rhuthro i Amazon.com ac archebu copi o lyfr yr efengylydd Norman Anderson. Maddeuwch i mi hefyd am chwerthin. Mae'r paragraff yna uchod mor druenus a phathetig dw i bellach yn hanner-difaru rhoi cymaint o sylw i'r dyn trwy ymateb. Ond gan fy mod wedi dod mor bell â hyn, waeth i mi bostio hwn ddim.
16/05/2011
I rannu llwyfan, neu i beidio rhannu llwyfan?
Diolch i Ifan am dynnu fy sylw at yr erthy(g)l yma. Do, fe wnaeth fy ngwylltio i braidd.
Mae William Lane Craig yn greadaethwr digon toreithiog. Mae'n debyg ei fod wedi herio Richard Dawkins (efallai anffyddiwr proffesiynol enwoca'r byd) i ddadlau'n gyhoeddus ag o, a bod hwnnw wedi gwrthod.
Dyma enghraifft glasurol o un o hoff dactegau'r bobl ryfedd hynny sy'n credu mewn rhyw dduw anweledig ond sydd eto'n gwrthod derbyn y dystiolaeth helaeth dros esblygiad biolegol. Does dim syndod, gan ei fod yn dacteg hynod lwyddiannus ac effeithiol. Drwy herio gwyddonwyr (neu unrhyw berson call sy'n meddu ar wir hygrededd) i ddadlau'n gyhoeddus efo nhw, mae nhw'n creu sefyllfa win-win. Os ydi'r gwyddonydd yn gwrthod, yna gellir ei alw'n gachgi (gweler yr erthygl). Ond os caiff y cynnig ei dderbyn, yna mae'r cracpot wedi ennill yn barod trwy rannu llwyfan efo "gwyddonydd go iawn!". Gall wedyn ddwyn peth o hygrededd hwnnw er mwyn ei hun, yn ogystal â denu sylw gan y wasg. "That would look rather good on your CV, not so good on mine", fel mae Dawkins ei hun wedi'i ddweud mewn achosion eraill tebyg (dw i'n credu mai dyfynnu rhywun arall oedd o, ond ta waeth). Mae'r hen ddywediad yn wir. Does dim pwynt dadlau â ffyliaid: byddent yn eich tynnu i lawr i'w lefel nhw a'ch curo gyda phrofiad.
Yn waeth na hynny, mae efengylwyr - yn benodol, y sawl sy'n gwneud bywoliaeth trwy ledaenu ffwndamentaliaeth - fel arfer yn garismataidd tu hwnt. Un o'u rhinweddau prin ydi'u sgiliau siarad cyhoeddus ardderchog. Dyna un maes lle maent yn sicr yn rhagori ar lawer o wyddonwyr. Yn ogystal, dylid cofio'u gallu arwrol i ddenu llond bysus o'u praidd ffyddlon i ddod i gefnogi a llenwi'r gynulleidfa. Dod i weld y Cristion clên yn "rhoi'r gwyddonydd a'i gôt wen yn ei le" fydd y trueiniaid yma, nid pwyso a mesur cryfder y dadleuon a glywir. Fel arfer nid yw'r ornest yn un deg, gan fod angen mwy na dadleuon cywir er mwyn gallu "ennill".
Dyma pam mai'r ddadl lafar ydi'u hoff arf. Maent yn fwy cyndyn i ddadlau'n ysgrifenedig, lle gellir cyfieirio'n uniongyrchol at y dystiolaeth, a lle mae'r tactegau a ddisgrifir isod yn llawer llai effeithiol. Fel y dywedais, y ffotograff ohonyn nhw ar lwyfan yn erbyn gwyddonydd enwog ydi dechrau a diwedd eu buddugoliaeth. Dawkins fwy na neb ydi'r wobr eithaf, ac mae'n siwr bod yr Athro druan yn derbyn dwsinau o heriau o'r fath yn wythnosol; mae'n amhosibl wrth reswm derbyn y cwbl, hyd yn oed pe cytunir ar egwyddor.
Mae'r creadaethwr yn mynd i hawlio "buddugoliaeth" doed a ddelo. Mae ganddynt nifer o dactegau er mwyn creu'r camargraff bod hynny'n wir. Y clasur ydi'r Gish Gallop. Dyma'r grefft (os dyna'r gair) o raffu pob math o wahanol gelwyddau, "dadleuon", honiadau ac ensyniadau amheus rif y gwlith. Po fwyaf y gorau, cyn gynted â phosibl. Afraid dweud bod rhaffu celwydd yn llawer haws na'i gywiro, a'n cymryd ffracsiwn o'r amser. Eiliad yn unig mae'n ei gymryd i fabi chwydu, ond gall gymryd hanner awr i lanhau'r llanast. Mae celwydd hawdd, syml, yn gallu bod yn drawiadol ac effeithiol iawn, yn enwedig pan mae'r gwir yn gofyn am esboniad hirach (a mwy diflas). Dyma pam fod y dyfyniad hwnnw o eiddo Mark Twain o mor wir: "a lie can travel halfway around the world while the truth is putting on its shoes." Mae'n anodd i'r gwyddonydd wybod lle i ddechrau. Beth bynnag, hyd yn oed pe llwyddir i gywiro 99 allan o 100 celwydd, wedi'r ddadl byddai'r ffwndamentalwr yn sicr o bwyntio at yr un sydd ar ôl a gweiddi "aha! doedd dim ateb ganddo i hwnna!"
Dyma pam bod y bobl yma'n ddieithriad yn awyddus i wneud pwnc y drafodaeth mor ben-agored â phosibl. Pe cyfyngir y ddadl i un maes penodol, mae'n anos iddynt ddianc trwy newid y pwnc a chwydu mwy fyth o lanast sy'n gofyn am oriau o lanhau pwyllog.
Mae erthygl y Telegraph yn rhoi'r argraff bod William Lane Craig yn academydd gweddol barchus. Yn wir, o gymharu â llawer o'r cracpotiaid sydd ar yr un ochr ag o o'r ddadl, mae'n siwr ei fod ymysg y lleiaf anneallus. Ond dydi hynny ddim yn dweud llawer (rhybudd: mae'r ddolen yna'n cynnwys fideo o WLC yn mynd trwy'i bethau). Mae ymgais y dyn i fod yn fwy soffistigedig na'i gyd-ffwndamentalwyr yn ofer a chwerthinllyd. Rhaid rhyfeddu ar y gymnasteg meddyliol mae'n rhaid iddo'i gyflawni er mwyn cyfiawnhau ei safbwyntiau. Gweler, gan gyfyngu fy hun i un enghraifft benodol yn unig, y paragraff canlynol o'i eiddo, lle mae'n cyfiawnhau ac esgusodi trais erchyll yr Israeliaid fel y'i disgrifir yn yr Hen Destament:
Er efallai bod hynny ynddo'i hun yn rhoi mwy o sylw i'r dyn na'i haeddiant, mae rhywun wedi mynd i'r drafferth o greu gwefan yn benodol er mwyn chwalu dadleuon WLC yn ddarnau, ac mae'n werth ei darllen.

So whom does God wrong in commanding the destruction of the Canaanites? Not the Canaanite adults, for they were corrupt and deserving of judgement. Not the children, for they inherit eternal life. So who is wronged? Ironically, I think the most difficult part of this whole debate is the apparent wrong done to the Israeli soldiers themselves. Can you imagine what it would be like to have to break into some house and kill a terrified woman and her children? The brutalizing effect on these Israeli soldiers is disturbing.Gwae chi os nad ydi'r geiriau yna'n saethu ias i lawr eich cefn. A hynny, sylwch, ar wefan o'r enw "Reasonable Faith". Os ydi o wir yn credu'r uchod, mae'r dyn yn anghenfil ac mae'n hawdd deall pam fod Dawkins mor awyddus i gadw'i bellter rhagddo. Ych a fi.
Er efallai bod hynny ynddo'i hun yn rhoi mwy o sylw i'r dyn na'i haeddiant, mae rhywun wedi mynd i'r drafferth o greu gwefan yn benodol er mwyn chwalu dadleuon WLC yn ddarnau, ac mae'n werth ei darllen.
Subscribe to:
Posts (Atom)